Contractwyr Prifysgol Aberystwyth yn codi arian i Ambiwlans Awyr Cymru

Yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yn derbyn siec am £1,500 i Ambiwlans Awyr Cymru gan Andrew Jones (Rheolwr Adeiladu Cynorthwyol), Phil Williams (Rheolwr Adeiladu Cynorthwyol) a Shaun Davies (Cynorthwyydd Gweithrediadau) o Willmott Dixon.

Yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yn derbyn siec am £1,500 i Ambiwlans Awyr Cymru gan Andrew Jones (Rheolwr Adeiladu Cynorthwyol), Phil Williams (Rheolwr Adeiladu Cynorthwyol) a Shaun Davies (Cynorthwyydd Gweithrediadau) o Willmott Dixon.

23 Tachwedd 2020

Mae gweithwyr cwmni adeiladu Willmott Dixon wedi codi £1,500 i Elusen y Flwyddyn Prifysgol Aberystwyth yn 2020-21, sef Ambiwlans Awyr Cymru.

Mae'r cwmni wedi cwblhau gwaith dwy flynedd yn ddiweddar, sef adeiladu canolfan fiowyddorau newydd ArloesiAber (Campws Arloesi a Menter Aberystwyth), a fydd yn arwain yn y maes ar lefel fyd-eang. 

Wedi ei lleoli ar Gampws Gogerddan Prifysgol Aberystwyth, mae canolfan ArloesiAber yn darparu adnoddau ac arbenigedd o safon fyd-eang ar gyfer y sectorau biodechnoleg, technoleg amaeth, a bwyd a diod.  Cwblhawyd y prosiect ar amser ac o fewn y gyllideb gan Willmott Dixon, er gwaethaf pandemig COVID-19.

Cyflwynodd staff safle Willmott Dixon y siec i Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Elizabeth Treasure, ar 12 Tachwedd.

Eglurodd Rheolwr Gweithrediadau Willmott Dixon, Darren Hancock: “Yn ystod pob un o'n prosiectau adeiladu mawr, mae'n rhan o'n cenhadaeth i godi arian i elusen fel ffordd o roi rhywbeth yn ôl i'r gymuned leol.  Ar ôl treulio'r ddwy flynedd ddiwethaf yn gweithio yn Aberystwyth, mae'n amlwg bod y gwasanaeth a ddarperir gan Ambiwlans Awyr Cymru yn un hanfodol i arfordir a chefn gwlad Cymru, ac roedd yn naturiol i ni gefnogi’r elusen a ddewiswyd fel Elusen y Flwyddyn gan y Brifysgol."

"Yn anffodus, mae cyfyngiadau COVID-19 wedi amharu rhywfaint ar ein gweithgareddau elusennol eleni, ond roedd yn bleser codi'r arian hwn drwy redeg siop ar y safle lle gallai'r gweithwyr brynu byrbrydau a diodydd."

Meddai'r Athro Elizabeth Treasure: "Rydym ni'n ddiolchgar iawn i staff safle Willmott Dixon am ddewis cefnogi ein Helusen y Flwyddyn eleni drwy godi arian. Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn darparu gwasanaeth hanfodol sy'n achub bywydau yng Ngheredigion a ledled Cymru, ac mae'n llwyr ddibynnol ar gyfraniadau elusennol."

Meddai cydlynydd cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru, Dougie Bancroft: "Diolch i bawb yn Willmott Dixon a helpodd i godi'r arian hwn i Ambiwlans Awyr Cymru.  Yn ystod cyfnod Covid-19, fel llawer o elusennau, mae’r cyfraniadau yr ydym yn eu derbyn wedi gostwng yn sylweddol am fod siopau wedi gorfod cau a chasgliadau bwced a digwyddiadau codi arian wedi cael eu canslo. Mae cyfraniadau fel hyn yn ein helpu i sicrhau bod ein hofrenyddion yn dal i hedfan ac yn golygu ein bod yn cael parhau â'n gwaith o achub bywydau."

Bellach yn ei hwythfed flwyddyn, nod Elusen y Flwyddyn Brifysgol Aberystwyth yw codi cymaint o arian â phosib i achos da bob blwyddyn, a rhoi ffocws i staff, myfyrwyr a’r gymuned ar gyfer codi arian.  Cafodd yr elusen ei dewis yn dilyn proses o enwebiadau a phleidleisio gan fyfyrwyr a staff ledled y Brifysgol.