Ymchwil yn datgelu’r ffactorau cudd sy’n creu risg o lyngyr yr afu ar ffermydd Cymru

Llun gan Anthony Beck, Pexels
23 Tachwedd 2026
Yn ôl ymchwil newydd gan Brifysgol Aberystwyth, gallai nodweddion pridd, mathau o laswellt a hyd yn oed ymddygiad pori defaid unigol ddylanwadu ar y risg o ddatblygu haint llyngyr yr afu mewn da byw yng Nghymru.
Amcangyfrifir y bydd haint llyngyr yr afu, clefyd parasitig sy’n effeithio ar ddefaid a gwartheg, yn costio hyd at £300 miliwn i ddiwydiant amaethyddiaeth y DU bob blwyddyn.
Mae’r haint yn dibynnu ar falwoden fach, Galba truncatula, i gael ei drosglwyddo. Mae’r falwoden yn gweithredu fel llety dros dro ac fel arfer fe’i cysylltir â chynefinoedd gwlyb, mwdlyd.
Er y gwyddys bod amodau gwlyb yn hybu lledaeniad llyngyr yr afu, aeth gwyddonwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth ati i ddarganfod pam mae’r risgiau heintio'n amrywio rhwng ffermydd a hyd yn oed ymhlith anifeiliaid sy'n pori'r un caeau.
Cynhaliwyd tair astudiaeth ar wahân, a phob un yn edrych ar gam gwahanol yng nghylch bywyd y parasit – amodau'r pridd sy'n cynnal y malwod lletyol, sut mae larfa llyngyr yr afu yn rhyngweithio â gwahanol rywogaethau glaswellt, ac arferion pori ŵyn mewn ardaloedd lle y gwyddys bod yr haint yn cael ei drosglwyddo.
Yn yr astudiaeth gyntaf, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn Parasitology, ystyriwyd a allai nodweddion pridd helpu i egluro gwahaniaethau yn y risgiau o ran llyngyr yr afu. Cynhaliwyd arolwg gan y tîm ymchwil o 146 o ardaloedd gwlyb ar draws un ar bymtheg o ffermydd yng Nghymru. Roedd pob un o'r ardaloedd hyn yn gallu cynnal y malwod lletyol, ond daeth gwyddonwyr o hyd iddynt mewn llai na hanner yr ardaloedd.
Roedd y malwod yn llai tebygol o gael eu canfod mewn priddoedd mwy asidig, yn enwedig lle’r oedd y pH yn disgyn o dan tua 5.5, ac mewn priddoedd â chynnwys uwch o ddeunydd organig a llai o glai.
Dywedodd y myfyriwr PhD Chris Smith, a arweiniodd yr astudiaeth:
"Mae ein priddoedd yn sylfaenol ar gyfer amaethyddiaeth gynaliadwy, yn cefnogi glaswelltir cynhyrchiol a systemau ffermio gwydn. Mae ein hymchwil wedi dangos bod priddoedd hefyd yn chwarae rhan bwysig wrth ddylanwadu ar y risg o ddatblygu clefydau, gyda nodweddion pridd allweddol, gan gynnwys pH a deunydd organig, yn gysylltiedig â phresenoldeb neu absenoldeb y malwod lletyol sy'n hanfodol ar gyfer trosglwyddo'r llyngyr afu."
Yn yr ail astudiaeth, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn Parasites & Vectors, ystyriwyd a yw gwahanol rywogaethau glaswellt a phorthiant yn effeithio ar allu larfa'r llyngyr afu i lynu at lystyfiant ar ôl gadael eu malwod lletyol a chyn datblygu'n godennau heintus.
Canfu'r ymchwilwyr fod cyfraddau ymlyniad yn is ar rywogaethau glaswellt Timothy, Cocksfoot a Yorkshire fog nag ar Rygwellt. Mae hyn yn awgrymu y gallai'r rhywogaethau glaswellt sy'n bresennol mewn porfa ddylanwadu ar ba mor hawdd y mae da byw sy’n pori yn dod ar draws y codennau ac yn eu llyncu.
Dywedodd Dr Cennydd Jones, Darlithydd mewn Gwyddor Glaswelltir a chyd-ymchwilydd ar y prosiect:
"Ers degawdau, rydym wedi bod yn ymwybodol y gall gwahanol rywogaethau porthiant ddylanwadu ar drosglwyddo mwydod gastroberfeddol ar borfa, ac mewn rhai achosion gallant dorri ar draws y broses. Mae'r astudiaeth hon yn dangos am y tro cyntaf fod cyfraddau ymlyniad y llyngyr afu yn amrywio rhwng rhywogaethau glaswellt ac mae'n darparu llwyfan i astudio sut y gellid trin cyfansoddiad porfa i helpu i leihau’r trosglwyddo yn y dyfodol."
Yn y drydedd astudiaeth, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn Veterinary Parasitology, defnyddiwyd dull o ddilyniannu DNA planhigion mewn samplau o garthion i ymchwilio i ddeiet ŵyn a oedd wedi'u heintio â llyngyr yr afu, a rhai eraill nad oeddent wedi'u heintio.
Er bod yr ŵyn yn pori'r un caeau, roedd y gwahaniaethau yn y proffiliau planhigion a gafwyd yn samplau carthion yr anifeiliaid a oedd wedi’u heintio a’r rhai a oedd heb eu heintio yn awgrymu y gallai dewisiadau pori unigol ddylanwadu ar y cyswllt â’r parasit.
Dywedodd Serian Evans, prif awdur yr astudiaeth:
"Er eu bod yn pori'r un caeau, dim ond cyfran o'r ŵyn oedd wedi'u heintio â llyngyr yr afu. Roedd gan yr ŵyn hyn nodweddion dietegol penodol, gan gynnwys lefelau uwch o DNA blodau menyn yn eu carthion, planhigyn a geir yn gyffredin mewn ardaloedd sy'n cynnal y malwod lletyol. Mewn cyferbyniad, roedd gan yr ŵyn nad oeddent wedi’u heintio lefelau uwch o DNA planhigion gwrychoedd, na fyddent fel arfer yn dod i gysylltiad â chodennau llyngyr yr afu."
Dywedodd Dr Rhys Jones, prif ymchwilydd ym Mhrifysgol Aberystwyth:
"Mae risgiau llyngyr yr afu yn aml yn gysylltiedig ag amodau gwlyb, ond mae'r astudiaethau hyn yn dangos bod y darlun yn fwy cymhleth. Drwy edrych ar nodweddion y pridd, cyfansoddiad porfa ac ymddygiad pori da byw, gallwn ddechrau dod i ddeall pam mae'r risg yn amrywio rhwng ffermydd a hyd yn oed rhwng anifeiliaid sy'n pori'r un caeau.
"Yn y tymor hwy, gallai'r wybodaeth hon helpu i wella sut rydym yn nodi ac yn rheoli risg llyngyr yr afu, gan gefnogi dulliau mwy penodol o reoli parasitiaid a helpu ffermwyr i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth fwy cadarn."
Drwy daflu goleuni newydd ar y ffactorau sy'n dylanwadu ar drosglwyddo llyngyr yr afu, bydd y canfyddiadau diweddaraf hyn yn helpu i adeiladu darlun cliriach o un o fygythiadau parasitig mwyaf parhaus y diwydiant da byw, a gallent gyfrannu at arferion rheoli clefydau gwell.
AU23826