Prifysgol Aberystwyth yn condemnio ymosodiad Rwsia ar Wcráin

Prifysgol Aberystwyth

Prifysgol Aberystwyth

04 Mawrth 2022

Mae Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Elizabeth Treasure,  wedi ysgrifennu at fyfyrwyr a staff i gynnig cefnogaeth i’r rhai sydd wedi eu heffeithio gan weithredoedd milwrol Rwsia yn Wcráin.

Dywedodd yr Athro Treasure ei bod yn rhannu’r feirniadaeth eang o weithredoedd llywodraeth Rwsia a chynigiodd ei chefnogaeth lwyr i’r rhai sydd wedi eu heffeithio.

Dywedodd yr Athro Treasure, “Rydym yn gymuned ryngwladol yma yn Aberystwyth, ac rydym yn llwyr gefnogi ac yn cydymdeimlo ag aelodau o’n cymuned, yn fyfyrwyr a staff, sydd â chysylltiadau personol agos â Wcráin. Gallaf eich sicrhau bod ein cymuned yn cyd-sefyll â chi trwy'r digwyddiadau ofnadwy hyn.

Mae Athro Treasure hefyd wedi galw ar i bawb ddangos y caredigrwydd a’r cymorth sy’n nodweddu cymuned y Brifysgol.

“Rwyf hefyd yn falch o rannu sefydliad gyda myfyrwyr a staff o Rwsia”, ychwanegodd.

“Er fy mod yn cytuno’n llwyr â’r condemniad rhyngwladol o weithredoedd llywodraeth Rwsia, mae ein cydweithwyr o Rwsia hefyd yn rhan o gymuned Aberystwyth.”

“Rwy'n gobeithio y bydd y cyfeillion a'r cydweithwyr hynny yn clywed ein neges unedig na ddylai digwyddiadau yn Wcráin adlewyrchu arnoch, a bod gennych chithau hefyd ein cefnogaeth yn ystod gwrthdaro nad oes gennych ddim i’w wneud ag ef.”

Mae rhwydweithiau cefnogaeth wedi eu hagor ar gyfer myfyrwyr a staff, ac mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i barhau i addasu ei hymateb yn ôl yr angen, wrth i’r  amgylchiadau ddatblygu.