Cyflwyno Gwobr Heddychwyr Ifanc i fyfyriwr Gwleidyddiaeth Ryngwladol ar ei flwyddyn olaf

Isaac Langran

Isaac Langran

09 Gorffennaf 2021

Mae myfyriwr Gwleidyddiaeth Ryngwladol sydd ar ei flwyddyn olaf yma ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi ennill Gwobr Heddychwyr Ifanc am gyfansoddiad ysgrifenedig ynghylch proses heddwch Israel-Palesteina.

Mae Isaac Langran, sydd wedi bod yn astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth am dair blynedd, yn rhannu'r wobr gyntaf yng nghategori'r Dadansoddwr Byd-eang Ifanc am ei gynnig difyr a gwreiddiol ar gyfer heddwch. 

Dyma'r chweched tro i Wobrau Heddychwyr Ifanc Cymru, a gyflwynir gan Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru, gael eu cynnal, a'u nod yw dathlu pobl ifanc sydd wedi cyfrannu at heddwch a dinasyddiaeth fyd-eang mewn amrywiol ffyrdd.

Eleni, roedd y categori Dadansoddwr Byd-eang Ifanc y Flwyddyn yn gwahodd plant a phobl ifanc i gyflwyno darn creadigol o ysgrifennu, gwaith celf neu gyfrwng digidol yn mynegi eu syniadau ynghylch sut y gall y byd fod yn lle mwy heddychlon, teg a chynaliadwy wedi COVID-19.

Yn ôl Dr Patrick Finney, Pennaeth yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth: "Mae ennill y Wobr Dadansoddwr Byd-eang Ifanc yn llwyddiant nodedig i Isaac ac yn ddiweddglo teilwng i'w gyfnod yn yr adran. Mae safon ei ddirnadaeth ddeallusol o gysylltiadau rhyngwladol a'i awch i gyflwyno gwir newid yn y byd gwleidyddol yn ehangach yn nodweddiadol o'n graddedigion gorau. Mae'r ffaith ei fod wedi cystadlu yn y gystadleuaeth hon dan nawdd Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru hefyd yn arddangos awydd yr adran i ymwneud fwyfwy â grwpiau cymdeithas sifil yng Nghymru ac ledled y byd."

Wrth ymateb i'r ffaith ei fod wedi ennill y wobr, dywedodd Isaac: "Mae ennill y wobr hon yn golygu llawer iawn imi. Mae'r gwrthdaro rhwng Israel a Phalesteina wedi bod o ddiddordeb imi ers tro, ond wrth ddrafftio fy nghynnig heddwch treuliais lawer o amser yn ymchwilio ac yn dadansoddi'r hyn a allai ddod â heddwch i'r rhanbarth ond a allai hefyd roi gobaith o sefydlogrwydd parhaus a thwf. O ran datrys gwrthdaro ar lefel fyd-eang, y gwrthdaro rhwng Israel a Phalesteina yw'r dasg anoddaf oll, ond pe gellid ei ddatrys byddai'n rhoi’r gobaith y gellir datrys yr holl wrthdaro rhwng pobl yn y byd."

"Wrth astudio ar gyfer fy ngradd ym Mhrifysgol Aberystwyth rwyf wedi cael blas neilltuol ar y modiwlau hynny sydd wedi fy ngalluogi i fod yn greadigol, megis dylunio posteri wrth astudio propaganda a drafftio datganiadau i'r wasg yn y modiwl 'Behind the Headlines'.  Roedd datblygu'r cynllun heddwch hwn yn gweddu'n berffaith o ran creadigrwydd a meddwl yn ddilyffethair."

Cafodd enillwyr 2021 eu cyhoeddi mewn seremoni rithiol ar 9 Gorffennaf yn rhan o Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, sy'n cael ei chynnal ar-lein rhwng 6 ac 11 Gorffennaf. 

Sefydlwyd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn 1947 er mwyn ceisio cyfannu’r rhwyg yn sgil yr Ail Ryfel Byd, ac mae'r nod o hyrwyddo heddwch parhaus yn dal i gael ei arddel hyd heddiw.

Yn rhan o'r rhaglen eleni, bu Dr Jenny Mathers a'r Athro Berit Bliesemann de Guevara o'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn aelodau panel mewn trafodaeth ym Mhafiliwn Heddwch Academi Heddwch Cymru yn canolbwyntio ar greu heddwch a'r gwersi y gellir eu dysgu wrth inni geisio creu byd mwy heddychlon. 

Hefyd yn ystod Eisteddfod 2021 cynhelir y perfformiad cyntaf oll yn fyd-eang o ddarn corawl newydd a gyfansoddwyd gan Paul Mealor, â'r geiriau gan y bardd nodedig Mererid Hopwood, Athro'r Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth. Teitl y darn yw Tangnefedd, sy'n cyfleu dwyn dwy elfen ynghyd mewn heddwch a chytgord. Bydd y perfformiad am 6 nos Sadwrn 10 Gorffennaf yn cynnwys corau o bedwar ban byd sydd wedi cystadlu'n llwyddiannus yn yr Eisteddfod.