Gwobr o £10,000 ar gael i fyfyrwyr mentrus

Lansio InvEnterPrize 2019 (chwith i’r dde): Ben Jones, Rheolwr Marchnata a Phartneriaethau Campws Arloesi a Menter Aberystwyth; Tony Orme, Ymgynghorydd Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth; Hayley Goddard, Swyddog Rhoddion Unigol y Brifysgol; Yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth; Caryl Davies, Pennaeth Gwasanaethau Cefnogi Myfyrwyr a Gyrfaoedd a Lorri Browning o Llywodraeth Cymru.

Lansio InvEnterPrize 2019 (chwith i’r dde): Ben Jones, Rheolwr Marchnata a Phartneriaethau Campws Arloesi a Menter Aberystwyth; Tony Orme, Ymgynghorydd Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth; Hayley Goddard, Swyddog Rhoddion Unigol y Brifysgol; Yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth; Caryl Davies, Pennaeth Gwasanaethau Cefnogi Myfyrwyr a Gyrfaoedd a Lorri Browning o Llywodraeth Cymru.

13 Tachwedd 2018

Mae rhifyn 2019 cystadleuaeth menter myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth wedi’i lansio, gyda gwobr o £10,000 i’r ymgeisydd buddugol.

Mae InvEnterPrize yn gyfle i fyfyrwyr entrepreneuraidd gyflwyno eu syniadau i banel o gyn-fyfyrwyr llwyddiannus ac amlwg y Brifysgol.

Bydd y cais llwyddiannus yn gallu buddsoddi ei enillion mewn offer, cyfleusterau neu wasanaethau proffesiynol er mwyn gwireddu’r ddyfais neu syniad cychwyn busnes.

Yn ogystal â buddsoddiad o £10,000, bydd blwyddyn o ofod swyddfa am ddim yng Nghampws Arloesi a Menter Aberystwyth ar gael, i’r sectorau bio-wyddoniaeth, gwyddorau bywyd ac amaethyddol.

Bellach yn ei phumed flwyddyn, lansiwyd InvEnterPrize 2019 ddydd Llun 12 Tachwedd 2018 gan yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth.

Dywedodd yr Athro Treasure: “Mae gan Prifysgol Aberystwyth hanes nodedig o hyrwyddo arloesedd, creadigrwydd ac entrepreneuriaeth ac mae’n bleser cael lansio InvEnterPrize 2019, sy’n cynnig cyfleoedd gwych i’n myfyrwyr i ddatblygu syniadau newydd cyffrous a’u gwerthuso’n feirniadol gan ddiwydiannwyr llwyddiannus. Cyflogadwyedd sydd wrth wraidd profiad y myfyrwyr yma yn Aberystwyth ac rwy’n hynod ddiolchgar i’n cyn-fyfyrwyr am eu cefnogaeth ar gyfer y gystadleuaeth arloesol yma sy’n gyfle delfrydol i ddatblygu ac, o bosibl, lansio menter a gyrfa busnes llwyddiannus.”

Ond, mae llawer mwy i InvEnterPrize nac ennill y brif wobr.

Wrth i ymgeiswyr ddatblygu eu cynigion terfynol, gallant dderbyn cyngor arbenigol a mynychu cyfres o weithdai a chyflwyniadau sydd yn cael eu harwain gan bobl busnes llwyddiannus, a derbyn cyngor gwerthfawr ar hyd y daith.

Gwahoddir rhestr fer o blith yr ymgeiswyr i gyflwyno’u cynigion busnes i banel o feirniaid ar ffurf Dragon’s Den ar ddydd Gwener 29 Mawrth 2019.

Bydd cystadleuwyr eleni yn gobeithio efelychu llwyddiant Clipr, a gipiodd prif wobr InvEnterPrize yn 2018.

Datblygwyd Clipr, ap ffôn symudol, gan dîm o fyfyrwyr James Bryan, James Stone a Howun Lam, a gynlluniwyd i chwyldroi apwyntiadau yn y sector gwallt a harddwch.

Dywedodd James Bryan: “Mae ennill InvEnterPrize wedi ein galluogi i adeiladu ar y cysyniad a sefydlwyd gennym yn Aberystwyth a gweithio tuag at dyfiant Clipr yn Brighton, Caerdydd a Rhydychen.”

Noddir InvEnterPrize drwy gyfraniadau gan gyn-fyfyrwyr y Brifysgol, ac mae’r gystadleuaeth yn cael ei threfnu gan Wasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol.

Dywedodd Cyfarwyddwr Datblygu a Chysylltiadau Alumni, Louise Jagger: “Gall Gwobr InvEnterPrize olygu cymaint i rywun sydd â syniad gwych y mae angen y cymorth a'r arweiniad ariannol er mwyn ei sefydlu. Rydym yn ddiolchgar iawn i'r cyn-fyfyrwyr sy'n parhau i gyfrannu mor hael tuag at Gronfa Aber sy'n cyllido’r wobr ariannol ac i’r cyn-fyfyrwyr a chefnogwyr sydd yn rhoi o’u hamser i fod ar y panel beirniadu.”  

Datblygwyd y cysyniad gwreiddiol dros nifer o flynyddoedd gan hyrwyddwr entrepreneuriaeth y Brifysgol, Tony Orme.

Yn y lansiad, dywedodd Tony: “Mae lansiad pumed gystadleuaeth InvEnterPrize yn ystod Wythnos Entrepreneuriaeth y Byd nid yn unig yn gyfle cyffrous i fyfyrwyr entrepreneuraidd y Brifysgol, ond mae’n parhau fel gwobr fenter fwyaf Cymru, gyda gwobr o £10,000 gan ein cyn-fyfyrwyr gwych... ac un o gystadlaethau menter myfyrwyr mwyaf y DU.”

“Yn ogystal â’r wobr ariannol, cefnogir InvEnterPrize gan ein cyn-fyfyrwyr mewn ffordd bwysig arall, gyda chwe chyn-fyfyriwr amlwg yn feirniaid, yn asesu syniadau myfyrwyr ac yn dewis cynnyrch neu wasanaeth i fuddsoddi.”

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig rhaglen lawn o ddigwyddiadau i gefnogi gweithgaredd entrepreneuraidd ymhlith myfyrwyr (ar draws pob rhaglen gradd), cyn-fyfyrwyr a staff.

Y dyddiad cau ar gyfer ymgeisio am InvEnterPrize 2019 yw dydd Llun 4 Chwefror 2019. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan AberPreneurs.