Gweithdy amrywiaeth ieithyddol

17 Hydref 2013

Yr wythnos hon (dydd Mercher 16 tan ddydd Gwener 18 Hydref) mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnal gweithdy tridiau arbenigol ar amrywiaeth ieithyddol.

Bydd y gweithdai, sy’n rhan o brosiect LEARNMe (Iaith ac Addysg Gyfeiriedig drwy Ymchwil a Rhwydweithio, Mercator) ac yn edrych ar fframweithiau damcaniaethol sy'n sail i ymchwil gyfredol i amrywiaeth ieithyddol, gweithredu ac arferion ym maes addysg yn ogystal â sut i dargedu llunwyr polisi fel eu rhanddeiliaid pwysicaf.

Bydd pob un o'r tri gweithdy yn arwain at gynhyrchu papurau a fydd yn eu tro yn ffurfio sail i bapur gwyn a fydd yn cael ei gyflwyno yn y gynhadledd olaf yn Budapest ym mis Medi 2015.

Dr Elin Haf Gruffydd Jones yw Cyfarwyddwr Sefydliad Mercator, canolfan ymchwil yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Dywedodd; “Mae amrywiaeth ieithyddol wedi cael ei nodi dro ar ôl tro fel rhan hanfodol o dreftadaeth ddiwylliannol Ewrop. Ond mae sawl ffordd o ddiffinio a gweithredu'r cysyniad hwn. Dylai pob iaith, gan gynnwys ieithoedd lleiafrifol fel y Gymraeg gael eu cefnogi. Oddi mewn i’r ieithoedd yma mae cyfoeth o brofiad ar sut y gellir cyflawni amrywiaeth ieithyddol gwirioneddol.”

Mae Sefydliad Mercator ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cynnal nifer o brosiectau gan gynnwys LEARNMe ac yn arbenigo mewn ieithoedd lleiafrifol, cyfieithu creadigol a llenyddol, y cyfryngau, cyhoeddi a diwylliant, gyda llawer o'r gweithgarwch yn seiliedig ar rwydweithiau Ewropeaidd a byd-eang.

Mae LEARNMe yn brosiect a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd sy'n cysylltu cymunedau amlieithog ledled Ewrop ac yn anelu at adnabod a dyfeisio dulliau strategol gwahanol er mwyn cefnogi'r broses o ail-ymweld, ail-ddadansoddi ac ailddiffinio'r ffordd mae trefniadau ieithyddol presennol wedi eu llunio’n gysyniadol.

Yn ogystal â Phrifysgol Aberystwyth, mae cynrychiolwyr o’r sefydliadau canlynol yn mynychu’r gweithdy hwn: Prifysgol Stockholm; Academi Gwyddorau Hwngari; Prifysgol Namur, Belgium; Prifysgol Helsinki; Prifysgol Gwlad y Basg Bilbao; Prifysgol Freiburg; Prifysgol Dinas Dulyn, Iwerddon; Universitat de Barcelona; Fryske Akademy, Iseldiroedd; CIEMEN Foundation, Barcelona; Prifysgol Amsterdam; Prifysgol Groningen.

AU38613