Yr Athro Elan Closs Stephens yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd

Cadeirydd Cyngor Prifysgol Aberystwyth Dr Emyr Roberts gyda'r Athro Elan Closs Stephens

Cadeirydd Cyngor Prifysgol Aberystwyth Dr Emyr Roberts gyda'r Athro Elan Closs Stephens

08 Gorffennaf 2022

Mae cyfraniad aruthrol yr Athro y Fonesig Elan Closs Stephens DBE i fywyd dinesig a chyhoeddus yng Nghymru a'r DU wedi’i gydnabod gyda Chymrodoriaeth er Anrhydedd Prifysgol Aberystwyth.

Ar hyn o bryd, mae’n Gomisiynydd Etholiadol Cymru ac yn Gyfarwyddwr Anweithredol ar Fwrdd y BBC, yn ogystal â bod yn aelod o’r Bwrdd hwnnw ar ran Cymru, ac mae’n Ddirprwy Ganghellor Prifysgol Aberystwyth; mae hi hefyd yn Athro Emeritws mewn Cyfathrebu a Diwydiannau Creadigol ac yn gyn bennaeth yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu. 

Gan arbenigo mewn polisi rheoleiddio diwylliannol a darlledu, cadeiriodd Adolygiad Stephens i Gyngor Celfyddydau Cymru, yn ogystal â gwasanaethu fel Cadeirydd y Cyngor Prydeinig yng Nghymru, Llywodraethwr Sefydliad Ffilm Prydain a Chadeirydd S4C. 

Bu'n Gyfarwyddwr Anweithredol Uwch Fwrdd Ysgrifennydd Parhaol Cymru a bu'n gadeirydd ar y Pwyllgor Archwilio a Risg o 2008-18. Bu'n gwasanaethu fel Uwch Siryf siroedd Penfro, Caerfyrddin a Cheredigion rhwng 2012-13. 

Dyfarnwyd CBE iddi yn 2001 am wasanaethau i ddarlledu a'r iaith Gymraeg, a chafodd ei gwneud yn Fonesig yn 2019 am ei gwasanaeth i Lywodraeth Cymru ac i ddarlledu. 

Cyflwynwyd yr Athro y Fonesig Elan Closs Stephens DBE gan yr Athro Anwen Jones, Dirprwy Is-Ganghellor Cyfadran y Celfyddydau a Gwyddorau Cymdeithasol, ar ddydd Gwener 8 Gorffennaf 2022.

Mae’r cyflwyniad ar gael isod, yn yr iaith y’i traddodwyd.

Cyflwyno’r Athro y Fonesig Elan Closs Stephens DBE gan yr Athro Anwen Jones:

Cadeirydd y Cyngor, Is-Ganghellor, darpar raddedigion, gyfeillion.  Pleser o’r mwyaf yw cyflwyno Elan Closs Stephens yn gymrawd Prifysgol Aberystwyth.

Chair of Council, Vice-Chancellor, prospective graduates and supporters.  It is an honour and a privilege to present Elan Closs Stephens as a Fellow of Aberystwyth University.

Rwyf wedi adnabod Elan ers blynyddoedd lawer ac mae bob blwyddyn wedi bod yn anrhydedd ac yn bleser. Ble mae cychwyn ar gyraeddiadau Elan, mae’n anodd gwybod ond mae’n hyfryd cofio ei chyfnod fel aelod o staff ac wedyn fel Pennaeth yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu yma yn Aberystwyth. Bryd hynny, yn 1 Maes Lowri roedd cartre’r adran ac fe fu Elan yn arweinydd craff, gwybodus ac ysbrydoledig ar ei chydweithwyr ac yn fodel gogyfer rhywun ifanc fel minnau oedd yn baglu dilyn yn ôl ei throed. Mae Elan yn fodel hynod o werthfawr i bobol ifainc Cymru gyfan ac mae ystod ei harbenigedd a’i pharodrwydd i rhoi’r arbenigedd hwnnw yng ngwasanaeth ei chenedl yn drawiadol.

