Digwyddiad ymgysylltu ar-lein i annog Genod i’r Geowyddorau

Genod i’r Geowyddorau

Genod i’r Geowyddorau

11 Mehefin 2021

Cynhelir diwrnod o ddigwyddiadau rhithwir ym mis Mehefin er mwyn annog pobl fenywaidd ac anneuaidd ifanc ledled y DU ac Iwerddon i ystyried gyrfa yn y geowyddorau.

Nod Genod i’r Geowyddorau, sydd bellach yn ei seithfed flwyddyn, yw cyflwyno myfyrwyr ifanc sydd yn eu blynyddoedd olaf yn yr ysgol uwchradd i astudio a dilyn gyrfa ym maes y geowyddorau.

Geowyddoniaeth yw'r astudiaeth o'r gorffennol, presennol a dyfodol y Ddaear.

Mae'n ymgorffori ystod eang o arbenigedd o bob rhan o'r gwyddorau i helpu i ddatblygu ein dealltwriaeth o systemau biolegol, hydrolegol, daearegol ac ecolegol cymhleth y Ddaear a’r modd y maent wedi cyd-blethu.

Lansiwyd Genod i’r Geowyddorau yn 2014 a sefydlodd Dr Marie Busfield o Brifysgol Aberystwyth Genod i’r Geowyddorau Cymru yn 2019, gan helpu i ehangu’r fenter i gynnwys prifysgolion a sefydliadau ymchwil ledled y DU ac Iwerddon.

Bydd y digwyddiad eleni yn cael ei gynnal ar-lein ar 28 a 29 Mehefin 2021.

Daw digwyddiadau Genod i’r Geowyddorau â menywod o ddiwydiant, cyrff y llywodraeth, y byd academaidd ac ysgolion uwchradd ynghyd er mwyn tynnu sylw at, a hyrwyddo, geowyddoniaeth a'i photensial fel pwnc a gyrfa werthfawr y gall unrhyw un ei dilyn.

Anaml y cynigir geowyddoniaeth fel pwnc ynddo ei hun mewn ysgolion ledled y DU ond addysgir agweddau o’r geowyddorau mewn pynciau prif ffrwd fel cemeg, bioleg, daearyddiaeth a ffiseg.      

Bydd y digwyddiad eleni, fel y llynedd, yn cael ei gynnal ar-lein oherwydd y pandemig COVID-19 parhaus, sy’n cynnig cyfleoedd newydd i ehangu amrywiaeth y siaradwyr ynghyd â nifer y mynychwyr.

Gall mynychwyr sy'n cofrestru i gymryd rhan eleni edrych ymlaen at ddetholiad amrywiol o siaradwyr yn sôn am eu gyrfaoedd yn y geowyddorau, a bydd cyfres o sesiynau holi ac ateb yn ymdrin â phynciau gan gynnwys bywyd yn y maes, gyrfaoedd a bywyd prifysgol.

Gall mynychwyr hefyd ddewis o blith llu o deithiau maes rhithwir, o'r Himalaya i Skye, a gweithdai sy'n edrych ar rewlifoedd Periw, peryglon naturiol, microffosilau, newid yn yr hinsawdd a daeareg fforensig.

Dywedodd Dr Marie Busfield o Brifysgol Aberystwyth, un o drefnwyr y digwyddiad:

“Mae geowyddoniaeth yn bwnc mor amrywiol a phwysig, gan gyfuno cymaint o wahanol elfennau cemeg, ffiseg, bioleg, gwyddor yr amgylchedd, daearyddiaeth a daeareg, a gyda rôl hanfodol wrth ofalu am ddyfodol ein planed. Rwy’n llawn cyffro am ymuno â'n rhwydwaith Genod i’r Geowyddorau sy'n parhau i dyfu eto eleni er mwyn cynnig rhaglen anhygoel o sgyrsiau am ddim, gweithdai, panelau a theithiau maes gan arweinwyr anhygoel yn y maes er mwyn dangos rhyfeddodau byd y geowyddorau.”

