Naratif Mewn Celf

 

Gellir astudio Naratif Mewn Celf fel cwrs annibynnol ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Ffeithiau Allweddol

 

Iaith: Cymraeg

Hyd: 10 Wythnos

Nifer y Credydau: 10

Tiwtor: Eurfryn Lewis

Dull Dysgu: Ar lein

Lefel: Mae’r modiwl hwn ar Lefel 4 FfCCH

Cod Modiwl: YD15310

Ffi: £140.00 - Cynllun Hepgor Ffioedd

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’n rhestr bostio.

 

Diolch i gefnogaeth ariannol gan Medr trwy'r Cynllun Hepgor Ffioedd, caiff ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg sy’n byw yng Nghymru (a sydd ddim yn astudio mewn prifysgol), astudio’r cwrs hwn am ddim.

Oherwydd natur y cwrs, nifer cyfyngedig sydd ar gael felly y cyntaf i’r felin fydd hi!

 

Amlinell 

Bydd y modiwl hwn yn cael ei ddysgu mewn tiwtorialau trwy greu ac archwilio arlunwyr cyfoes sy'n darlunio ac yn adrodd straeon trwy baentio. Bydd y myfyrwyr yn gwneud astudiaeth fer o hanes ‘naratif mewn paentio’ ac yn datblygu eu naratif eu hunain gyda thri darn gorffenedig ar thema o'u dewis. Mae hwn yn fodiwl ardderchog er mwyn datblygu portffolio ar gyfer ysgol gelf. Mae bylchau amser wedi eu cynnwys rhwng sesiynau i roi cyfle i atgyfnerthu syniadau’r myfyrwyr. Bydd pwyslais o fewn y modiwl hwn ar artistiaid o Gymru ond byddwn yn dechrau gyda'r stori gyntaf - sut mae artistiaid wedi darlunio straeon o'r Beibl.

Rhaglen y Cwrs

Bydd y cynllun gwaith yn cyfeirio at waith celf arlunwyr cyfoes fel Paula Rego, Stanley Spencer a Sidney Nolan; Karolina Laurusdottir, arlunwyr cyfoes Cymreig fel Gus Payne, Shani Rhys, James, a Kevin Sinnott. Bydd y sesiynau'n cael eu cyflwyno fel tiwtorial grŵp gyda chyflwyniad byr i rai technegau pan fo'n briodol. Bydd pedair sesiwn yn cael eu rhannu'n astudiaeth 5 awr a'u cyflwyno dros rai misoedd fel bod myfyrwyr yn gweithio o fewn ffiniau am yr ychydig sesiynau cyntaf hyd nes y sefydlir digon o hyder i gychwyn ar ddatblygu eu portffolio eu hunain.

Sesiwn Un: Arwyr. The Larrikin. Gwaith yn seiliedig ar baentiadau Sidney Nolan o Ned Kelly. PowerPoint: Cyfres Ned Kelly, Burke and Wills a Mrs Fraser. Creodd Nolan weithiau gydag emylsiynau cartref a phaentio chwistrell enamel.

Sesiwn Dau: Stanley Spencer: Naratif a dylanwadau crefyddol Piero della Francesca. Atyniad patrymau a dyfeisiau cyfansoddiadol safonol. Creu naratif Beiblaidd. Trafodaeth dosbarth: Pa mor bwysig yw'r sgil o luniadu'n dda? A yw'n iawn defnyddio ffotograffau fel defnydd cyfeiriol?

Sesiwn Tri: Safbwynt Cymreig: Shani Rhys, James a Kevin Sinnott. Beirniadaeth dosbarth. Cyflwyno eich syniadau i'ch cyfoedion. Creu cyfansoddiadau deinamig ar gyfer cyflawni paentiadau terfynol. Bydd bwlch hir rhwng y sesiwn hon a'r sesiwn olaf i roi cyfle i fyfyrwyr gael ymgolli a phenderfynu ar eu gwaith portffolio. Bydd tiwtor ar gael i roi cyngor tiwtorial ar-lein.

Sesiwn Pedwar: Penderfynu a dathlu. Asesiad a beirniadaeth dosbarth trwy adolygiad cymheiriaid. Dod o hyd i'ch beirniadaeth: I le'r ewch chi o fan hyn? Wyth cam creadigrwy

Canlyniadau Dysgu

  1. Adnabod y prosesau a'r camau y mae artistiaid yn eu defnyddio i ddatblygu eu naratif drwy'r dyddlyfr myfyriol.
  2. Ymgorffori sgiliau a thechnegau amrywiol yng ngwaith y myfyrwyr eu hunain.
  3. Cymharu a chyferbynnu fformatau a chyfansoddiadau naratif hanesyddol a chyfoes.
  4. Adnabod yr angen am wahanol fathau o waith paratoi: h.y. bywluniad, casglu deunyddiau cyfeirio, defnyddio ffotograffiaeth.
  5. Gwerthfawrogi agweddau symbolaidd, emosiynol, diwylliannol a chorfforol paentio naratif.

Asesiadau

  1. Portffolio - 50%
  2. Portffolio - 30%
  3. Dyddlyfr myfyriol - 20%

Gofynion Mynediad 

Mae hwn yn gwrs i bawb. Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol ac nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol.