Mae myfyrwyr rhyngwladol yn dod â gwerth bron £80m o fudd economaidd i Geredigion, ac yn cyfoethogi ei diwylliant, yn ôl adroddiad newydd

Prifysgol Aberystwyth

Prifysgol Aberystwyth

29 Medi 2021

Mae adroddiad newydd wedi canfod bod economi Ceredigion bron £80 miliwn ar ei hennill oherwydd myfyrwyr rhyngwladol newydd, yn ogystal ag elwa o'r buddiannau diwylliannol a chymdeithasol a ddaw o boblogaeth fwy amrywiol.

Yn yr adroddiad gan y Sefydliad Polisi Addysg Uwch ac Universities UK International,  The Costs and Benefits of International Higher Education Students to the UK Economy, a ysgrifennwyd gan y cwmni ymgynghori London Economics, fe ddadansoddwyd y budd economaidd a ddeilliodd o fyfyrwyr rhyngwladol yn eu blwyddyn gyntaf sy'n mynd i brifysgolion ledled Cymru a gweddill gwledydd Prydain.

Yn y flwyddyn academaidd 2018/19, byddai un myfyriwr yn ei flwyddyn gyntaf yng Ngheredigion yn rhoi dros £87,000 o hwb i'r economi. Roedd hyn yn gyfuniad o incwm o'r ffioedd dysgu, y costau byw a'u gwariant yn yr economi ehangach, yn ogystal â'r arian a wariwyd gan eu cyfeillion a'u teulu wrth ymweld â nhw.

Serch hynny, dywedodd yr adroddiad na ddylid mesur gwerth myfyrwyr rhyngwladol yn nhermau ariannol yn unig, gan nodi eu bod hefyd yn gwneud cyfraniad allwedd at gyfoethogi'r gymdeithas yn ddiwylliannol.

Yn Aberystwyth mae tua phumed ran o boblogaeth myfyrwyr y Brifysgol yn dod o dramor yn y flwyddyn academaidd 2021/22.

Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Mae prifysgol amrywiol yn brifysgol lwyddiannus. Mae myfyrwyr rhyngwladol yn cyfoethogi'r profiad ym Mhrifysgol Aberystwyth drwy wneud ffrindiau, meithrin perthynas â'r staff, ac ymdaflu i'r gymuned ehangach.

“Yn ogystal â chael profiad addysg uwch, mae myfyrwyr rhyngwladol hefyd yn dysgu am Gymru a'i diwylliant. Mae ein myfyrwyr sy'n hanu o Gymru a gweddill gwledydd Prydain yn meithrin eu sgiliau traws-ddiwylliannol ymhellach, felly mae pawb ar eu hennill. Yn y pen draw, rydym yn creu graddedigion sy'n fwy deniadol yn y farchnad swyddi gyda meddylfryd mwy eangfrydig at y dyfodol. 

“Mae gallu Prifysgol Aberystwyth i feithrin cysylltiadau ledled y byd yn galondid i mi bob amser. Mae gan ein cyn-fyfyrwyr hoffter at y dref a thuag at Gymru na welwch chi mewn prifysgolion eraill. Pan ddychwelant i'w mamwlad maent yn dod yn genhadwyr dros Gymru a gweddill Prydain.”

Edrychodd yr adroddiad ar y flwyddyn academaidd olaf cyn i bandemig COVID-19 daro. Daeth hefyd i'r casgliad bod pob 14 o fyfyrwyr o'r Undeb Ewropeaidd a phob 10 o fyfyrwyr o'r tu allan i'r UE, yn ystod y flwyddyn academaidd 2018/19, wedi cynhyrchu gwerth £1 miliwn o effaith ariannol net yn ystod cyfnod eu hastudiaethau. Ar draws Cymru, daeth myfyrwyr rhyngwladol â budd economaidd net gwerth £1.08bn yn ystod y flwyddyn academaidd 2018-19.