Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn dathlu Celfyddydau a Chymuned mewn ffilm galonogol gyda cherddoriaeth wreiddiol gan Andrew Cusworth

Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

21 Medi 2021

Mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, fel rhan o Brifysgol Aberystwyth, yn falch i gyflwyno ffilm fer i ddathlu ail-agor y Ganolfan, gyda cherddoriaeth newydd a gomisiynwyd yn arbennig ar gyfer y prosiect gan y cyfansoddwr Andrew Cuswoth a geiriau gan y bardd Dafydd John Pritchard. Cyfarwyddir y fideo gan y gwneuthurwr ffilm Felix Cannadam, a nodweddir cerddorion lleol a dawnswyr o Ysgol Ddawns Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth.

Dangoswyd y ffilm am y tro cyntaf ar Heno, S4C, ar Nos Lun yr 20fed o Fedi.

Mae’r ffilm yn dathlu ail-agor y Ganolfan yn dilyn y pandemig ac mae’n ysbrydoledig ac yn ddathliadol. Dyma’r tro cyntaf yn ei hanes amrywiol i’r Ganolfan gomisiynu cerddoriaeth ac mae’r cydweithrediad rhwng Andrew Cusworth a Dafydd John Pritchard wedi creu darn calonogol rhyfeddol.

Mae’n dathlu’r lleol a’r byd-eang gyda chôr Aberystwyth, Côr ABC, cerddorion lleol a disgyblion Ysgol Ddawns Canolfan y Celfyddydau yn cymryd rhan. Ceir ffilm archifol hefyd o brosiectau’r Ganolfan yn y gorffennol yn cynnwys y gwaith ar y cyd gyda’r ganolfan addysgiadol Breuddwydiwch Freuddwyd yn Bangalore, yr India.

Cynhyrchwyd y ffilm gan Pete Telfer, sefydlydd Culture Colony, ac fe’i cyfarwyddir gan wneuthurwr ffilm a ffotograffydd ifanc o Aberystwyth, Felix Cannadam.

Yng ngwir ddull y cyfnod clo, bu pob aelod o’r côr yn recordio’r geiriau gartref ar eu ffonau a’u hanfon i mewn cyn i Andrew ddefnyddio ei sgiliau technolegol anhygoel i ddod â’r holl recordiadau at ei gilydd i greu un trac sain terfynol. 

Mae’r pum cerddor sy’n chwarae ar y darn wedi perfformio yn y Ganolfan llawer gwaith yn y gorffennol unai fel aelodau Philomusica, neu yn sioeau haf poblogaidd y Ganolfan.

Mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn ymfalchïo yn y ffaith mai hi yw’r Ganolfan Gelfyddydau brysuraf yng Nghymru yn nhermau’r gwaith a wneir gyda phobl ifanc, a dathlwyd hyn yn y ffilm trwy gynnwys dawnswyr ifanc anhygoel o’r Ysgol Ddawns.

Mae’r ffilm yn fynegiant o beth sy’n bwysig i’r Ganolfan - bod yn rhan o gymuned artistig gref, cefnogi pobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau a mwynhau’r celfyddydau, a chreu gwaith newydd cyffrous. Mae’n ffocysu ar yr hyn y mae’r celfyddydau yn golygu i ni yn dilyn  pandemig - yn dod â chymunedau a phobl o bob oedran at ei gilydd, yn rhannu emosiynau ac yn darganfod pa mor bwysig yw’r celfyddydau i ni bellach a chymaint yr ydym wedi eu methu.

Dywed Louise Amery, dirprwy gyfarwyddwraig Canolfan y Celfyddydau, “Dechreuwyd gwaith ar y prosiect yn gynnar yn 2021 pan ‘roeddem yn edrych ymlaen gyda’r gobaith o ail-agor ar ôl bod ar gau am gyfnod mor hir yn sgil y pandemig. Mae’r prosiect wedi bod yn un hynod galonogol a phositif ac ‘rydym yn gobeithio y bydd pawb yn ei fwynhau gymaint â fu ni wrth ei greu!  Diolch o galon i bawb a fu’n rhan ohono!”

Dangoswyd y ffilm am y tro cyntaf ar Heno, S4C, ar Nos Lun yr 20fed o Fedi am 7pm.