Urddo Gwerfyl Pierce Jones yn Gymrawd er Anrhydedd

Meri Huws, aelod o Gyngor Prifysgol Aberystwyth, gyda Gwerfyl Pierce Jones

Meri Huws, aelod o Gyngor Prifysgol Aberystwyth, gyda Gwerfyl Pierce Jones

14 Gorffennaf 2022

Mae cyn-Gyfarwyddwr a Phrif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru, Gwerfyl Pierce Jones, wedi ei hurddo’n Gymrawd er Anrhydedd gan Brifysgol Aberystwyth fel rhan o seremonïau graddio eleni.

Yn frodor o Ynys Môr, dechreuodd ei gyrfa fel darlithydd yn Adran y Gymraeg, Coleg Prifysgol Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan. 

Wedi hynny bu'n dal swyddi ym myd y celfyddydau gan gynnwys Cyngor Celfyddydau Cymru a’r Academi, a bu'n Gyfarwyddwr a Phrif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru o 1987 tan ei hymddeoliad yn 2009.

Mae wedi gwasanaethu ar sawl bwrdd a phwyllgor, gan gynnwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Bwrdd yr Iaith Gymraeg a'r Cyngor Prydeinig (Pwyllgor Cymru). Bu'n Gadeirydd Theatr Genedlaethol Cymru rhwng 2013 a 2018. Bu'n gwasanaethu fel Dirprwy Ganghellor Prifysgol Aberystwyth o 2012–2019, ac arweiniodd Fwrdd Prosiect Pantycelyn a ddatblygodd y cynlluniau ar gyfer adnewyddu Neuadd Pantycelyn. Bu hefyd yn gadeirydd Bwrdd Prosiect yr Hen Goleg yn ei flynyddoedd cychwynnol.

Mae'n ymwneud â nifer o elusennau ac ymddiriedolaethau, gan gynnwys yr hosbis yn y cartref, HAHAV. 

Y mae hefyd yn Gadeirydd Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen.

Cafodd ei chyflwyno gan Dr Rhodri Llwyd Morgan, Cyfarwyddwr y Gymraeg a Chysylltiadau Allanol y Brifysgol, ddydd Iau 14 Gorffennaf 2022.

Mae’r cyflwyniad llawn ar gael isod.

Cyflwyno Gwerfyl Pierce Jones gan Dr Rhodri Llwyd Morgan

Dirprwy Gadeirydd, Is-Ganghellor, graddedigion, gyfeillion.  Pleser o’r mwyaf yw cyflwyno Gwerfyl Pierce Jones yn gymrawd Prifysgol Aberystwyth.

Deputy Chair, Vice-Chancellor, graduates and supporters.  It is an honour to present Gwerfyl Pierce Jones as a Fellow of Aberystwyth University.

Un o Gaergybi, Ynys Môn, yw Gwerfyl Pierce Jones.

Ac er iddi raddio yn y ‘lle arall’, mae Gwerfyl wedi gwneud cyfraniad sylweddol iawn iawn fel aelod o Gyngor a phrif bwyllgorau Prifysgol Aberystwyth.  Fe wasanaethodd fel Dirprwy Gadeirydd y Cyngor ac fel Dirprwy Ganghellor yn ogystal.  Am sawl blwyddyn bu ar y llwyfan hwn yn cyfarch graddedigion a Chymrodyr a braf yw gweld Gwerfyl yn derbyn yr anhrydedd y tro hwn.

As a former Member and Deputy Chair of Aberystwyth University Council and former Pro Chancellor, Gwerfyl has graced this stage many times, welcoming graduates and Fellows alike.  Today, she is the one receiving much deserved recognition for her accomplishments.

The foregoing will be in Welsh but in summary:  Gwerfyl is an individual who has made an enormous contribution to the University, to the Welsh language and to Welsh culture in many fields and has enriched the public life of Wales.

Dechreuodd ei gyrfa yn darlithio yn adran y Gymraeg, Prifysgol Llambed, cyn mynd i swyddi ym myd y celfyddydau gan weithio i Gyngor Celfyddydau Cymru, yr Academi, ac yna’n Gyfarwyddwr ac yn Brif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru o 1987 tan ei hymddeoliad yn y flwyddyn 2009.  Dan ei harweiniad hi bu’n gyfnod o ddatblygiadau mawr yn hanes y Cyngor Llyfrau a’r diwydiant cyhoeddi llyfrau a chylchgronau yng Nghymru yn y Gymraeg a’r Saesneg. 

