Prosiect ysgrifennu yn chwilio am bobl sydd â phrofiad o Covid hir

29 Mehefin 2022

Mae ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth yn chwilio am bobl sydd â phrofiad o Covid hir i fod yn rhan o brosiect ysgrifennu newydd. 

Mae'r Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol yn astudio sut y gallai gweithgareddau ysgrifennu creadigol gyfrannu at reoli symptomau Covid hir.

Gan weithio gyda chleifion ac ymarferwyr gofal iechyd, bydd y prosiect yn cynnwys trafodaethau a gweithdai prawf a fydd yn helpu i sefydlu pa fathau o weithgareddau ysgrifennu creadigol a allai fod yn ddefnyddiol, i bobl sy'n profi Covid hir ac i'r staff meddygol sy'n cefnogi eu hanghenion gofal iechyd. 

Bydd y prosiect yn datblygu’r cysylltiadau a geir eisoes ag Ysbyty Bronllys, Aberhonddu, ac yn ceisio creu cysylltiadau newydd â gwasanaethau gofal iechyd ledled Cymru. 

Nid oes angen unrhyw brofiad ysgrifennu blaenorol ar gyfranogwyr ac mae croeso i unrhyw oedolyn sydd â phrofiad o Covid hir gymryd rhan.

Dywedodd Dr Jacqueline Yallop o'r Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, prif ymchwilydd y prosiect: "Mae'r gwaith hwn yn adeiladu ar ymchwil arall a gynhaliwyd gennym sydd wedi archwilio'r cysylltiadau rhwng creadigrwydd ac iechyd. Drwy'r astudiaeth hon byddwn yn edrych ar sut y gall gweithgareddau ysgrifennu creadigol helpu i reoli cyflyrau meddygol, gyda'r nod hirdymor o ystyried sut y gellid ymgorffori'r ymyriadau hyn wrth reoli cyflyrau meddygol drwy bresgripsiwn ac atgyfeirio." 

Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn y prosiect, a bod gennych brofiad o Covid hir, boed fel claf neu ddarparwr gofal iechyd, anfonwch e-bost at Ed Garland: edg7@aber.ac.uk. Rhaid i bawb sy’n cymryd rhan fod dros 18 oed.  

Mae'r astudiaeth yn adeiladu ar ymchwil blaenorol a gynhaliwyd gan academyddion o'r Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol a oedd yn archwilio ffyrdd o ddefnyddio ysgrifennu creadigol i gyfathrebu a rheoli cyflyrau poen cronig, a harneisio pŵer barddoniaeth i reoli pryder.