Ymchwilwyr polisi iaith yn cyflwyno cynigion ym Mrwsel

Mae’r Dr Huw Lewis, yr Athro Wilson MacLeod a’r Dr Elin Royles wedi bod yn cydweithio ar brosiect ymchwil Adyfwio ers dwy flynedd.

Mae’r Dr Huw Lewis, yr Athro Wilson MacLeod a’r Dr Elin Royles wedi bod yn cydweithio ar brosiect ymchwil Adyfwio ers dwy flynedd.

09 Ebrill 2019

Bydd academyddion o brifysgolion Aberystwyth a Chaeredin ym Mrwsel ddydd Mercher 10 Ebrill 2019 i gyflwyno ffrwyth prosiect ymchwil ddwy flynedd ar hyrwyddo ieithoedd lleiafrifol.

Gyda grant o du Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau, mae prosiect rhwydwaith Adfywio wedi’i arwain gan Dr Huw Lewis a Dr Elin Royles o Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth, a'r Athro Wilson McLeod o Ysgol Geltaidd ac Astudiaethau'r Alban Prifysgol Caeredin.

Ers lansio Adfywio ym mis Ebrill 2017, mae'r ymchwilwyr wedi trefnu cyfres o weithdai gan ddwyn ynghyd mwy na 50 o ymarferwyr polisi iaith blaenllaw, academyddion a mudiadau cymdeithas ddinesig o Ewrop a Gogledd America.

Mae eu gwaith wedi canolbwyntio ar sut y dylid cynllunio a gweithredu ymdrechion i adfywio iaith yng ngoleuni newidiadau cyfoes cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol.

Dywedodd Dr Huw Lewis o Brifysgol Aberystwyth: “Yn ystod y degawdau diwethaf rydym wedi gweld cyfres o newidiadau cymdeithasol trawsnewidiol, llawer ohonynt yn ymwneud â meysydd bywyd sy’n cael eu hystyried yn ganolog i hyfywedd ieithoedd lleiafrifol - megis teulu, cymuned, economi a natur llywodraeth. Nod prosiect Adfywio oedd herio tybiaethau traddodiadol a chyflwyno argymhellion y byddai ymarferwyr polisi yn gallu defnyddio i lunio a llywio ymdrechion i adfywio iaith yn yr oes gynyddol fyd-eang sydd ohoni heddiw. ”

Dywedodd Dr Elin Royles o Brifysgol Aberystwyth: “Mae pobl heddiw yn byw bywydau cynyddol symudol sy'n croesi ardaloedd daearyddol ehangach. Mae tueddiadau o'r fath yn effeithio ar y ffordd y mae pobl yn rhyngweithio â'i gilydd o ddydd i ddydd, ac o’r herwydd fe ddylen nhw ddylanwadu ar sut mae ymyriadau sy'n ceisio hybu mwy o ddefnydd cymdeithasol o ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol yn cael eu creu a'u gweithredu. Dylai ymyriadau roi mwy o gydnabyddiaeth i fodolaeth gwahanol ffurfiau ar gymunedau iaith - cymunedau daearyddol, cymunedau o ddiddordeb, cymunedau ar-lein ac ati - a chynyddu'r pwyslais ar ymyriadau sy'n cydnabod natur fwy rhwydweithiol bywyd cymdeithasol cyfoes.”

Dywedodd yr Athro Wilson McLeod o Brifysgol Caeredin: “Yn ystod y degawdau diwethaf, mae llywodraethau - llywodraethau is-wladwriaeth fel rheol - wedi bod yn chwarae rhan fwy dylanwadol mewn amryw o ymdrechion i adfywio ieithoedd Ewropeaidd, ond gall fod goblygiadau i’r duedd hon o ran cydbwysedd cymharol rhwng rôl llywodraethau a’r gwaith hanfodol sy’n cael ei wneud gan fudiadau cymdeithas sifil. O ganlyniad, mae angen meddwl yn feirniadol am y mathau o weithgareddau adfywio iaith fyddai’n cael eu gweinyddu orau gan sefydliadau llywodraethol, a'r rheiny lle mae gweithgarwch gan gymdeithas sifil yn fwy priodol ac effeithiol.”

Caiff argymhellion rhwydwaith ymchwil Adfywio eu cyflwyno gerbron cynhadledd arbennig ym Mrwsel gyda chynrychiolwyr llywodraethol o Wlad y Basg, Ynysoedd y Baleares, Catalwnia, Cymru, Hwngari, Iwerddon, Navarre, Valencia a’r Ynys Las, ynghyd â swyddogion o'r Comisiwn Ewropeaidd a Chyngor Ewrop.

Mae'r gynhadledd undydd wedi'i threfnu ar y cyd â'r Rhwydwaith Hyrwyddo Amrywiaeth Ieithyddol, rhwydwaith Ewropeaidd sy'n gweithio ym maes polisi iaith ac yn hwyluso arfer gorau.

Am fanylion pellach am ganfyddiadau'r ymchwil newydd, gweler gwefan Adfywio: http://revitalise.aber.ac.uk/cy.