Prifysgol Aberystwyth yn lansio Bwrsariaeth Waldo Williams

Waldo Williams, tua'r 1960au

Waldo Williams, tua'r 1960au

09 Medi 2021

Mae Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi lansio bwrsariaeth newydd i fyfyrwyr, diolch i haelioni teulu'r bardd enwog, Waldo Williams.

Ystyrir bod Waldo (1904–1971) yn un o'n beirdd mwyaf, ac mae ei gyfraniad i lenyddiaeth a diwylliant Cymru, ac i achos heddychiaeth, yn un eithriadol.

Er cof amdano, bydd y fwrsariaeth newydd yn dyfarnu £500 i hyd at ddau fyfyriwr sy'n eu blwyddyn gyntaf ac yn astudio’r Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, boed nhw’n ddechreuwyr, dysgwyr canolradd neu’n siaradwyr rhugl.

Er gwaetha'r ffaith bod ei rieni'n siaradwyr Cymraeg, cafodd Waldo a'i frodyr a'i chwiorydd eu magu trwy’r Saesneg. Dysgodd Gymraeg ar ôl i'w deulu symud o Hwlffordd i Fynachlog-ddu ym 1911 a chyfansoddodd ei farddoniaeth yn y Gymraeg yn ddiweddarach.

Rhwng 1923–1927, astudiodd Saesneg ym Mhrifysgol Aberystwyth (neu, fel yr oedd ar y pryd, Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth). Hyfforddodd wedyn i fod yn athro a bu'n dysgu mewn sawl ysgol yn Sir Benfro a mannau eraill ym Mhrydain, cyn dod yn ddarlithydd yn Adran Efrydiau Allanol Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth o 1953–63.  

Wrth gyflwyno’r anrheg, dywedodd perthnasau Waldo: “Fel teulu rydym ni’n falch iawn o fod yn gallu cefnogi myfyrwyr i ymuno ag Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn Aberystwyth, a thrwy hynny i ddysgu mwy am y pethau oedd mor agos at galon Waldo.”

Meddai Dr Cathryn Charnell-White, Pennaeth Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd: "Rydyn ni'n hynod ddiolchgar i deulu Waldo am eu rhodd hael sydd wedi'i ddefnyddio i sefydlu Bwrsariaeth Waldo Williams. Bydd y fwrsariaeth, sy'n werth £500 ym mlwyddyn gyntaf astudiaethau academaidd, yn cynorthwyo myfyrwyr sy’n astudio am radd anrhydedd sengl neu anrhydedd gyfun yn yr Adran, ac fe groesawir ceisiadau gan rai sydd newydd ddechrau dysgu'r Gymraeg neu fyfyrwyr y mae'r Gymraeg yn famiaith iddynt.”

Cyhoeddodd Waldo ddwy gyfrol o farddoniaeth yn ystod ei oes: llyfr o farddoniaeth i blant, Cerddi'r Plant, a gyhoeddwyd ar y cyd ag E Llwyd Williams ym 19436, a Dail Pren ym 1956.

Ac yntau'n heddychwr ac yn wrthwynebydd cydwybodol, gwrthwynebodd Waldo dalu treth incwm er mwyn protestio yn erbyn rhyfel a gorfodaeth filwrol. Oherwydd hyn cipiwyd ei eiddo gan y beilïaid i dalu ei ddyledion i Gyllid y Wlad, a threuliodd ddau gyfnod yn y carchar ar ddechrau'r 1960au.

Fel yr esbonia'r Dr Charnell-White: “I ymgeisio am y fwrsariaeth bydd myfyrwyr yn cyflwyno darn o waith, a rhoddir nifer o ddewisiadau iddynt ar gyfer ffurf y gwaith. Bydd y dewisiadau’n adlewyrchu diddordebau a chreadigrwydd Waldo Williams ei hun, yn ogystal ag arbenigedd cyfredol yn ein Hadran. Cânt ddewis un o’r canlynol: traethawd ar unrhyw agwedd ar waith creadigol Waldo Williams neu unrhyw agwedd ar heddychiaeth, casgliad o waith creadigol yn ymateb i'r thema 'heddwch' neu 'heddychiaeth' neu'n ymateb yn uniongyrchol i waith creadigol Waldo Williams ei hun, neu gyfieithiadau i'r Gymraeg o weithiau llenyddol yn mynegi neges heddwch.”

Gwahoddir ceisiadau erbyn 31 Ionawr 2022 gan fyfyrwyr sy'n dechrau ar eu hastudiaethau yn hydref 2022. Cyflwynir hyd at ddwy fwrsariaeth ymhob blwyddyn academaidd. Ceir gwybodaeth ynglŷn â chyflwyno cais yn: www.aber.ac.uk/cy/scholarships.

Ddydd Gwener 24 Medi, cynhelir degfed Darlith Flynyddol Waldo ar-lein. Fe'i threfnir ar y cyd gan Gymdeithas Waldo ac Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth, ac eleni bydd y bardd amlwg, Ceri Wyn Jones, yn traddodi darlith o'r enw 'Helbul Hunan': Waldo, Barddoniaeth a Iechyd a Lles. Mae tocynnau i'r ddarlith ar gael yn: https://tocyn.cymru/cy/event/ee9e6a79-20f5-4b27-aa00-af696f359e13.