Celf ddigidol

Recordio Sbridiri yn stiwdio ddigidol newydd y Brifysgol.

Recordio Sbridiri yn stiwdio ddigidol newydd y Brifysgol.

12 Mai 2011

Cafodd deg o fyfyrwyr ffilm a theledu Prifysgol Aberystwyth wythnos o brofiad gwaith heb ei ail ar eu stepen drws wrth i gwmni Boomerang saethu cyfres feithrin Sbridiri yn stiwdio ddigidol newydd y Brifysgol.

Roedd y myfyrwyr, sy’n cwblhau eu trydedd flwyddyn eleni ac yn mynd ymlaen i chwilio am waith yn y maes, wedi dod i gyswllt â’r cwmni eisoes trwy fodiwlau ymchwil cynhyrchu yn yr Adran.

 Dywedodd Marged Rees, un o’r myfyrwyr, “Roedd y cyfle i gael profiad gwaith yn y diwydiant yn un gwych. Cawsom weld sut mae cynhyrchiad yn gweithio a sut mae gweithio o fewn tîm cynhyrchu. Profiad fydd o gymorth mawr i ni yn y dyfodol.”

Mae Sbridiri yn gyfres gelf newydd sbon ar gyfer plant meithrin. Sêr y gyfres yw Iwan John, sy’n chwarae rhan Twm Tisian, a’i gyd-gyflwynydd Lisa Marged. Caiff ei ddarlledu ar wasanaeth Cyw ar S4C am y tro cyntaf heddiw, dydd Iau'r 12fed o Fai.

Hon yw’r gyfres stiwdio gyntaf i gael ei saethu yn Aberystwyth ers dros ddegawd ac roedd yn gyfle euraid i roi sgiliau’r myfyrwyr ar waith wrth iddyn nhw gysgodi adrannau sain, camera, cynhyrchu ac ôl-gynhyrchu.

Dywedodd Huw Eurig Davies, prif weithredwr Boomerang+: “Mae’n gyfle arbennig o dda i ni adnabod y dalent sydd yn dod trwodd i’r farchnad waith. Roedden ni’n awyddus iawn i weithio yn Aberystwyth, ac roedd gallu saethu’r cynhyrchiad yn stiwdio’r adran ffilm a theledu yn adeiladu ar y bartneriaeth rhyngthon ni sydd wedi bod yn rhedeg yn llwyddiannus ers sawl blwyddyn bellach. ”

Mae Dr Jamie Medhurst, Pennaeth Adran Dros-dro yr Adran Astudiaethau, Theatr, Ffilm a Theledu, yn croesawu’r datblygiad: “mae’r cynllun profiad gwaith hwn yn rhoi’r gallu i’n myfyrwyr ni i adeiladu ar eu sgiliau, mewn awyrgylch sydd yn gwbl broffesiynol ond eto ar dir cyfarwydd. Rydyn ni’n edrych ymlaen at ddatblygu rhagor o’r math hyn o gyfleodd gyda chwmni Boomerang ac eraill.”

AU10811