Uwchgylchu Dillad
Gellir astudio Uwchgylchu Dillad fel cwrs annibynnol ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Ffeithiau Allweddol
Iaith: Cymraeg
Hyd: 10 Wythnos
Nifer y Credydau: 10
Tiwtor: Eleri Gould
Dull Dysgu: Wyneb yn Wyneb
Lefel: Mae’r modiwl hwn ar Lefel 4 FfCCH
Cod Modiwl: YD15110
Ffi: £150.00 - Cynllun Hepgor Ffioedd
Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd
Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’n rhestr bostio.
Diolch i gefnogaeth ariannol gan Medr trwy'r Cynllun Hepgor Ffioedd, caiff ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg sy’n byw yng Nghymru (a sydd ddim yn astudio mewn prifysgol), astudio’r cwrs hwn am ddim.
Oherwydd natur y cwrs, nifer cyfyngedig sydd ar gael felly y cyntaf i’r felin fydd hi!
Amlinell
Bydd myfyrwyr sy’n cymryd y modiwl hwn yn cael profiad o weithio gyda gwahanol fathau o ddillad; byddant yn dysgu sut i’w torri ac yna sut i’w defnyddio i greu datganiadau eco ffasiwn sy’n newydd a chyffrous. Mae angen sylw mawr iawn i fanylion trwy gydol y cwrs.
Bydd myfyrwyr yn dechrau trwy wneud bag syml drwy uwchgylchu ac yna symud ymlaen i ddillad, gan ddatblygu sgiliau dylunio ar hyd y ffordd. Byddwn yn trafod nodweddion gwahanol fathau o ffabrig a’u rhinweddau unigryw. Bydd angen i fyfyrwyr fedru cael peiriant gwnïo i’w ddefnyddio rhwng sesiynau. Dechreuwch gasglu hen ddillad a siwmperi yn barod i’w huwchgylchu
Rhaglen y Cwrs
Bydd myfyrwyr yn dechrau trwy ddod i ddeall y peiriant gwnïo drwy wneud bag siopa syml ac wedyn symud ymlaen i wneud dillad, o’r pen i’r traed. Bydd pob dilledyn yn cael ei wneud drwy dynnu eitemau o ddillad presennol yn ddarnau ac ail-greu eitemau newydd ohonynt, gan ddefnyddio darnau, nodweddion, sbarion a thrimiau presennol. Mae hwn yn gwrs tecstil heb frasbwythau ac sy’n torri rheolau.
Sesiwn 1: Tasg un: Ymgyfarwyddo â pheiriant gwnïo (naill ai peiriant y myfyrwyr eu hunain neu’r Janome 525 Sewist). Tasg dau: Gwneud bag siopa o ddilledyn, sef dewis ffabrig wedi’i ailgylchu, creu a thorri patrwm papur, gwnïo’r bag gan ddefnyddio sêm Ffrengig sydd ag addurniadau igam-ogam a phoced os dymunir.
Sesiwn 2: Dylunio a gwneud het Lluniadu a dylunio arddull yr het. Dewis/gwneud ffabrig yn ôl ei nodweddion gwahanol e.e. gwlân yn erbyn plastig; gellir gwneud gwlân ffelt drwy ferwi siwmper, gellir gwneud ffabrig gwrth-ddŵr trwy smwddio bagiau plastig gyda’i gilydd a gellir gwneud ffabrigau mwy trwchus trwy asio haenau at ei gilydd. Torri a pharatoi’r ffabrig, gwnïo’r holl ddarnau at ei gilydd, gan ddefnyddio addurniadau os dymunir.
Sesiwn 3: Trawsnewid top (o grys-T mawr) Trafodaeth: Edrych ar wahanol arddulliau a syniadau. Dylunio blaen a chefn yr arddull a ddymunir – gwddf halter, heb gefn, rib/rhesog, wedi’i ffitio ac ati. Torri’r crys-T a’i ailosod ar y manecwin. Gwnïo’r holl ddarnau a rhoi sylw i bob sêm a gorffeniad.
Sesiwn 4: Trawsnewid gwaelod (sgert neu drywsus) Trafodaeth: Edrych ar wahanol arddulliau a syniadau. Dylunio’r dilledyn a ddewisir gan fod â syniad uwchgylchu penodol mewn golwg h.y. gwneud sgert o lewys crys neu droi pâr o drowsus yn sgert. Casglu’r darnau dillad angenrheidiol a’u torri i baratoi. Gosod y darnau ar y manecwin. Gwnïo’r holl ddarnau at ei gilydd a rhoi sylw i’r sêm a manylion y gorffeniad.
Sesiwn 5: Gwneud dilledyn uchaf/trosdilledyn (o ddilledyn sy’n bodoli’n barod) Trafodaeth: Edrych ar y gwahanol opsiynau (e.e. clogyn, gwasgod, cardigan). Tynnu llun syniadau am y dilledyn gorffenedig. Casglu eitemau posibl i’w torri. Gosod popeth at ei gilydd a gwnïo’r dilledyn, gam wrth gam. Rhoi sylw i bob sêm, addurniad a gorffeniad.
Sesiwn 6: Cyflwyno’r asesiad i grŵp a thiwtor.
Canlyniadau Dysgu
- Ysgrifennu Datganiad o Fwriad ar gyfer prosiect personol.
- Dylunio a chyflwyno tri dilledyn gorffenedig sydd wedi’u huwchgylchu.
- Dangos dealltwriaeth o wahanol rinweddau a gwendidau gwahanol ffabrigau trwy lyfr log gweledol.
- Ailddylunio dilledyn syml wedi’i wneud o ddillad wedi’u hailgylchu ym mhrosiect un.
Asesiadau
- Adroddiad - 10%
- Portffolio - 90%
Gofynion Mynediad
Mae hwn yn gwrs i bawb. Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol ac nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol.
Dysgu Gydol Oes, Ail Lawr, Adeilad Cledwyn, Campws Penglais, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3DD
Ffôn: 01970 621580 Ebost: dysgu@aber.ac.uk