Elfyn Llwyd yn ymgymryd â rôl anrhydeddus Dirprwy Ganghellor Prifysgol Aberystwyth

Y Gwir Anrh. Elfyn Llwyd

Y Gwir Anrh. Elfyn Llwyd

12 Awst 2021

Penodwyd y Gwir Anrhydeddus Elfyn Llwyd yn Ddirprwy Ganghellor Prifysgol Aberystwyth.

Bydd y bargyfreithiwr a'r cyn AS sy'n gyn-fyfyriwr o’r Brifysgol, yn ymgymryd â'i rôl newydd yn syth.

Gwasanaethodd Mr Llwyd, a gynrychiolodd etholaeth Dwyfor Meirionnydd, a Meirionnydd Nant Conwy cyn hynny, yn Nhŷ’r Cyffredin am dros 20 mlynedd, fel aelod annibynnol o Gyngor Prifysgol Aberystwyth rhwng 2015 a 2021.

Bydd nawr yn parhau â'i gysylltiad hir â'r Brifysgol, gan ymgymryd â rôl anrhydeddus y Dirprwy Ganghellor sy'n cynnwys dyletswyddau llysgenhadol a seremonïol, gan gynnwys llywyddu seremonïau graddio’r Brifysgol.

Dywedodd Canghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd:

“Rwy'n falch iawn bod Elfyn wedi derbyn y rôl hon sy'n parhau ei gysylltiad hir ac ymroddedig â Phrifysgol Aberystwyth. Mae’n destun balchder i mi weld cyn-fyfyriwr o fri sydd wedi chwarae rhan mor sylweddol ym mywyd y genedl yn cryfhau ei gysylltiadau â ni yn Aberystwyth trwy ein helpu fel hyn. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gydag Elfyn a'n Dirprwy Ganghellor arall, y Fonesig Elan Closs Stephens, wrth i ni barhau i chwarae ein rhan ym mywyd y Brifysgol ryfeddol hon.”

Dywedodd Dirprwy Ganghellor newydd Prifysgol Aberystwyth, Elfyn Llwyd:

“Mae'n anrhydedd mawr i mi ymgymryd â'r rôl hon, ac i barhau fy mherthynas gyda'r Brifysgol lle bues i’n ddigon ffodus i fod yn fyfyriwr fy hun. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda'r Arglwydd Thomas, y Fonesig Elan, Cyngor y Brifysgol a staff, yn ogystal â’r myfyrwyr yn y sefydliad addysgiadol hanesyddol hwn. Rwy'n falch iawn o’r cyfle hwn i barhau i gyfrannu at Aberystwyth - prifysgol a thref sy'n golygu cymaint i mi.”

Dywedodd Cadeirydd Cyngor Prifysgol Aberystwyth, Dr Emyr Roberts:

“Mae Elfyn wedi bod yn was rhyfeddol i Brifysgol Aberystwyth fel aelod gwerthfawr o Gyngor ein Prifysgol, ac yn fwy diweddar fel Is-gadeirydd y Cyngor. Buodd yn bleser gweithio gydag ef yn rhinwedd y swydd honno, ac rwy’n hynod falch y bydd Elfyn yn parhau i gyfrannu yn rhinwedd ei rôl anrhydeddus newydd. Rwy’n estyn fy llongyfarchiadau cynhesaf i Elfyn ar ei benodiad ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gydag ef yn y dyfodol.”