Hoff weithiau celf Cymru yn cael eu arddangos yn Aberystwyth

Dyluniad y logo gan @menai.designs.dyluniadau

Dyluniad y logo gan @menai.designs.dyluniadau

16 Mai 2022

Mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn arddangos detholiad o hoff waith celf y wlad fel rhan o fenter i rannu'r casgliad celf cenedlaethol â chymunedau ac orielau ar draws y wlad.

Fe fydd prosiect Celf ar y Cyd Ar Daith yn gweld tua 30 gwaith celf o gasgliad Amgueddfa Cymru yn teithio i Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth 30 Ebrill-26 Mehefin 2022, Amgueddfa ac Oriel Gelf y Gaer, Aberhonddu 9 Gorffennaf-30 Hydref 2022, Oriel Ynys Môn, 11 Chwefror-14 Mai 2023.

Cynhelir Celf ar y Cyd Ar Daith yn dilyn pleidlais a gynhaliwyd yn ystod pandemig Covid-19. Tra'r oedd orielau Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar gau yn 2020, dewisodd curaduron Amgueddfa Cymru 100 o weithiau celf a'u rhannu'n ddigidol trwy gyfrif Instagram @celfarycyd. Gofynnwyd i'r cyhoedd bleidleisio dros eu hoff weithiau celf o'r casgliad trwy 'hoffi' eu ffefrynnau.  Defnyddiwyd y canlyniadau hyn i greu rhestr fer o'r hoff weithiau celf.

Nawr, mae detholiad o'r gweithiau celf mwyaf poblogaidd yn teithio i wahanol orielau yng Nghymru. O gerfiadau carreg neolithig i gelf gyfoes, serameg a ffotograffiaeth, mae'r detholiad yn adlewyrchu amrywiaeth a chyfoeth bywyd yng Nghymru. Ymhlith yr artistiaid mae Thomas Jones, Betty Woodman, Adam Buick, David Hurn, Laura Ford, Elizabeth Fritsch a llawer mwy.

Grŵp o bedwar project yw Celf ar y Cyd, a ddatblygwyd i rannu'r celfyddydau gweledol ar draws Cymru fel ymateb i'r argyfwng iechyd cyfredol. Mae'r project, sydd wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, yn bartneriaeth rhwng Amgueddfa Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru. Yn ogystal â Celf ar y Cyd Ar Daith, mae'r projectau'n cynnwys Celf mewn Ysbytai, y cylchgrawn celfyddydol Cynfas, a chyfres o gomisiynau celf newydd yn gofyn i artistiaid sy'n gweithio yng Nghymru gydweithio â'u cymunedau i ymateb i'r argyfwng iechyd.

Thomas Jones (1742-1803), Adeiladau yn Napoli / Buildings in Naples, 1774   © Amgueddfa Cymru

Dywedodd Ffion Rhys, Curadur Arddangosfeydd Canolfan Y Celfyddydau Aberystwyth “Rydym yn hynod o falch i gydweitho gyda Amgueddfa Cymru ar y prosiect yma, ac i gyflwyno yr arddangosfa Celf ar y Cydar daith yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth. Mae’n arddangosfa hyfryd iawn o weithiau celf a ddetholwyd gan y cyhoedd, ac yn creu  cyfle holl bwysig i gynulleidfaoedd ar draws Cymru i fwynhau ein casglaid cenedlaethol.”

Meddai Kath Davies “Bydd hoff weithiau celf y cyhoedd a ddewiswyd trwy bleidlais yn mynd ar daith, gan fynd â'r casgliad cenedlaethol i gymunedau ar draws Cymru. Trwy weithio mewn partneriaeth â Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Y Gaer ac Oriel Ynys Môn, caiff pobl ar draws Cymru fwynhau'r gweithiau celf hyn.”

Dywedodd Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon: “Rwyn falch iawn ein bod wedi gallu darparu cymorth ariannol ar gyfer Celf ar y Cyd. Mae’n newyddion gwych bod yr arddangosfa hon – a ddewiswyd gan bleidlais y cyhoedd – bellach yn teithio Cymru. Mae’n ffordd wych o alluogi mwy o bobl i weld cyfoeth ac amrywiaeth gweithiau celf Amgueddfa Cymru a’i rannu â chymunedau ledled Cymru.”

Mae'r arddangosfa ar agor i'r cyhoedd, ac mae mynediad yn rhad ac am ddim. Mae oriel Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth ar agor o 10yb – 5yh o ddydd Llun i ddydd Mercher, 10yb – 8yh o ddydd Iau i ddydd Sadwrn ac o 1yp – 5yh ar ddydd Sul.

Laura Ford (1961-), Clod Clod (Het a Chyrn)- Glory Glory (Hat and Horns), 2005   ©Laura Ford.jpg