Cyflwyno gwobrau blynyddol staff a myfyrwyr

Enillwyr Gwobrau Staff a Myfyrwyr UMAber 2022

Enillwyr Gwobrau Staff a Myfyrwyr UMAber 2022

09 Mai 2022

Coronwyd yr Ysgol Addysg yn Adran y Flwyddyn yng Ngwobrau Staff a Myfyrwyr Undeb Myfyrwyr Aberystwyth 2022, a gynhaliwyd ar 3 Mai yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.

Mae'r gwobrau, a drefnir yn flynyddol gan Undeb Myfyrwyr Aberystwyth gyda chefnogaeth gan y Brifysgol, yn cydnabod a chymeradwyo cyfraniadau staff a myfyrwyr at y profiad o fod yn un o fyfyrwyr Aberystwyth. 

Wrth gipio’r teitl Adran y Flwyddyn am 2022, canmolwyd staff yr Ysgol Addysg gan y rhai a’i henwebodd am greu amgylchedd croesawgar, am gefnogi lles myfyrwyr, darparu safon uchel o addysgu a chynorthwyo gydag aseiniadau, ac am gydweithio i wneud i fyfyrwyr ymfalchio i fod yn rhan o'r adran.

Meddai Elizabeth Manners, Swyddog Materion Academaidd Undeb Myfyrwyr Aberystwyth am 2021-22: "Llongyfarchiadau i bawb a enwebwyd am wobr eleni. Mae'r enwebiadau a dderbyniwyd yn deyrnged gwirioneddol i'r staff a'r myfyrwyr gwych sydd gennym yma yn y Brifysgol. Cawsom dros ddau gant o enwebiadau eleni, llawer ohonynt yn manylu ar y ffordd mae aelodau staff a'u cyfoedion wedi mynd y tu hwnt i’r disgwyl i helpu myfyrwyr i gael y profiad gorau posibl yma yn Aberystwyth."

Dywedodd yr Athro Tim Woods, Dirprwy Is-Ganghellor: Dysgu, Addysgu a Phrofiad Myfyrwyr Aberystwyth: "Ar ôl dwy flynedd o ddathlu'r Gwobrau Staff a Myfyrwyr ar-lein, bu’n gymaint o bleser gallu mwynhau awyrgylch gwych y digwyddiad hwn wyneb yn wyneb unwaith eto.  O'r enwebiadau eleni, roedd yn arbennig o amlwg bod myfyrwyr wedi gwerthfawrogi’n fawr staff y Brifysgol sydd wedi rhoi eu gofal, eu cefnogaeth a'u cymorth yn ystod blwyddyn ansicr a effeithiwyd gan bandemig Covid-19. Llongyfarchiadau i'r holl fyfyrwyr a staff a enillodd neu a enwebwyd am un o'r gwobrau eleni, ond o glywed y datganiadau calonogol gan ein myfyrwyr heno, byddwn yn dweud ei bod yn amlwg bod y Brifysgol gyfan yn enillydd." 

Enillwyr Gwobrau Staff a Myfyrwyr UMAber 2022:

Adran y Flwyddyn:
Yr Ysgol Addysg

Darlithydd y Flwyddyn:
Dr Val Nolan, Yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol

Tiwtor Personol y Flwyddyn:
Dr Niall McKeown, Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig

Goruchwyliwr y Flwyddyn:
Dr David Ceri Jones, Adran Hanes a Hanes Cymru

Aelod Staff Ategol/Gwasanaeth y Flwyddyn:
Karen Twinney, Y Tîm Lletygarwch

Athro Ôl-raddedig y Flwyddyn:
Andra Jones, Adran Cyfrifiadureg

Cynrychiolydd Academaidd y Flwyddyn:
Bethan Stewart

Myfyriwr-Fentor y Flwyddyn:
Lauren Rebecca Middleton

Aelod Staff Myfyrwyr y Flwyddyn:
Rae Hughes

Myfyriwr-Wirfoddolwr y Flwyddyn:
Zoe Hayne