Mapiau'n datgelu lle mae coedwigoedd yn newid ledled y byd

Map lloeren a gynhyrchir gan y prosiect.

Map lloeren a gynhyrchir gan y prosiect.

10 Ionawr 2022

Mae mapiau sy'n datgelu ardaloedd o goedwigoedd y byd sydd wedi newid yn sylweddol dros y degawd diwethaf wedi’u cyhoeddi drwy brosiect yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd (ESA) sy’n cael ei reoli a’i gydlynu gan Brifysgol Aberystwyth.

Mae prosiect Biomas Menter Newid Hinsawdd yr asiantaeth ofod, sydd wedi dod ag ymchwilwyr o bob rhan o Ewrop ynghyd, wedi datblygu ffordd o amcangyfrif pwysau cydrannau coedwigoedd sydd uwchben y ddaear.

Mae'r ymchwil yn defnyddio data lloeren i gynhyrchu mapiau eglur iawn sy'n dangos pa rai o goedwigoedd y blaned sy'n diflannu neu’n ehangu.

Maent yn dangos y colledion sylweddol o ganlyniad i ddatgoedwigo trofannol a chynaeafu coed yn yr Amazon a chanolbarth Affrica, effaith y tanau mawr diweddar yn Awstralia, effeithiau clefyd llarwydd yn y Deyrnas Gyfunol a lle mae coedwigoedd mewn rhai ardaloedd o Siberia yn ehangu.

Coedwigoedd yw un o'r dulliau naturiol allweddol o ddal carbon trwy ei storio yn eu boncyffion, eu canghennau a'u gwreiddiau.

Pan gaiff coed eu clirio, megis drwy ddatgoedwigo neu'u dinistrio gan danau gwyllt, gallant ryddhau'r carbon deuocsid hwn yn ôl i'r atmosffer. Mae hyn yn cyfrannu at grynodiadau nwyon tŷ gwydr, gan gynyddu cynhesu byd-eang.

Mae'r ymchwil newydd yn golygu bod modd amcangyfrif y stociau o garbon ar lefel fyd-eang yn ogystal â'u cyfraniadau posibl at newid hinsawdd.

Fel rhan o'r prosiect hwn mae Prifysgol Aberystwyth ac ESA wedi bod yn cydweithio â NASA ac Asiantaeth Archwilio Awyrofod Japan (JAXA) i ddatblygu platfform y gellir ei ddefnyddio i gyrchu a chymeradwyo dulliau byd-eang a rhanbarthol o olrhain colli biomas coedwig.

Meddai’r Athro Richard Lucas o Grŵp Arsylwi'r Ddaear ym Mhrifysgol Aberystwyth:

“Dros y degawdau diwethaf, rydym wedi gweld nifer sylweddol o goedwigoedd ar draws y byd yn diflannu gan arwain at ryddhau carbon sy’n effeithio'n andwyol ar ein hinsawdd. Rydym hefyd wedi bod yn gwylio dirywiad cynyddol bioamrywiaeth ar draws y byd. Gall y mapiau newydd hyn ddangos dosbarthiad biomas ar draws y byd a sut mae'n newid. Mae angen i ni ddefnyddio’r wybodaeth hon nawr er mwyn atal colledion pellach o goedwigoedd a sicrhau’n rhagweithiol eu bod yn mynd ati i ddal carbon i’r dyfodol.

“Adfer y colledion a achoswyd gan y newid yn y modd y mae tir wedi bod yn cael ei ddefnydd yn ystod y degawdau a’r canrifoedd diwethaf yn unig y mae coedwigoedd; mae eu cyfraniad at wneud iawn am allyriadau yn eu cyfanrwydd yn llai. Mae sicrhau allyriadau sero net o ffynonellau eraill cyn gynted â phosibl yn hanfodol os ydym am fynd i'r afael â newid hinsawdd.”

Ychwanegodd yr Athro Lucas:

“Pwrpas arall ein gwaith gyda’r asiantaethau gofod yw darparu mapiau dwysedd biomas y gellir eu defnyddio wrth amcangyfrif ac adrodd ar garbon coedwigoedd, a rheoli coedwigoedd a defnydd tir at ddibenion lliniaru hinsawdd.

"At ei gilydd, mae Prifysgol Aberystwyth yn gwneud cyfraniad sylweddol i ymdrechion byd-eang i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a bioamrywiaeth. Rydym yn sicrhau bod y data hwn ar gael i'r holl randdeiliaid perthnasol a’r rheini sydd â diddordeb, gan gynnwys y cyhoedd, i lywio a sbarduno ymatebion rhagweithiol.”

Yn ogystal, mae Prifysgol Aberystwyth wedi gweithio gyda'r Pwyllgor ar Loerennau Arsylwi'r Ddaear i sicrhau bod data sy'n berthnasol i Gytundeb Paris yn cael eu rhyddhau i'r cyhoedd. Mae’r rheiny yn cynnwys mapiau mangrof byd-eang, sy'n cwmpasu nifer o flynyddoedd.

Cafodd gwaith y tîm ei arddangos yn ddiweddar yn COP26, lle gwnaed addewid byd-eang i ddod â datgoedwigo i ben erbyn 2030.

Meddai Heather Kay o Brifysgol Aberystwyth, sy’n rheolwr ar brosiect Biomas Menter Newid Hinsawdd yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd:

“Roedd yn galonogol clywed gweinidogion ac eraill yn COP26 yn tynnu sylw at bwysigrwydd y gwaith Arsylwi'r Ddaear rydyn ni'n ei wneud yma yn Aberystwyth. Roedd cydnabyddiaeth eang o’r mantra mai dim ond yr hyn y gallwch ei fesur y gallwch ei reoli, ac mae ein mapiau o fiomas coedwigoedd byd-eang sydd uwchben y ddaear yn darparu'r math hwn o wybodaeth. O ystyried yr addewid newydd a wnaed yn COP26 i atal datgoedwigo erbyn 2030, gall ein setiau data ddarparu gwybodaeth allweddol ynghylch a yw'r targedau hyn yn cael eu cyflawni.”

Mae modd gweld data’r ymchwilwyr yn Arddangosfa ryngweithiol Living Wales yn y Ganolfan Technoleg Amgen ym Machynlleth, yn ogystal ag ar wefan Menter Newid Hinsawdd yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd.