Harneisio grym theatr i ymchwilio i effaith cyfieithu ar y pryd ar achosion llys

O’r chwith i’r dde: Leonie Schwede, Adran y Gyfraith a Throseddeg; Rhiannon Williams, hwylusydd; Dr Catrin Fflûr Huws, Adran y Gyfraith a Throseddeg; William Kingshott, actor a fu’n chwarae rhan yr hawlydd; Owain Rhys James, bargyfreithiwr; a Non Humphries, myfyrwraig PhD

O’r chwith i’r dde: Leonie Schwede, Adran y Gyfraith a Throseddeg; Rhiannon Williams, hwylusydd; Dr Catrin Fflûr Huws, Adran y Gyfraith a Throseddeg; William Kingshott, actor a fu’n chwarae rhan yr hawlydd; Owain Rhys James, bargyfreithiwr; a Non Humphries, myfyrwraig PhD

11 Gorffennaf 2022

Mae academyddion o Brifysgol Aberystwyth, sy'n ystyried dylanwad cyfieithu ar y pryd ar achosion llys, wedi mabwysiadu offeryn ymchwil mewn prosiect sy’n cyfuno’r theatr a'r gyfraith mewn modd arloesol.

Mabwysiadwyd y dull arloesol hwn gan Dr Catrin Fflûr Huws, Uwch Ddarlithydd yn Adran y Gyfraith a Throseddeg, sydd â diddordeb yn yr ymwneud rhwng y theatr a'r gyfraith.

Dr Huws yw'r prif ymchwilydd mewn astudiaeth sy'n ystyried effaith, arwyddocâd a dylanwad cyfieithu ar y pryd mewn achosion llys, yn enwedig felly o ran yr heriau a'r manteision i wasanaethau cyfieithu ar y pryd mewn achosion llys a gynhelir o bell.

Yn rhan o'r astudiaeth, cynhaliwyd ffug lys yn y Brifysgol ar ddydd Llun, yr 20fed o Fehefin 2022. 

Yn rhan o’r sesiwn ffug hon, bu bargyfreithiwr yn croesholi hawlydd (actor) drwy gyfieithydd ar y pryd, gan ddilyn sgript o wrandawiad llys go iawn. 

At ddibenion y ffug lys, roedd y bargyfreithiwr, yr hawlydd a'r cyfieithydd i gyd mewn gwahanol leoliadau, er mwyn efelychu achos llys o bell. Crëwyd ffug reithgor o blith aelodau’r cyhoedd.

Defnyddiwyd techneg theatr ryngweithiol o'r enw Theatr Fforwm, sy'n defnyddio theatr fel offeryn i herio a newid rhagdybiaethau. Anogir y gynulleidfa i gymryd rhan hefyd, ac mae gwahanol opsiynau ar gyfer delio â phroblem neu fater yn cael eu hystyried drwy gael pawb i gymryd rhan. 

Dr Catrin Fflûr Huws sy'n egluro: "Mewn achos llys, mae cyfathrebu amlieithog effeithiol yn gwbl ddibynnol ar rôl y cyfieithydd ar y pryd. Ac eto, nid yw pobl yn deall yn llwyr pa mor bwysig yw cyfieithu ar y pryd. 

"Yn ein ffug lys, gwrandawodd y ffug reithgor ar sesiwn lle bu bargyfreithiwr yn croesholi hawlydd, gyda chyfieithu ar y pryd a heb gyfieithu ar y pryd. Yna, dadansoddwyd eu hymatebion, eu barn a'u teimladau, ac roedd cyfarwyddwr wrth law i hwyluso hyn oll.  Mae hyn yn ein galluogi i wybod sut mae’r rheithgor yn ymateb i hawlydd ac yn ei ddeall, gyda chyfieithydd ar y pryd a heb gyfieithydd ar y pryd. Drwy hyn, mae modd gwybod beth yw effaith y cyfieithydd ar y pryd."

Yr academyddion eraill o Aberystwyth sy'n rhan o'r astudiaeth yw Dr Rhianedd Jewell, Uwch Ddarlithydd Cymraeg Proffesiynol sy’n arbenigo mewn astudiaethau cyfieithu a chyfieithu proffesiynol, a'r darlithydd Seicoleg Dr Hanna Binks sy'n arbenigo mewn caffael iaith a seicoleg dwyieithrwydd. Mae Non Humphries, myfyriwr PhD yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd hefyd yn rhan o'r tîm sy’n ymchwilio i’r pwnc.

Mae'r gwaith ymchwil wedi'i ariannu gan ddyraniad Prifysgol Aberystwyth o Gronfa Arloesi Ymchwil Cymru gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

Dywedodd Dr Rhianedd Jewell: "Mae'r ymchwil hwn yn ein galluogi i ystyried sut y gellid newid arferion cyfredol er gwell. Er bod yr ymchwil hwn yn canolbwyntio ar ddwyieithrwydd Cymraeg-Saesneg mewn achosion llys, bydd llawer o'r canfyddiadau hefyd yn berthnasol mewn cyd-destunau eraill lle cynhelir gwrandawiadau llys amlieithog, gan gynnwys Iaith Arwyddion Prydain."

Bydd canlyniad yr ymchwil yn destun cynhadledd ar-lein a gynhelir ar 21 Gorffennaf 2022. 

Bydd y gynhadledd o ddiddordeb i academyddion o feysydd Seicoleg, Astudiaethau Cyfieithu ac Ieithyddiaeth, y Gyfraith, Troseddeg a Gwleidyddiaeth ac i bobl sy'n gweithio ym meysydd cyfiawnder a chyfiawnder troseddol, ymarferwyr y gyfraith, yr heddlu a gwasanaethau cyfieithu.

I gofrestru i fod yn rhan o’r gynhadledd, ewch i: https://TheFutureOfRemoteCourtHearings.eventbrite.com