Ar adeg ymddeoliad Gwerfyl lluniodd y bardd a’r ysgolhaig, y diweddar Gwyn Thomas, gerdd ac ynddi mae’n ei galw’n ‘santes llên, Un a roes fri ar lyfrau ac a gyflawnodd wyrthiau’.

Yn ogystal ag arwain un o sefydliadau diwylliannol mawr y wlad – ac mewn cyfnod lle peth prin oedd menyw yn y swydd ar y brig – mae Gwerfyl wedi gwneud cyfraniad o bwys ar fyrddau a phwyllgorau, megis Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Bwrdd yr Iaith Gymraeg, a Phwyllgor Cymru y Cyngor Prydeinig.  Rhoddodd wasanaeth hefyd fel Cadeirydd Theatr Genedlaethol Cymru 2013-18.  Mae’n weithgar yn ei bro a’i chapel, ac elusennau megis Hosbis yn y Cartref ac Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen.

Mae ymroddiad Gwerfyl i fuddiannau’r sefydliad hwn, Prifysgol Aberystwyth, wedi bod yn enfawr.  Bu’n aelod o Gyngor y Brifysgol yn y 1990au a dychwelodd yn aelod o’r Cyngor ddeng mlynedd yn ôl a rhoi dau dymor pellach o wasanaeth, a’i chyfraniad ym mhob ffordd yn ennyn parch ac edmygedd. 

Chwaraeodd ran werthfawr dros ben yn cadeirio Bwrdd Prosiect yr Hen Goleg ym mlynyddoedd cynnar y cynllun uchelgeisiol hwn. Annhepgor hefyd oedd cefnogaeth Gwerfyl i achos adnewyddu Neuadd Pantycelyn a’i chadw’n Neuadd Gymraeg ac yn ganolbwynt i fywyd myfyrwyr Cymraeg nawr ac am genedlaethau i ddod.  Gwerfyl, roedd eich pendantrwydd, eich dycnwch a’ch doethineb yn amhrisiadwy.

Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru holwyd Gwerfyl beth oedd ei hoff air.  Beth oedd ateb y santes llên, tybed?  Yn syml iawn, ‘Gwnaf’.  Ac os yw Gwerfyl yn dweud ‘Gwnaf’ mae’n saff i chi, bydd yn gwneud.  Diolch am yr holl ‘wneud’ hwnnw ac am eich cyfraniad eithriadol i’r Coleg hwn ac i ddiwylliant ein cenedl.

Dirprwy Gadeirydd, mae’n bleser gen i gyflwyno Gwerfyl Pierce Jones i chi yn Gymrawd. 

Deputy Chair, it is my absolute pleasure to present Gwerfyl Pierce Jones to you as a Fellow.

Anrhydeddau Prifysgol Aberystwyth 2022

Yn rhan o'r seremonïau graddio bydd y Brifysgol hefyd yn cyflwyno deg Cymrodoriaeth er Anrhydedd i unigolion sydd â chysylltiad ag Aberystwyth neu Gymru, ac sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i'w dewis feysydd.  

Mae'r Cymrodyr eleni yn cynnwys ffigurau blaenllaw o'r celfyddydau, darlledu, y gyfraith, amaethyddiaeth, a'r sectorau gwyddoniaeth a thechnoleg.

Dyma Gymrodyr er Anrhydedd 2022 (yn y drefn y’u cyflwynir):

  • Yr Athro Fonesig Elan Closs Stephens DBE, Comisiynydd Etholiadol Cymru ac yn Gyfarwyddwr Anweithredol ar Fwrdd y BBC, yn ogystal â bod yr aelod dros Gymru ar y Bwrdd hwnnw
  • Myrddin ap Dafydd, awdur, cyhoeddwr ac Archdderwydd Cymru
  • Yr Anrhydeddus Ustus Datuk Vazeer Alam Mydin Meera, Barnwr Llys Apêl, Malaysia
  • Harry Venning, cartwnydd, darlunydd ac awdur comedi arobryn
  • Dr Zoe Laughlin, cyd-sylfaenydd a chyfarwyddwr ‘Institute of Making’
  • Rhuanedd Richards, Cyfarwyddwr Cenedlaethol BBC Cymru
  • Jonathan Whelan, ymgynghorydd TG, awdur a Chymrawd Cymdeithas Gyfrifiaduron Prydain.
  • Tom Jones OBE, amaethwr a chadeirydd Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm y Mileniwm ar adeg ei sefydlu
  • Ei Anrhydedd y Barnwr Nicholas Cooke QC, cyn Uwch Farnwr Cylchdaith yn y Llys Troseddol Canolog, “yr Hen Feili”
  • Gwerfyl Pierce Jones, cyn-Gyfarwyddwr a Phrif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru