Ein staff

Arweinydd cerddorfa

Ein cenhadaeth yw hwyluso creu cerddoriaeth.

Darllenwch ymlaen i ganfod mwy am ein staff.

Rydyn ni'n dîm bach ond yn brofiadol ac yn frwdfrydig. Gweler ein manylion cyswllt isod a darllenwch mwy am ein cefndir a'n profiad.

Mae Cerdd yn Aber yn edrych ymlaen at flwyddyn wedi'i llenwi â phob math o ddigwyddiadau cerddorol ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2022-23.

Iwan Teifion Davies

Iwan Teifion Davies yw’r Cyfarwyddwr Cerdd ac arweinydd Philomusica Aberystwyth. Fe’i hyfforddwyd yn Ysgol Gerddoriaeth a Drama y Guildhall ac yn y Stiwdio Opera Genedlaethol yn Llundain, lle bu ynghlwm wrth nifer o berfformiadau mewn cydweithrediad ag Opera North, Scottish Opera, a Chwnmi Opera Cenedlaethol Cymru. Fe fu’n arweinydd staff yn y Salzburger Landestheater, lle arweiniodd y Mozarteum Orchester mewn perfformiadau o La Gazzetta (Rossini), The Trial (Glass), Wiener Blut (Strauss), a My Fair Lady. Fe yw Pennaeth Cerdd Gŵyl Ryngwladol Buxton, lle mae wedi arwain cynyrchiadau o Cendrillion (Viardot), Viva la Diva (Donizetti) a premier operetta newydd sy’n defnyddio cerddoriaeth Ivor Novello, The Land of Might-Have-Been. I OPRA Cymru, mae wedi arwain premier byd opera Gareth Glyn, Wythnos yng Nghymru Fydd, Fidelio, Così fan tutte, ac ail opera Glyn, Un Nos Ola Leuad, gyda cherddorfa’r Cwmni Opera Cenedlaethol, sydd bellach yn cael ei throi’n ffilm. I English Touring Opera bu’n arwain La bohème a The Golden Cockerel (Rimsky-Korsakov). Fel cefnogwr brwd o gerddoriaeth Cymraeg, mae wedi comisiynu a pherfformio gweithiau newydd gan Claire Victoria Roberts, Pwyll ap Siôn, Gareth Olubunmi Hughes, Hana Lili, Jefferson Lobo, David Roche, Sarah-Lianne Lewis a Mared Emlyn.

Cysylltwch gydag Iwan ar iwd7@aber.ac.uk 

Arweinyddion

Isobelle McGuinness - Simply Strings

Bywgraffiad i ddilyn

Rhys Taylor - Band Chwyth

Bywgraffiad i ddilyn

Sam Holman - Grŵp Jamio

Bywgraffiad i ddilyn

Tiffany Evans - Côr Cinio

Bywgraffiad i ddilyn

James Cook - Gweinyddwr Cerdd

Bywgraffiad i ddilyn