Ap gwallt a harddwch yn ennill InvEnterPrize 2018

Hwb £10,000 i enillwyr InvEnterPrize: Chwith i’r Dde – Dr Rhodri Llwyd Morgan, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth; Yr Athro Donald Davies, Cadeirydd Panel Beirniaid Inventerprize; datblygwyr Clipr Howun Lam, James Stone and James Bryan; Tony Orme, Gwasanaeth Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth a Louise Jagger, Cyfarwyddwr Datblygu a Chysylltiadau Alumni Prifysgol Aberystwyth.

Hwb £10,000 i enillwyr InvEnterPrize: Chwith i’r Dde – Dr Rhodri Llwyd Morgan, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth; Yr Athro Donald Davies, Cadeirydd Panel Beirniaid Inventerprize; datblygwyr Clipr Howun Lam, James Stone and James Bryan; Tony Orme, Gwasanaeth Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth a Louise Jagger, Cyfarwyddwr Datblygu a Chysylltiadau Alumni Prifysgol Aberystwyth.

23 Mawrth 2018

Ap ffôn symudol sydd wedi’i gynllunio i chwyldroi apwyntiadau yn y sector gwallt a harddwch yw enillydd gwobr InvEnterPrize Prifysgol Aberystwyth am 2018.

Datblygwyd yr ap, Clipr, gan dîm o fyfyrwyr James Bryan, James Stone a Howun Lam, ac fe’i gynlluniwyd er mwyn dod â salonau’n nes at eu cwsmeriaid a’u galluogi i redeg eu busnesau o’u ffônau symudol.  

Ynghyd â theitl enillwyr InvEnterPrize, mae’r tîm yn derbyn £10,000 i’w fuddsoddi er mwyn datblygu’r cysyniad.

Airbnb yn cwrdd ag Uber ar gyfer gwallt ac harddwch yw’r ap”, meddai James Bryan, a gafodd ei ysbrydoli tra’n chwilio am salon trin gwallt oedd ar agor ar ddydd Sul yn Aberystwyth.

“Mae defnyddio’r ap yn syml ac yn hawdd a bydd yn gyfarwydd i ddefnyddwyr cyfryngau cymdeithasol”, ychwanegodd. 

Mae’r tîm wedi bod yn gweithio gyda busnesau yn Aberystwyth ers mis Medi 2017, ac yn edrych ymlaen yn awr at gwblhau’r cysyniad cyn lansio’r fersiwn derfynol i fyfyrwyr yn y dref.

“Mae ennill InvEnterPrize yn hwb enfawr a bydd yn ein galluogi i ddatblygu fersiwn iOS ar gyfer dyfeisiau Apple gan mai ar ddyfeisiau Android yn unig y mae’n bod ar hyn o bryd. Rydym hefyd am ei gwneud hi’n bosib i’r busnesau sy’n rhan o’r prosiect i gymryd taliadau digidol yn ddiogel.”

Cafodd dau brosiect arall gymeradwyaeth uchel gan y beirniaid: Tom Lancaster a’i gynllun Parc Beiciau Exmoor, a Gwella Cynefinoedd Arfordirol gan Harry Dennis, Ally Hall a Sunny Bradbury.

Dywedodd Cadeirydd y beirniaid, Donald Davies, Athro Emeritws mewn Toxicoloeg yng Ngholeg Imperial Llundain: ”Rydym yn hynod falch i gyhoeddi mai James Bryan, James Stone a Howum Lam yw enillwyr InvEnterPrize 2018. Mae’r safon eleni wedi bod yn uchel iawn. Roedd yn hynod anodd i gwtogi’r 22 cais gwreiddiol i lawr i chwech. Roedd rhai o’r cyflwyniadau a welsom yn y rownd derfynol yn wirioneddol arbennig gyda rhagolygon da iawn i fod yn fusnesau llwyddiannus. Mae gan yr enillydd gynllun busnes da iawn ac rydym yn hyderus y bydd yn llwyddiant.”

“Mae InvEnterPrize yn hynod bwysig ac mae’n ysbrydoli myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth i fentro a datblygu syniadau sy’n mynd y tu hwnt i’r hyn maent yn ei wneud fel arfer. Mae mor bwysig i hau’r syniad y gallu myfyrwyr ddatblygu’n fusnes, ac mae’r gystadleuaeth hon, ynghyd â’r gefnogaeth sy’n cael ei roi i’r timau drwy’r flwyddyn gan wasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol, yn gwneud hyn i gyd yn bosib.”

