Un o raddedigion Ysgrifennu Creadigol Aberystwyth ar frig y rhestr o’r cyfrolau ffuglen sy’n gwerthu orau yn y Deyrnas Unedig

Susan Stokes-Chapman  © Jamie Drew

Susan Stokes-Chapman © Jamie Drew

04 Chwefror 2022

Mae un o raddedigion Ysgrifennu Creadigol Prifysgol Aberystwyth wedi cyrraedd brig Rhestr Gwerthwyr Gorau’r Sunday Times gyda'i nofel gyntaf.

Ddyddiau wedi i Pandora gan Susan Stokes-Chapman gael ei rhyddhau, hi oedd y gyfrol ffuglen clawr caled oedd yn gwerthu orau yn y Deyrnas Unedig, gan daro The Man Who Died Twice Richard Osman oddi ar frig y rhestr.

Cafodd Susan ei geni a'i magu yn Lichfield, Swydd Stafford, a threuliodd bedair blynedd yn astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth, gan raddio gyda BA mewn Addysg a Llenyddiaeth Saesneg ac MA mewn Ysgrifennu Creadigol. 

Wrth ymateb i'r newyddion, dywedodd Susan: "Rwyf wedi cael fy syfrdanu gan yr ymateb i Pandora, ac ni ddychmygais erioed y byddai'r nofel yn cael cystal derbyniad. Mae’r ffaith ei bod ar frig rhestr gwerthwyr gorau’r Sunday Times dridiau’n unig wedi iddi gael ei chyhoeddi yn anhygoel, ac rwyf ar ben fy nigon!

"Bu fy nghyfnod yn Adran y Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol Prifysgol Aberystwyth yn ddylanwad mawr ar fy nhaith fel awdur - roeddwn i eisoes yn caru llenyddiaeth, ac yn sgil y cwrs MA datblygais sgiliau technegol a sgiliau golygyddol sydd wedi aros yn y cof. Roedd fy nhiwtoriaid mor gefnogol a chyfeillgar trwy gydol y cwrs. Yn ystod fy ngradd y cefais yr ysbrydoliaeth ar gyfer fy nofel gyntaf, ac er bod y stori honno wedi'i rhoi o'r neilltu ers hynny, fyddwn i ddim wedi dysgu sut i ysgrifennu hebddi. Ac yn awr, mae llwyddiant Pandora o ganlyniad i hyn oll yn anhygoel."

Yn ôl yr Athro Richard Marggraf Turley o Adran y Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol Prifysgol Aberystwyth: "Roedd diddordeb ysol Susan yng nghilfachau tywyll Llundain yn y cyfnod Sioraidd eisoes yn amlwg pan oedd hi’n fyfyriwr israddedig yn Aberystwyth, a thaniwyd ei hangerdd am y cyfnod yn ystod ei chwrs MA Ysgrifennu Creadigol. Mae hi wedi cyflawni camp i’w chwennych â’r nofel Pandora, sef cyfuno ymchwil hanesyddol fanwl â stori arbennig o dda i greu nofel nad oes modd rhoi’r gorau i’w darllen! Rydym yn hynod falch o'i llwyddiant ac mae'n ymuno â rhestr hir o gyn-fyfyrwyr sydd wedi mynd yn eu blaenau i gynhyrchu gwaith o fri."

Mae Pandora wedi’i gosod yn Llundain yn 1799, ac mae’n ailddehongliad bras o fyth Groegaidd blwch Pandora, wedi'i gydblethu â themâu cyfrinachau a thwyll, cariad a boddhad, tynged a gobaith. Mae'r llyfr yn adrodd hanes yr artist gemwaith uchelgeisiol Dora Blake a'i phrofiad â fâs hynafol y mae ei hewythr gormesol yn awyddus iawn i’w chadw’n gyfrinach.

Dywedodd Liz Foley, Cyfarwyddwr Cyhoeddi cwmni cyhoeddi Stokes-Chapman, Harvill Secker: "Rydym wrth ein bodd bod Pandora wedi cyrraedd rhif un yn y siartiau ac mae'n dyst i ddawn, gallu a gwaith caled Susan fel awdur a'i dychymyg anhygoel. Mae ganddi yrfa ddisglair o'i blaen ac mae hwn yn gam cyntaf gwych."

Cyrhaeddodd Pandora restr fer Gwobr Ffuglen Lucy Cavendish 2020 a rhestr hir Gwobr Nofel Caerfaddon yr un flwyddyn.

Mae cyrsiau Ysgrifennu Creadigol trawsddisgyblaethol Prifysgol Aberystwyth yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr ddysgu'r grefft o ysgrifennu barddoniaeth, ffuglen, rhyddiaith ffeithiol, sgriptiau ffilm a mwy.  Mae’r myfyrwyr yn dysgu o dan arweiniad arbenigol tîm o awduron arobryn a nodedig sy'n gweithio ar draws sbectrwm eang o feysydd creadigol.  

Ymhlith cyn-fyfyrwyr eraill Adran y Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol sydd wedi mynd yn eu blaenau i gyhoeddi gweithiau llenyddol o fri mae'r awdur ffuglen arobryn i'r arddegau, Hayley Long; y nofelydd a enwebwyd am Wobr Man Booker, Sarah Hall; y nofelydd a'r sgriptiwr arobryn, Tyler Kevil; yr awdur nofelau llawn cyffro sydd hefyd ymhlith y gwerthwyr gorau, Kate Hamer; y bardd a'r awdur ffuglen Richard Georges; awdur arobryn Llyfr y Flwyddyn Francesca Rhydderch; y bardd arobryn Maria Apichella; ac Eluned Gramich, yr enillodd ei chofiant wobr ‘New Welsh Writing’ pan gynhaliwyd y gwobrau hynny am y tro cyntaf.