Dr Manod Williams
BSc Amaethyddiaeth a Gwyddor Da Byw (PA), MSc Gwyddor Da Byw (PA), PhD Hwsmonaeth Manwl-Gywir Da Byw (PA), TUAAU (PA)
Darlithydd mewn Biomilfeddygaeth a Gwyddor Anifeiliaid
Manylion Cyswllt
- Ebost: maw90@aber.ac.uk
- ORCID: 0000-0002-9392-1700
- Swyddfa:1.14 Adeilad Gwendolen Rees
- Ffôn: +44 (0) 1970 622925
- Google Scholar: https://scholar.google.co.uk/citations?user=KO9QwvsAAAAJ
- Proffil Porth Ymchwil (https://research.aber.ac.uk/en/persons/467f6670-005a-4cf0-9e95-402ba6dc0dd0)
Graddiais gyda BSc mewn Amaethyddiaeth gyda Gwyddor Anifeiliaid yn IBERS, Prifysgol Aberystwyth. Yna bues yn ffodus i ennill ysgoloriaeth gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol (CCC) i astudio ar gyfer MSc mewn Gwyddor Da Byw ac yna PhD yn y gwyddorau da byw eto yn IBERS. Canolbwyntiodd fy PhD ar ddatblygu technegau i nodi ymddygiad gwartheg godro ar dir pori yn awtomatig gan ddefnyddio synwyryddion arwahanol, yn y pen draw i gefnogi ffermwyr fel offeryn rheoli. Fel rhan o ysgoloriaeth y CCC, roeddwn yn ymwneud â datblygu darpariaeth addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ym maes Systemau Cynhyrchu Da Byw. Ar hyn o bryd rwy'n addysgu Systemau Cynhyrchu Da Byw i bob blwyddyn israddedig FdSc a BSc yn ogystal â myfyrwyr MSc. Rwyf hefyd yn cyfrannu at sawl modiwl arall gan gynnwys Maeth Da Byw, Adolygiad Critigol a Dulliau Ymchwil.
Rwy'n cydlynu ac yn dysgu ar sawl modiwl israddedig ac ôl-raddedig gyda ffocws ar Systemau Cynhyrchu Da Byw yn yr Adran Gwyddorau Bywyd (AGB). Rwyf hefyd yn Gyfarwyddwr Marchnata a Recriwtio yn yr adran (AGB).
Mae fy niddordebau ymchwil ym maes technegau Ffermio Da Byw Manwl-gywir (FfDBMG) i gynorthwyo ffermwyr i reoli eu da byw. Mae FfDBMG eisoes yn cyfrannu at reoli da byw ar lefel fferm, gan ganiatáu i ffermwyr, ymarferwyr milfeddygol ac eraill sy'n gysylltiedig gael mwy o wybodaeth ar sut mae eu hanifeiliaid yn ymddwyn ac yn perfformio. Gyda'r wybodaeth hon, efallai y bydd modd nodi materion yn gynharach, gan gynnwys materion sy'n arwain at berfformiad a lles gwael.
In: Applied Animal Behaviour Science, Vol. 302, 107053, 30.09.2026.
Research output: Contribution to journal › Article › peer-review
In: Frontiers in Veterinary Science, Vol. 13, 1807455, 14.04.2026.
Research output: Contribution to journal › Article › peer-review
In: Agriculture (Switzerland), Vol. 15, No. 3, 249, 28.02.2025.
Research output: Contribution to journal › Article › peer-review
In: Veterinary Record, Vol. 194, No. 4, 17.02.2024, p. 154-154.
Research output: Contribution to journal › Letter
In: Applied Animal Behaviour Science, Vol. 266, 106036, 30.09.2023.
Research output: Contribution to journal › Article › peer-review
