Cyflwyniad i Brintio

 

Mae’r cwrs hwn yn cynnig taith gynhwysfawr i chi o amgylch dulliau argraffu ‘relief’ ac ‘intaglio’ ac yn eich annog i ddatblygu technegau traddodiadol ac arbrofol.

Ffeithiau Allweddol

 

Iaith: Cymraeg

Hyd: 1 Sesiwn 

Nifer y Credydau: 10

Tiwtor: Elin Crowley    

Dull Dysgu: Wyneb i wyneb

Lefel: Mae'r modiwl hwn ar Lefel 4 FfCChC

Cod y Modiwl: XA15410

Ffi: Am Ddim - Cynllun Hepgor Ffioedd (gweler yr amodau isod).

Gellir archebu lle ar y cwrs yma.

CA307: Cyflwyniad i Brintio 08/05/2026

CA308: Cyflwyniad i Brintio 19/06/2026 

Diolch i gefnogaeth ariannol gan 'Medr' trwy'r Cynllun Hepgor Ffioedd, caiff ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg sy’n byw yng Nghymru (a sydd ddim yn astudio mewn prifysgol), astudio’r cwrs hwn am ddim.

Oherwydd natur y cwrs, nifer cyfyngedig sydd ar gael felly y cyntaf i’r felin fydd hi!

Manylion am y cwrs

 

 

Amlinell 

Mae’r cwrs hwn yn cynnig taith gynhwysfawr i chi o amgylch dulliau argraffu ‘monoprint’ ac ‘intaglio’ ac yn eich annog i ddatblygu technegau traddodiadol ac arbrofol.

Byddwn yn arbrofi gyda dulliau torlun leino a cholagraff a fydd yn cael eu hymarfer yn gyntaf mewn du a gwyn a'u datblygu mewn lliw.

Mae’r deunyddiau hanfodol yn cael eu darparu.

Manylion am y tiwtor, Elin Crowley

Gwneuthurwr printiau o Fachynlleth, Canolbarth Cymru yw Elin a arbenigodd mewn Gwneud Printiau ar ei Gradd BA Celfyddyd Gain yn UWIC, Howard Garden (2000-2003). 

Syrthiodd mewn cariad â'r grefft o wneud printiau; y gweisg, yr inciau, aroglau ystafell argraffu, y prosesau a'r technegau niferus y gellir eu dysgu, y broses ac ailadrodd rhywbeth nes i chi greu rhywbeth unigryw.   

Mae gan Elin ddiddordeb mewn darlunio tirweddau anhygoel Cymru, y bryniau, y mynyddoedd, y coed a’r bywyd gwyllt sy’n gwneud y dirwedd hon mor bwysig iddi. Mae hi'n archwilio'r cysylltiad sydd gennym ni â'r tir a sut mae'n ein siapio ni.   ​

Yn ddiweddar gorffennodd Elin ei MA mewn Celfyddyd Gain ym Mhrifysgol Aberystwyth a dyfarnwyd Rhagoriaeth iddi.