Cyflwynodd y chwech terfynol eu cynigion busnes i’r panel o feirniaid mewn digwyddiad tebyg i fformat y rhaglen deledu boblogaidd Dragon’s Den, ddydd Llun 19 Mawrth 2018.

Dywedodd trefnydd InvEnterPrize a hyrwyddwr entrepreneuriaeth Prifysgol Aberystwyth, Tony Orme: “Mae safon y ceisiadau eleni wedi bod yn eithriadol o uchel ac fe brofodd y rownd derfynol hynny. Rydym yn eithriadol ddiolchgar i’n panel o feirniaid am eu hamser gwerthfawr a’u harbenigedd wrth i ni chwilio am enillydd, ac i’n cyn-fyfyrwyr am eu cefnogaeth ariannol a gwneud hyn oll yn bosibl drwy Cronfa Aber. Edrychwn ymlaen at weithio gyda Clipr wrth iddynt ddatblygu eu cysyniad a lansio’r ap yn fasnachol.”

Sefydlwyd InvEnterPrize, sydd nawr yn ei 5ed flwyddyn, i annog diwylliant entrepreneuriaeth.

Bydd y wobr o £10,000, a ddarperir gan gyn-fyfyrwyr drwy Gronfa Aber, yn galluogi’r enillydd i fuddsoddi mewn offer, cyfleusterau neu wasanaethau proffesiynol er mwyn gwireddu’r ddyfais neu syniad cychwyn busnes.

Mae ymgeiswyr wedi cael cyfleoedd i gael cyngor arbenigol a mynychu cyfres o weithdai a chyflwyniadau gan bobl fusnes llwyddiannus, wrth iddynt ddatblygu eu cynigion terfynol, gan dderbyn cyngor gwerthfawr ar hyd y daith.

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig rhaglen lawn o ddigwyddiadau i gefnogi gweithgaredd entrepreneuraidd ymhlith myfyrwyr, cyn-fyfyrwyr a staff. Mae rhagor o wybodaeth am AperPreners ar lein yma.

Beirniaid InvEnterPrize 2018
Donald Davies (Chair) – Athro Emeritws mewn Toxicoloeg yng Ngholeg Imperial Llundain a Sefydlwr Gyfarwyddwr ML Laboratories plc, un o’r cwmnïoedd biotechnoleg cyntaf i’w restri ar Farchnad Stoc Llundain.

Jane Clayton – Cyfrifydd Siartredig a Chyfarwyddwr anweithredol profiadol. Cadeirydd Bay Leisure Limited a Trysorydd Sefydliad Meddygol Dewi Sant.

Nigel Davies – Wedi graddio a chwblhau ei astudiaethau ol-raddedig yn Aberystwyth, bu Nigel yn gweithio ym myd technoleg a busnes am 30 mlynedd. Yn 2003 roedd yn gyfarwyddwr sefydlu Innoval Technology, cwmni ymgynghori o’r DU ym maes technoleg sydd â chwsmeriaid ar draws y byd.

Peter Gradwell – Astudiodd Peter beirianneg meddalwedd yn Aberystwyth gan raddio yn 2002. Yn ystod ei amser yn y Brifysgol, sefydlodd gwmni cysylltiadau ar y we, Gradwell.com Ltd.

Huw Morgan – Cyn-Bennaeth Bancio Busnes gyda HSBC, bu Huw yn gweithio i HSBC am y rhan fwyaf o yrfa waith. Yn fwy diweddar roedd yn gyfrifol am Fancio Busnes a Masnachfraint (Franchise) yn y DU.

David Sargen – Partner Rheoli gyda Derivatives Risk Solutions LLP, ymgynghoriaeth risg arbenigol sydd yn darparu arbenigedd ar draws sbectrwm eang o ddisgyblaethau o fewn y byd ariannol, gyda ffocws arbennig ar y farchnad deilliadau fyd-eang.

Kerry Diamond – Cadeirydd Bwrdd Datblygu Diwydiannol Ymgynghorol Cymreig, sydd yn cynghori Llywodraeth Cymru ar gymorth grantiau i fusnes, Ymgynghorydd Gwella Busnes ac Is-Gadeirydd Partneriaeth Fenter Leol Stoke and Staffs. Cyn-Brif Swyddog Ariannol Zytec, cwmni ceir perfformiad uchel.

Mae pob un o’r beirniaid yn raddedig o Brifysgol Aberystwyth.