Cymerwch Rhan

Unigolion yn chwarae offerynau

Mae croeso i bawb ymuno gydag unrhyw grwp ar unrhyw adeg o’r flwyddyn. Mae’r cyfan am ddim.

Am fwy o fanylion, gan gynnwys lleoliadau, cysylltwch â music@aber.ac.uk neu edrychwch ar ein tudalen Facebook

Amserlen

Diwrnod Amser Grŵp Gwybodaeth Bellach
Dydd Llun 12:30-1:15 yh Côr Cinio

Côr ‘cymunedol’ anffurfiol. Agored i bawb – dewch a’ch cinio!

Dydd Llun 7:00-9:00 yh Band Chwyth

Cyfle i chwaraewyr chwyth, pres ac offer taro o bob ystod profiad i chwarae holl gyfoeth y repertoire band chwyth.

Dydd Mawrth 7:00-9:00 yh Grŵp Jamio

Sesiwn wythnosol ar gyfer gitârs, iwcalele, banjos, mandolinau, a chantorion (mae croeso i’r mwyafrif o offerynnau eraill hefyd oni bai eu bod yn swnllyd iawn!), gan gwmpasu ystod eang o genres, gan gynnwys jazz, clasurol, blŵs, traddodiadol a sioeau cerdd, gyda llawer o le i fyrfyfyrio.

Dydd Mawrth 7:00-9:00 yh Simply Strings

Grŵp llinynnau anffurfiol i chwaraewyr llai profiadol.

Dydd Mercher 7:00-9:00 yh Philomusica

Yn cynnwys tua 80 o chwaraewyr fel arfer, mae canran mawr o chwaraewyr Philomusica yn fyfyrwyr sy’n cyd-weithio gyda charaewyr amatur a phroffesiynol lleol. Cynhelir dwy gyngerdd y flwyddyn yn Neuadd Fawr Canolfan y Celfyddydau, ynghyd â digwyddiadua eraill fel cyngherddau plant. Mae’r repertoire yn ymestyn o’r cyfnod clasurol hwyr i gerddoriaeth gyfoes, gyda sylw arbennig i gyfansoddwyr Cymraeg.  

Cyfleoedd Cerddorol Eraill

Mae Band Arian Aberystwyth yn rhoi cyfle i chwaraewyr pres – band pres lleol â rhaglen gyngerdd brysur sy’n cynnig croeso cynnes i fyfyrwyr.  

Mae Cantorion y Madrigal yn gôr siambr i fyfyrwyr sy’n cael eu clyweld yn flynyddol. Mae’r repertoire yn llawer ehangach nag awgrymir gan yr enw. Mae aelodau’r ‘Mads’ yn frwd dros ganu a mwynhau.

Yn ychwanegol i grwpiau lleisiol y Brifysgol, mae sawl grŵp yn y dre sy’n croesawu myfyrwyr, staff a’r gymuned leol i ymuno â nhw.

Mae Choir for Good yn croesawu pawb sydd eisiau darganfod manteision canu i’w hiechyd a lles. Maent yn canu caneuon hapus, bywiog ac ysgafn o bob cyfnod, yn cwrdd yn wythnosol ac yn perfformio ym mhobman, gan gynnwys teithiau tramor. Does dim angen unrhyw brofiad blaenorol o ganu a does dim clyweliadau.

I gantorion a naws ddramatig, mae’r Showtime Singers yn perfformio gweithiau Gilbert a Sullivan a sioeau poblogaidd eraill. Mae Curtain Call, gymdeithas i fyfyrwyr, hefyd yn llwyfannu sioeau cerdd cyfoes.

Mae Cymdeithas Gorawl Aberystwyth yn perfformio dau gyngerdd clasurol y flwyddyn ac yn falch o groesawu  aelodau newydd; does dim clyweliadau.

Mae Aber Opera yn cynnig cyfle i unigryw i fyfyrwyr, graddedigion, staff y Brifysgol a phobl leol ganu arias, deuawdau ac ensembles operatig mewn cyngherddau misol. Mae croeso i unrhyw un sydd eisiau canu fel unawdydd neu mewn grŵp. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â gwdihwcwrt@gmail.com neu 01970 820157.