Bu Dr Amanda Owen, darlithydd mewn gwaddodeg yn Ysgol y Gwyddorau Daearyddol a Daear, yn cynorthwyo gyda threfnu cyfraniad Prifysgol Glasgow mewn digwyddiadau blaenorol. Mae hi’n rhan o bwyllgor trefnu’r digwyddiad gyda thimau Genod i’r Geowyddorau o Brifysgol Plymouth, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Leeds a’r ganolfan iCRAG yn Iwerddon.

Dywedodd Dr Owen:

“Roeddem wrth ein boddau bod mwy na 200 o ferched wedi cymryd rhan yn y digwyddiad y llynedd, er ei fod yn gyfan gwbl ar-lein. Mae'n dangos bod menywod ifanc ledled y DU eisoes yn chwilfrydig am yrfaoedd mewn geowyddoniaeth, ac mae'n wych bod mynd â'r digwyddiad i'r byd rhithwir wedi caniatáu inni gyrraedd llawer mwy o ferched nag y byddem wedi gallu ei wneud gydag unrhyw un o'n digwyddiadau blaenorol a gafodd eu cynnal wyneb yn wyneb.”

Dywedodd Dr Jodie Fisher a Dr Sarah Boulton o Brifysgol Plymouth, a chyd-sylfaenwyr Genod i’r Geowyddorau:

“Wrth i’n planed barhau i brofi effeithiau newid hinsawdd dros y degawdau nesaf, mi fydd geowyddoniaeth yn bwysicach nag erioed. Bydd geowyddonwyr yn chwarae rhan hanfodol wrth ein helpu i fonitro, lliniaru ac addasu i'r newidiadau rydyn ni eisoes yn dechrau eu gweld ledled y byd.”

Ychwanegodd Elspeth Wallace, Swyddog Addysg ac Ymgysylltu â'r Cyhoedd yng nghanolfan iCRAG, Iwerddon:

“Gall unrhyw un fod yn geowyddonydd, waeth beth yw ei ryw, ethnigrwydd neu anabledd. Rhan allweddol o ‘Genod i’r Geowyddorau’ yw dangos i'r cyfranogwyr y gall y maes geowyddoniaeth fod yn lle cytbwys, diogel a rhywle lle mae croeso i bawb. Mae yna restr wych o fodelau rôl o ystod amrywiol o feysydd sy’n mynd i ddangos i chi pa faes bynnag o eowyddoniaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo, mae lle i bawb.”

Eleni mae'r tîm wedi ehangu i gynnwys Prifysgol Leeds a fydd yn ymwneud â'r digwyddiad am y tro cyntaf.

Dywedodd Dr Tracy Aze, o Ysgol y Ddaear a'r Amgylchedd ym Mhrifysgol Leeds:

“Rydym yn falch iawn o ymuno â’r fenter hynod lwyddiannus Genod i’r Geowyddorau, ac fel pennod newydd “GiG y Gogledd”. Mae'r prosiect eisoes wedi ysbrydoli cymaint o bobl ifanc i gymryd rhan yn y geowyddorau, felly rydym yn llawn cyffro am gynnig presenoldeb yng ngogledd Lloegr i helpu i feithrin hyn ymhellach. Eleni rydym yn ymuno â'r tîm digwyddiadau rhithwir ac edrychwn ymlaen at gynnal digwyddiad ar y campws yn y blynyddoedd i ddod.”

Er mwyn cofrestru ar gyfer y digwyddiad ar-lein rhad ac am ddim, ewch i: https://t.co/qRnQ3oEIYu?amp=1

Cyn bo hir bydd Genod i’r Geowyddorau yn cyhoeddi eu gwefan newydd a fydd yn darparu llawer mwy o wybodaeth am y digwyddiad. Cyhoeddir manylion am y wefan newydd ar y cyfryngau cymdeithasol yn ystod yr wythnosau nesaf.