Scriptwriting for Beginners: Writing for Radio, Theatre, Film and TV
Gellir astudio 'Scriptwriting for Beginners: Writing for Radio, Theatre, Film and TV' fel cwrs annibynnol ac mae'n gwrs dewisol ar gyfer y Dystysgrif Addysg Uwch mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Ffeithiau Allweddol
Iaith: Saesneg
Hyd: 10 Wythnos
Nifer y Credydau: 10
Tiwtor: Sarah williams
Dull Dysgu: Ar lein
Lefel: Mae'r modiwl hwn ar Lefel 4 FfCChC
Cod y Modiwl: XE11710
Ffi: £140.00 - Cynllun Hepgor Ffioedd
Gellir archebu lle ar y cwrs yma.
Braslun
Oes gennych chi syniad am sgript ar gyfer ffilm, teledu, radio neu theatr ond eich bod yn ansicr sut i ddechrau? Ydych chi wedi ysgrifennu sgript ond angen ei hail-lunio neu ei hailwampio? Hoffech chi ysgrifennu gwell deialog, plotiau mwy cyffrous, neu ddod â'ch cymeriadau'n fyw?
Cwrs i ddechreuwyr yw hwn sy'n rhoi canllaw ymarferol a damcaniaethol i fyfyrwyr i ysgrifennu sgriptiau. Byddwch yn dysgu sut i ddatblygu cymeriadau, stori a phlot, yn ogystal â sut i saernïo eich sgript ac ysgrifennu deialog.
Yn y cwrs hwn byddwn yn canolbwyntio ar ysgrifennu dechrau eich sgript, gan gwmpasu hanfodion sgriptio i'ch helpu i ysgrifennu sgript lawn.
Yna byddwch yn gwneud rhagor o weithgareddau ar-lein ac yn cyflwyno eich asesiad terfynol. Bydd eich tiwtor yn rhoi cefnogaeth ar-lein drwy gydol y cwrs. Bydd y cwrs yn darparu lle diogel a chefnogol i rannu’ch gwaith.
Rhaglen
Darperir y modiwl trwy Blackboard, a’r wyth uned yn cael eu darparu trwy gyflwyniadau Panopto. Bydd pob uned yn cynnwys gweithgareddau a thasgau er mwyn i’r myfyrwyr ymarfer y technegau y maent wedi’u dysgu, a datblygu eu sgiliau.
Yn ogystal â'r deunyddiau dysgu ar Blackboard gellir cysylltu â’r tiwtor trwy e-bost trwy gydol y cwrs i ateb unrhyw ymholiadau a chael arweiniad. Bydd y cwrs hefyd yn cynnig cyfle i'r myfyrwyr gael adborth manwl ar eu drafft cyn y cyflwyniad terfynol.
- Uned 1 - Datblygu syniad gan graffu ar gysyniadau, themâu a hanfodion eraill i benderfynu a oes potensial am sgript yn y syniad, gan bwyso a mesur fformatau posibl a gofyn a yw’r syniad yn addas ar gyfer teledu, ffilm, theatr neu radio. Mae’r myfyrwyr yn cwblhau eu sgript ar-lein.
- Uned 2 - 3 Datblygu stori drwy ddatblygu cymeriad â gweithgareddau ymarferol gan gynnwys trafod prif gymeriadau a gwrthgymeriadau, nodau ac amcanion gweithredol a chwsg, cymeriadaeth naturiolaidd ac annaturiolaidd, a phwysigrwydd ymchwil ar gyfer cymeriadaeth.
- Uned 4 - Creu deialog trwy gymeriadaeth a gwahanol fathau o ddeialog ar gyfer arddulliau, genre a fformat. Mynd i ddiwrnod dysgu wyneb yn wyneb.
- Uned 5 - 7 Trosolwg o strwythur mewn theatr, ffilm, teledu a radio, ac o dechnegau amrywiol i ddatblygu strwythur er mwyn rhoi fframwaith sylfaenol i stori.
- Uned 8 - Ystyriaeth o hanfodion dechreuad sgript a fydd yn cynnwys enghreifftiau o sgriptiau er mwyn trin a thrafod dechrau sgript.
Canlyniadau Dysgu
Ar ôl cwblhau'r modiwl hwn dylai'r myfyrwyr allu gwneud y canlynol:
- Dangos dealltwriaeth o’r gofynion creadigol gwahanol a geir mewn amrywiol gyfryngau sgript, gan gynnwys radio, theatr, teledu a ffilm.
- Cydymffurfio â gofynion amrywiol a defnyddio technegau a themâu i lunio dechrau’r sgript, sy'n rhan o strwythur y cyfanwaith.
- Dangos dealltwriaeth o rolau cymeriadau a datblygiad cymeriadau.
- Cloriannu drafft eich sgript a nodi rhannau i’w hail-ddrafftio a’u golygu.
Asesiadau
- Braslun y sgript 200 gair (20%)
- Cyflwyno adran gyntaf y sgript; 1800 o eiriau (80%)
Awgrymiadau am Ddeunydd Darllen
Cynigir awgrymiadau am ddeunydd darllen trwy gydol y cwrs.
Gofynion Mynediad
Cwrs i bawb yw hwn. Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol ac nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol.
Beth sydd ei angen arnaf?
Gan ei fod yn gwrs ar-lein, bydd angen y canlynol arnoch:
- Cyswllt â'r Rhyngrwyd
- Gliniadur neu gyfrifiadur sydd â gwe-gamera a meicroffon; efallai y bydd clustffonau yn ddefnyddiol
- Defnyddio’r gwe-borwr Chrome lle bo hynny'n bosib.