Elan is, amongst other things, a Professor and a Dame and, I can assure you that, despite an illustrious academic career in the field of theatre, broadcasting, communications and media, she is no pantomime Dame!  Elan has enormous experience in policy and regulation through her role as Chair of the Welsh language broadcaster S4C and as Non-Executive Director of the BBC Board and its member for Wales. It is impossible to list all Elan’s public service roles but it is a pleasure to consider just some of them. She has served as Non-Executive Director of the Permanent Secretary of Wales’s Senior Board and chaired the Board’s Audit and Risk Committee from 2008-18. She served as High Sheriff of the three counties of Pembrokeshire, Carmarthenshire and Ceredigion 2012-13. Specialising in cultural and broadcasting regulatory policy, she chaired the Stephens Review into the Welsh Arts Council, served as Chair of the British Council in Wales and Governor of the British Film Institute.  Without Elan, I doubt much gets done anywhere at all!

Yn 2019 a 2021, coronwyd cyrhaeddiadau a chyfraniad Elan, pan benodwyd hi yn  Gadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (CBE)am wasanaeth i ddarlledu a’r Iaith Gymraeg ac yn Fonhesig Gadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (DBE) am wasanaeth i Lywodraeth Cymru ac i ddarlledu.

Mae Elan yn gawr i’w chenedl ond yr hyn sydd fwyaf gwerthfawr amdani, i’m golwg i, yw ei hagosatrwydd, a’i gofal am a dros y Brifysgol. Mae hi’n Ddirprwy Gangellor ar Brifysgol Aberystwyth ac mae ei charedigrwydd cwbl ddiymhongar wrth ymwneud gyda staff a myfyrwyr y gorffennol a’r presennol yn cyfoethogi ein profiad ni oll, ac rydym yn fythol ddiolchgar amdano. Os cewch y cyfle i siarad gydag Elan heddiw neu rhywdro eto, fe fyddwch yn synnu at fwynder ei hosgo a’i llais. Mae ei dylanwad yn fawr ond mae ei haddfwynder yn enbyd.

Cadeirydd y Cyngor, mae’n bleser gen i gyflwyno Elan Closs Stephens i chi yn Gymrawd. 

Chair of Council, it is my absolute pleasure to present Elan Closs Stephens to you as a Fellow of Aberystwyth University.

Dr Emyr Roberts (Cadeirydd Cyngor Prifysgol Aberystwyth), yr Athro Elizabeth Treasure (Is-Ganghellor), yr Athro Elan Closs Stephens, a'r Athro Anwen Jones (Dirprwy Is-Ganghellor: Cyfadran y Celfyddydau a Gwyddorau Cymdeithasol)

 Anrhydeddau Prifysgol Aberystwyth 2022

Yn rhan o'r seremonïau graddio bydd y Brifysgol hefyd yn cyflwyno deg Cymrodoriaeth er Anrhydedd i unigolion sydd â chysylltiad ag Aberystwyth neu Gymru, ac sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i'w dewis feysydd.  

Mae'r Cymrodyr eleni yn cynnwys ffigurau blaenllaw o'r celfyddydau, darlledu, y gyfraith, amaethyddiaeth, a'r sectorau gwyddoniaeth a thechnoleg.

Dyma Gymrodyr er Anrhydedd 2022 (yn y drefn y’u cyflwynir):

  • Yr Athro Fonesig Elan Closs Stephens DBE, Comisiynydd Etholiadol Cymru ac yn Gyfarwyddwr Anweithredol ar Fwrdd y BBC, yn ogystal â bod yr aelod dros Gymru ar y Bwrdd hwnnw
  • Myrddin ap Dafydd, awdur, cyhoeddwr ac Archdderwydd Cymru
  • Yr Anrhydeddus Ustus Datuk Vazeer Alam Mydin Meera, Barnwr Llys Apêl, Malaysia
  • Harry Venning, cartwnydd, darlunydd ac awdur comedi arobryn
  • Dr Zoe Laughlin, cyd-sylfaenydd a chyfarwyddwr ‘Institute of Making’
  • Rhuanedd Richards, Cyfarwyddwr Cenedlaethol BBC Cymru
  • Jonathan Whelan, ymgynghorydd TG, awdur a Chymrawd Cymdeithas Gyfrifiaduron Prydain.
  • Tom Jones OBE, amaethwr a chadeirydd Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm y Mileniwm ar adeg ei sefydlu
  • Ei Anrhydedd y Barnwr Nicholas Cooke CF, cyn Uwch Farnwr Cylchdaith yn y Llys Troseddol Canolog, “yr Hen Feili”
  • Gwerfyl Pierce Jones, cyn-Gyfarwyddwr a Phrif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru