Gwobrau i fyfyrwyr am gyflawniad eithriadol mewn Mathemateg

29 Medi 2025
Mae’r adran yn dyfarnu gwobrau yn flynyddol i fyfyrwyr sydd wedi rhagori yn eu hastudiaethau Mathemateg dros y flwyddyn flaenorol, diolch i roddion a chymynroddion gan gyn aelodau o staff a myfyrwyr.
Roedd yn bleser cyflwyno gwobrau i rai o’n myfyrwyr wnaeth raddio yn gynharach eleni. Yr wythnos yma, roedd yn dro i rai o’r myfyrwyr sydd wedi dychwelyd atom i ddathlu eu llwyddiannau.
Mae Gwobr T.V. Davies ar gyfer Mathemateg Gymhwysol, er cof am yr Athro T.V. Davies, Pennaeth Mathemateg Gymhwysol 1958-1967 yn cael ei dyfarnu am berfformiad rhagorol mewn Mathemateg Gymhwysol; yr enillwyr eleni yw Hannah Peacock, Tom Wolstencroft, Ben Powell a Christian Smith (sydd i gyd yn y llun).
Mae Gwobr V.C. Morton ar gyfer Mathemateg, am berfformiad rhagorol mewn Mathemateg, yn cael ei dyfarnu er cof am yr Athro Vernon Morton, Pennaeth Mathemateg Bur, 1923-1961. Dyfarnwyd y gwobrau yma eleni i Harry Richards, Sam Ferris a Jack Arnold (sydd hefyd yn y llun).
Mae Gwobr C.D. Easthope ar gyfer Mathemateg, er cof am Dr Colin Easthope, Uwch-Ddarlithydd mewn Mathemateg Gymhwysol 1936-1975 yn cael ei dyfarnu am berfformiad rhagorol gan unrhyw fyfyriwr israddedig Mathemateg. Enillwyr y gwobrau Easthope eleni yw Charlie Digby, Kayam Wade, Charlotte Lim Qiao Ler, Jess Harley a Callum MacDonald.
Dyfarnir Gwobr Mike Jones, er cof am gyn-fyfyriwr, ar y cyd gan yr Adrannau Mathemateg a Ffiseg. Yr enillydd eleni yw Meilyr Lynch, sy'n fyfyriwr ar ein cynllun gradd Ffiseg Fathemategol a Damcaniaethol.
Llongyfarchiadau!