Graddio 2022

06 Gorffennaf 2022

Mae seremonïau Graddio blynyddol Prifysgol Aberystwyth yn dychwelyd yr wythnos hon ar ôl dwy flynedd o saib oherwydd pandemig COVID-19.

Bydd Graddio 2022 yn gweld 3,600 o fyfyrwyr a'u teuluoedd yn cael eu croesawu'n ôl i Aberystwyth ar gyfer un ar bymtheg o seremonïau a gynhelir rhwng 8 a 15 Gorffennaf yn y Neuadd Fawr yng Nghanolfan y Celfyddydau.

Yn ogystal â chroesawu ei graddedigion diweddaraf, bydd y Brifysgol hefyd yn gweld myfyrwyr yn graddio o garfanau 2020 a 2021 a gafodd eu hatal rhag gwneud hynny ar y pryd oherwydd y pandemig.

Yn rhan o'r seremonïau graddio bydd y Brifysgol hefyd yn cyflwyno deg Cymrodoriaeth er Anrhydedd i unigolion sydd â chysylltiad ag Aberystwyth neu Gymru, ac sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i'w dewis feysydd. 

Mae'r Cymrodyr eleni yn cynnwys ffigurau blaenllaw o'r celfyddydau, darlledu, y gyfraith, amaethyddiaeth, a'r sectorau gwyddoniaeth a thechnoleg.

Dyma Gymrodyr Er Anrhydedd 2022:

  • Ei Anrhydedd y Barnwr Nicholas Cooke CF, cyn Uwch Farnwr Cylchdaith yn y Llys Troseddol Canolog, “yr Hen Feili”
  • Myrddin ap Dafydd, awdur, cyhoeddwr ac Archdderwydd Cymru
  • Gwerfyl Pierce Jones, cyn-Gyfarwyddwr a Phrif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru
  • Tom Jones OBE, amaethwr a chadeirydd Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm y Mileniwm ar adeg ei sefydlu
  • Dr Zoe Laughlin, cyd-sylfaenydd a chyfarwyddwr ‘Institute of Making’
  • Yr Anrhydeddus Ustus Datuk Vazeer Alam Mydin Meera, Barnwr Llys Apêl, Malaysia
  • Rhuanedd Richards, Cyfarwyddwr Cenedlaethol BBC Cymru
  • Yr Athro Fonesig Elan Closs Stephens DBE, Comisiynydd Etholiadol Cymru ac yn Gyfarwyddwr Anweithredol ar Fwrdd y BBC, yn ogystal â bod yr aelod dros Gymru ar y Bwrdd hwnnw
  • Harry Venning, cartwnydd, darlunydd ac awdur comedi arobryn.
  • Jonathan Whelan, ymgynghorydd TG, awdur a Chymrawd Cymdeithas Gyfrifiaduron Prydain.

Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth:  "Graddio yw uchafbwynt calendr y Brifysgol, ac mae'n wych gallu cynnal y seremonïau hirsefydlog hyn i ddathlu llwyddiannau ein myfyrwyr unwaith eto.  Yn ogystal â bod yn gyfle haeddiannol i'n graddedigion 2022 ddathlu eu llwyddiannau gyda'u teuluoedd a'u cefnogwyr, eleni bydd yn bleser gennym hefyd groesawu graddedigion yn ôl o 2020 a 2021 ar gyfer eu seremonïau hir-ddisgwyliedig hwy.  

“Mae’r ein Prifysgol hanesyddol yn dathlu ei phen-blwydd yn 150 eleni.  Ers i ni agor ein drysau i fyfyrwyr am y tro cyntaf yn 1872, mae miloedd lawer o fyfyrwyr wedi cwblhau eu hastudiaethau yma.  Ychydig sydd wedi gwneud hynny o dan amgylchiadau mor heriol â’r rhai a wynebai’r myfyrwyr hyn oherwydd y pandemig.  Felly, rwy'n llongyfarch pob un ohonynt ar yr ymroddiad a’r ysbryd cryf y maent wedi'u dangos er mwyn gallu cyrraedd y garreg filltir hon, ac yn dymuno pob llwyddiant iddynt ar gyfer y dyfodol."  

Bydd y Brifysgol yn rhannu'r newyddion diweddaraf am y graddio a'r llwyddiannau diweddaraf ar ei sianeli ar y cyfryngau cymdeithasol.