Prifysgol Aberystwyth yn dathlu effaith eithriadol ei hymchwil

Dr Christine Marley o’r Athrofa Gwyddorau Biolegol, yr Amgylchedd a Gwledig, ac un o enillwyr neithiwr, yn derbyn ei gwobr gan yr Athro Colin McInnes, Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil, Cyfnewid Gwybodaeth ac Arloesedd.

Dr Christine Marley o’r Athrofa Gwyddorau Biolegol, yr Amgylchedd a Gwledig, ac un o enillwyr neithiwr, yn derbyn ei gwobr gan yr Athro Colin McInnes, Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil, Cyfnewid Gwybodaeth ac Arloesedd.

14 Gorffennaf 2022

Mae gwella gofal lliniarol a mynediad at gyfiawnder i’r rhai sy’n dioddef cam-drin domestig yn ddau o blith pedwar o brosiectau ymchwil sydd wedi ennill gwobrau am eu heffaith yn y Deyrnas Unedig a thramor.

Mae arloesi gwyddonol i ddatgelu cyfrinachau seliau canoloesol, a dileu’r defnydd o soia wedi’i fewnforio i fwydo da byw hefyd ymhlith y prosiectau sydd wedi'u cydnabod â gwobrau.

Cyflwynwyd Gwobrau Effaith Eithriadol i bedwar academydd yng Nghinio Cymrodyr Prifysgol Aberystwyth neithiwr (13 Gorffennaf) fel rhan o seremonïau Graddio Prifysgol Aberystwyth. Mae'r gwobrau'n dathlu sut y gall ymchwil effeithio ar fywydau mewn ffordd gadarnhaol.

Cyflwynwyd y Wobr am Effaith Eithriadol mewn Ymchwil yn y Gwyddorau 2021 i Dr Christina Marley a'i thîm ehangach yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylchedd a Gwledig. Nod yr ymchwil oedd lleihau faint o soia sy’n cael ei fewnforio ar gyfer porthiant da byw, a'i effaith amgylcheddol.

Yn sgil y gwaith hwn bu modd i Waitrose a'i gynhyrchwyr bwyd ddeall a goresgyn y rhwystrau i fabwysiadu protein a dyfir yn y Deyrnas Unedig, gan gyfrannu tuag at 17% o leihad mewn mewnforion soia.

Cyflwynwyd y Wobr am Effaith Eithriadol yn y Gwyddorau Cymdeithasol, y Celfyddydau a’r Dyniaethau 2021 i Dr Sarah Wydall o Adran y Gyfraith a Troseddeg.  Wydall yw Cyfarwyddwr Menter Dewis Choice, a heriodd dybiaethau mai dim ond menywod o dan 45 sy’n dioddef trais domestig ar sail rhywedd.

Darparodd y Fenter wasanaeth cyfiawnder a lles a gynhyrchwyd ar y cyd, gan ddylanwadu ar Ddeddf Cam-drin Domestig y Deyrnas Unedig.

Derbyniodd Dr Rachel Rahman o'r Adran Seicoleg y Wobr am Effaith Eithriadol mewn Ymchwil yn y Gwyddorau 2020 am ddefnyddio telefeddygaeth i wella’r mynediad at wasanaethau iechyd mewn ardaloedd gwledig. Bu ei thîm yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i ddatblygu un o’r gwasanaethau cymorth cyntaf yn y Deyrnas Unedig i gynorthwyo cleifion gofal lliniarol yn eu cartrefi eu hunain. Cyn pandemig COVID-19, nid oedd teleiechyd yn rhan o ddarpariaeth arferol y gwasanaeth.

Cyflwynwyd y Wobr am Effaith Eithriadol yn y Gwyddorau Cymdeithasol, y Celfyddydau a’r Dyniaethau 2020 i Dr Elizabeth New o'r Adran Hanes a Hanes Cymru. Cynorthwyodd i ddatblygu offer fforensig i wneud darganfyddiadau newydd ynglŷn â seliau cwyr o’r canol oesoedd trwy ymchwilio i’r olion bysedd a dwylo a adawyd arnynt.

Ers hynny, mae'r gwaith wedi ehangu cadwraeth a dehongli treftadaeth, gan wella’n dealltwriaeth o’r arfer o ddefnyddio seliau a’r goblygiadau i syniadau o hunaniaeth bersonol.

Meddai’r Athro Colin McInnes, Dirprwy Is-Ganghellor (Ymchwil, Cyfnewid Gwybodaeth ac Arloesi): "Mae Prifysgol Aberystwyth yn fyd-enwog am ansawdd a natur unigryw ein hymchwil, sy'n cael effaith gadarnhaol bob dydd, boed yn lleol, yn genedlaethol neu'n rhyngwladol.

"Mae prifysgolion yn chwarae rhan hanfodol wrth wella ein cymdeithas, yr amgylchedd a'r economi. Mae’r enillwyr heddiw, a gwaith ehangach y Brifysgol, yn adlewyrchu ehangder ac arloesedd ein gwaith academaidd ac yn dangos pa mor ddifrifol yr ydym yn cymryd y cyfrifoldeb hwnnw."