Academydd o Aberystwyth i guradu arddangosfa ryngwladol o bensaernïaeth theatr a gofod perfformio

Dr Andrew Filmer. Llun gan PQ

Dr Andrew Filmer. Llun gan PQ

06 Gorffennaf 2021

Mae academydd o Brifysgol Aberystwyth wedi'i benodi i'r tîm artistig rhyngwladol sy'n gyfrifol am arddangosfa dylunio theatr a senograffeg mwyaf y byd.

Mae Dr Andrew Filmer o'r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu wedi'i benodi i guradu'r Arddangosfa Gofod Perfformio ar gyfer 15fed gŵyl Dylunio Perfformiad a Gofod Pedairblynyddol Prag (Prague Quadrennial (PQ)) a gynhelir o 8-18 Mehefin 2023 yn y Pražská Tržnice ym Mhrag, Gweriniaeth Tsiec.

Wedi'i sefydlu ym 1967, mae'r PQ yn dod â'r goreuon o ran dylunio ar gyfer perfformio, senograffeg a phensaernïaeth theatr ynghyd i gael eu mwynhau gan artistiaid proffesiynol a'r rhai sy'n datblygu yn ogystal â'r cyhoedd.

Bydd Dr Filmer yn un o dîm curadurol PQ ar gyfer y digwyddiad sy'n gyfrifol am gynnig golwg newydd i gyfranogwyr yr ŵyl ar gynhyrchu artistig ein hoes mewn dylunio perfformiad a senograffeg.

Thema PQ 2023 yw 'Rare', a bydd yn ystyried y byd rhyfedd ac ansicr yr ydym ni'n byw ynddo.

Bydd senograffwyr, dylunwyr setiau, artistiaid gofodol, penseiri, dylunwyr theatr, a pherfformwyr o dros 90 o wledydd yn defnyddio eu dychymyg a'u creadigrwydd i helpu pobl i ddarlunio sut y gallai'r byd a'r theatr edrych yn y dyfodol ôl-bandemig.

Dywedodd Dr Filmer, Uwch Ddarlithydd mewn Theatr a Pherfformio: "Mae'n anrhydedd fawr ymgymryd â rôl curadur ar gyfer Arddangosfa Gofod Perfformio PQ yn 2023. Mae PQ yn ddigwyddiad sy'n ysbrydoli ac yn dod â phobl ynghyd i brofi a thrafod cyfoeth dylunio perfformiad a senograffeg. Fy ngobaith yw y bydd yr Arddangosfa Gofod Perfformio yn 2023 yn cynnig synnwyr ehangach o'r hyn y gall gofod perfformio fod mewn amrywiaeth o leoliadau, amgylcheddau a diwylliannau." 

Mae penodiad Dr Filmer yn ehangu ar hanes o ymwneud gan staff o'r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu yn y PQ.

Roedd yr Athro Simon Banham, y Pennaeth Adran presennol, yn Gomisiynydd Arddangosfa Dywydd y PQ yn 2015 ac yn rhan o'r arddangosfa a enillodd fedal aur ym 1994.

Cafodd gwaith Richard Downing ei arddangos yn rhan o arddangosfa'r DU yn 2007 a chafodd ei wahodd i arwain gweithdy Labordy Gofod yn 2015.

Cafodd y ddau eu gwahodd i ddylunio a churadu Symposiwm Gofod a rennir PQ yn 2014.

Yn wreiddiol o Sydney, Awstralia, ymunodd Dr Filmer â Phrifysgol Aberystwyth yn 2008.

Mae ei ymchwil yn archwilio’r safleoedd cyfarfod rhwng perfformiad a phensaernïaeth.

Ar hyn o bryd mae'n gweithio gyda Theatr Genedlaethol Cymru ar The Ever After Project sy'n ymchwilio i theatr a pherfformio yng nghyfnod COVID-19, ac yn ystyried sut y gallai prosesau cynhyrchu theatraidd ac estheteg theatr gael eu had-drefnu yng ngoleuni'r amodau a osodwyd gan y pandemig ac yn y dyfodol ôl-bandemig.