Galw holl entrepreneuriaid y dyfodol

13 Tachwedd 2013

Am yr ail flwyddyn yn olynol, bydd Prifysgol Aberystwyth yn cynnal cystadleuaeth fusnes myfyrwyr InvEnterPrize, sydd werth £20,000 ac mae'n agored i bob myfyriwr sy'n mynychu'r Brifysgol.

Caiff y gystadleuaeth ei lansio'n ffurfiol heddiw (13 Tachwedd) ar Gampws Penglais a bydd yn cynnwys cyflwyniad gan ddwy ferch fusnes llwyddiannus lleol, Layla Bennett o Hawksdrift Falconry www.hawksdrift.co.uka Sarah Reast o Machinations www.machinationswales.co.uk

Bydd ceisiadau yn cael eu hannog gan unigolion neu dimau gyda dyfeisiadau, syniadau cychwyn busnes a chynlluniau uchelgeisiol eraill. Mae'r gystadleuaeth yn agored i unrhyw fyfyriwr sy'n astudio yn Aberystwyth yn ystod 2013/14.

Enillodd Jake Stainer, myfyriwr sy'n astudio Marchnata a Sbaeneg yn Aberystwyth, y gystadleuaeth InvEnterPrize yn 2013 am ei wefan dysgu iaith ar-lein o'r enw *Papora www.papora.com

Bydd y cais buddugol yn derbyn pecyn hael gan gynnwys cymorth a buddsoddiad gwerth hyd at £20,000 i gychwyn y busnes. Yn ogystal â hyn, bydd pob unigolyn neu dim yn y rownd derfynol yn cael cyngor arbenigol gan banel o entrepreneuraid alumni llwyddiannus.

Mae'r panel beirniaid yn cynnwys saith cynfyfyriwr nodedig gan dynnu ar eu profiad mewn amrywiaeth o sectorau diwydiant. Mae David Sargen, Partner Rheoli Risg Derivatives Risk Solutions LLP yn Llundain yn ymuno â’r panel am y tro cyntaf eleni. Am restr o aelodau'r panel, ewch i http://www.aber.ac.uk/cy/ccs/staff-students/business-start-up/enterprise-competitions/inventerprize/judges/

Dywedodd Tony Orme, Rheolwr Menter yn Adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi Prifysgol Aberystwyth, "Os oes gennych chi syniad ar gyfer cynnyrch neu wasanaeth newydd y gallech droi yn fenter lwyddiannus, mae hwn yn gyfle gwych i droi'r syniad yn realiti.

"Nid yn unig bydd yr enillydd yn derbyn cymorth ariannol, ond cefnogaeth a chymorth gan saith o unigolion gwych yn y byd busnes a fydd yn gallu rhoi arweiniad a chyngor amhrisiadwy, sydd mor hanfodol ar gyfer entrepreneur ifanc ac ar gyfer dechrau busnes."

Cynhelir y lansiad yn y Brif Neuadd yn yr Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol ar Gampws Penglais ar ddydd Mercher 13 Tachwedd am 5.15yp ac mae’n ddigwyddiad agored.

Fel rhan o'r gystadleuaeth InvEnterPrize, bydd Prifysgol Aberystwyth yn cynnal amrywiaeth o weithdai a chyflwyniadau ysbrydoli agored i fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn datblygu eu medrau menter a pharatoi eu ffurflen gais.

Er mwyn cael y newyddion diweddaraf am ygystadleuaeth, ewch i http://www.aber.ac.uk/cy/ccs/staff-students/business-start-up/enterprise-competitions/inventerprize/

Mae InvEnterPrize, sy’n gweithio mewn partneriaeth â Datblygu a Chysylltiadau Alumni, yn cael ei drefnu gan yr Adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi gyda chefnogaeth gan y Gronfa Flynyddol - arian a gesglir gan gyn-fyfyrwyr i helpu i ariannu nifer o brosiectau.

 

AU41113