Is-lywydd y Llyfrgell Genedlaethol

Yr Athro Aled Jones

Yr Athro Aled Jones

13 Ebrill 2012

Cyhoeddwyd taw'r Athro Aled Jones fydd Is-lywydd newydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Bydd yr Athro Jones, a fydd yn parhau yn Ddirprwy Is-Ganghellor Hŷn ym Mhrifysgol Abeyrstwyth, yn ymgymryd â'i rôl newydd am gyfnod o 4 blynedd gan ddechrau ar y 1af o Fai 2012.

Fel yr Is-lywydd bydd yn hyrwyddo’r Llyfrgell a’i gwaith, a hynny yng Nghymru a thu hwnt. Bydd hefyd yn cynrychioli’r Llyfrgell wrth drafod â Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru.

Efallai bydd yr Athro Jones hefyd yn ymgymryd â swyddogaethau Llywydd y Llyfrgell os bydd angen.

Mae’r Athro Jones yn arbenigo yn hanes y Gymru fodern. Mae wedi gweithio’n helaeth ym maes y casgliadau yn y Llyfrgell Genedlaethol er 1976, ac ymunodd â Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yn 2009. Nid yw’n dal unrhyw benodiadau cyhoeddus Gweinidogol arall.

Dywedodd yr Athro Jones, “Mae cael fy mhenodi i swydd Is-lywydd y Llyfrgell Genedlaethol yn bleser, yn anrhydedd ac yn gyfrifoldeb mawr. Fel defnyddiwr brwd o’r gwasanaethau gwych mae’r Llyfrgell yn eu darparu, dros gyfnod o ddeng mlynedd ar hugain, rwy’n ymwybodol o bwysigrwydd y sefydliad hwn i ddiwylliant Cymru a’r bywyd Cymreig yn gyffredinol.

Ar yr un pryd, rwy’n ystyried y Llyfrgell fel ffenestr sy’n ein galluogi ni i gael cipolwg ar amrywiaeth ehangach o wybodaeth o ledled y byd, ac i ymddiddori yn yr wybodaeth honno. Edrychaf ymlaen gyda’r brwdfrydedd mwyaf at y gwaith o gefnogi cenhadaeth y Llyfrgell, ac i weithio’n agos gyda staff a defnyddwyr y Llyfrgell, Bwrdd yr Ymddiriedolwyr a Syr Deian Hopkin, y Llywydd newydd.”

Dywedodd Syr Deian Hopkin, Llywydd y Llyfrgell a chyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth: “Rwyf wrth fy modd fod yr Athro Aled Jones wedi cael ei benodi yn Is-lywydd. Mae’n hanesydd uchel ei barch sydd â phrofiad cyfoethog o reoli mewn prifysgol ac mae’n hynod o ymroddedig i’r Llyfrgell. Edrychaf ymlaen at weithio’n agos gydag ef ac aelodau eraill o’r Bwrdd i gefnogi’r Llyfrgellydd a’r staff i wireddu uchelgeisiau’r Llyfrgell.”

Mae penodiad yr Athro Aled Jones yn dilyn cyfnod Mr Arwel Ellis Owen fel Is-lywydd, a ddaeth i ben ar 30 Tachwedd 2011.