Darlithydd yn Ysgol Filfeddygol newydd Cymru yn ennill gwobr nodedig

Dr Gwen Rees, Prifysgol Aberystwyth

Dr Gwen Rees, Prifysgol Aberystwyth

14 Mehefin 2021

Mae darlithydd yn ysgol filfeddygol newydd Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi ennill gwobr am gael effaith sylweddol ar y proffesiwn.

Mae Dr Gwenllïan Rees wedi ennill Gwobr Effaith Coleg Brenhinol y Llawfeddygon Milfeddygol am ei hymwneud yn y prosiect Arwain Vet Cymru, rhaglen stiwardiaeth wrthficrobaidd ar gyfer holl filfeddygon fferm yng Nghymru.

Rhoddir y Wobr Effaith i filfeddyg sy’n cynnal prosiect sydd wedi cael effaith sylweddol ar y proffesiwn, iechyd neu les anifeiliaid, neu iechyd y cyhoedd. 

Mae Dr Rees yn ddarlithydd newydd-benodedig mewn Gwyddor Filfeddygol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Ei maes arbenigol ydy ymwrthedd gwrthfiotig, yn enwedig astudio ymddygiad ffermwyr a milfeddygon wrth ragnodi meddyginiaeth i anifeiliaid fferm.

Fe’i phenodwyd i’r tîm o staff y Brifysgol sy’n sefydlu ysgol filfeddygol gyntaf Cymru. Bydd y myfyrwyr cyntaf yn dechrau eu hastudiaethau ar y cwrs newydd sbon ym mis Medi eleni.

Ganwyd Dr Rees yn yr Iseldiroedd, ac fe’i magwyd ym Mhum Heol, Sir Gaerfyrddin. Cymhwysodd fel milfeddyg o Brifysgol Lerpwl, ac wedi gweithio am sawl blwyddyn yng Nghymru a’r Seland Newydd mewn practis ar gyfer ffermydd gwledig a cheffylau ac enillodd ei doethuriaeth o Brifysgol Bryste.

Wrth ymateb i’w gwobr, dywedodd Dr Rees:

“Rwyf wrth fy modd bod gwaith arloesol Arwain Vet Cymru wedi ei gydnabod gan Goleg y Milfeddygon yn y fath fodd. Mae wedi bod yn flwyddyn heriol i bawb, ac rwy mor falch o fod wedi cael y cyfle i weithio gyda thîm gwych o gydweithwyr o Iechyd Da, Cynhyrchwyr Cig Oen ac Eidion a Phrifysgol Bryste. Yn bennaf oll, rwy’n ddiolchgar am waith caled ac ymroddiad ein rhwydwaith o Bencampwyr Rhagnodi Milfeddygol am wneud y prosiect cystal llwyddiant.”

Wrth siarad am yr Ysgol Filfeddygol newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth, ychwanegodd:

“Ers i mi fod yn ferch ifanc oedd am ddod yn filfeddyg, rwyf wedi credu’n gryf bod angen Ysgol Filfeddygaeth ar Gymru. Rwy’n falch iawn o fod yn rhan o sefydlu’r ysgol ac yn edrych ymlaen yn fawr iawn at dderbyn y myfyrwyr cyntaf i Aberystwyth ym mis Medi. Fe fydda i’n dysgu myfyrwyr milfeddygol mewn gwahanol bynciau yn cynnwys hwsmonaeth anifeiliaid ac astudiaethau proffesiynol. Rwy hefyd yn gyfrifol am gymorth cyfrwng Cymraeg, ehangu cyfranogiad ac estyn allan i ysgolion, ymchwil ar ymwrthedd gwrthfiotig ac edrych ar ôl dysgu ar ffermydd y Brifysgol.”

“Rwy’n gobeithio helpu Prifysgol Aberystwyth i sefydlu Ysgol Milfeddygaeth sy’n hyfforddi milfeddygon ardderchog, rhai sydd yn medru defnyddio’u sgiliau i wella lles ac iechyd anifeiliaid a phobl, yng Nghymru ac yn fwy eang.”            

Cafodd Dr Rees ei henwebu am ei gwobr gan Robert Edward Smith MRCVS llawfeddyg milfeddygol anifeiliaid fferm sy’n gweithio yn y Fenni yn Sir Fynwy. Wrth ei henwebu, dywedodd:

“Mae Gwen wedi hyfforddi rhwydwaith o Bencampwyr Rhagnodi Milfeddygol ar hyd a lled Cymru a fydd yn hybu defnydd cyfrifol o feddyginiaeth a chyflwyno polisïau stiwardiaeth gwrthficrobaidd yn eu milfeddygfeydd, gan drosglwyddo i newid ymarferol go iawn ar ffermydd.”

Ychwanegodd Yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth:

“Llongyfarchiadau lu i Dr Rees ar ei llwyddiant ac am y gydnabyddiaeth haeddiannol hon o’i gwaith.

“Mae amaeth a’i diwydiannau perthnasol yn chwarae rhan bwysig yn economi Cymru ac mae yna gyfrifoldeb arnom ni fel prifysgolion i ddarparu’r bobl a’r sgiliau a fydd yn cyfrannu at sicrhau eu bod yn llwyddo am flynyddoedd i ddod. Mae’r Ysgol Gwyddor Filfeddygol newydd yn ychwanegu darn hollbwysig i’r jig-so, un a fydd yn adeiladu gwytnwch yn yr economi wledig drwy addysg ac ymchwil mewn cyfnod o newid a heriau mawr posibl.”

“Rwy’n ddiolchgar iawn i Dr Rees a phawb arall sydd wedi cyfrannu at wireddu’r freuddwyd o ysgol gwyddor filfeddygol yng Nghymru.”

Mae Arwain Vet Cymru yn brosiect Cymru-gyfan sydd wedi ei sefydlu er mwyn hybu defnydd cyfrifol o wrthfiotigau mewn gwartheg a defaid. Wedi ei ysbrydoli gan lwyddiant y cynllun yng Nghymru, mae menter debyg a enwir Pencampwyr Milfeddygaeth Fferm ar fin gael ei lansio ar draws y Deyrnas Gyfunol.