Arbenigwyr TB yn briffio’r Prif Weinidog yn y Sioe Fawr

Yr Athro Neil Glasser, Yr Athro Elizabeth Treasure Is-Ganghellor, Y Prif Weinidog Mark Drakeford, Yr Athro Glyn Hewinson, yr Athro Darrell Abernethy a Amanda Jones.

Yr Athro Neil Glasser, Yr Athro Elizabeth Treasure Is-Ganghellor, Y Prif Weinidog Mark Drakeford, Yr Athro Glyn Hewinson, yr Athro Darrell Abernethy a Amanda Jones.

18 Gorffennaf 2022

Mae arbenigwyr Twbercwlosis Buchol wedi briffio Gweinidogion ar faes y Sioe Fawr am y camau nesaf yn yr ymdrechion i reoli’r haint mewn gwartheg (dydd Llun 18 Gorffennaf).

Cyfarfu academyddion Prifysgol Aberystwyth â Phrif Weinidog Cymru, y Gweinidog Materion Gwledig a’r Gweinidog Addysg yn Llanelwedd i drafod sefyllfa ddiweddara’r clefyd.

Daw’r trafodaethau wedi diweddariad Llywodraeth Cymru ar strategaeth dileu TB buchol. Fel rhan o’r polisi diwygiedig, fe benodwyd yr Athro Glyn Hewinson o Brifysgol Aberystwyth yn Gadeirydd y Grŵp Cynghori Technegol newydd ar TB mewn gwartheg gan y Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths AS.

Sefydlwyd Canolfan Ragoriaeth TB Buchol Sêr Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2018, ac mae’n ganolbwynt ar gyfer ymchwil cenedlaethol a rhyngwladol mewn TB Buchol. Y nod yw darparu sylfaen tystiolaeth gref er mwyn cynorthwyo i waredu’r clefyd a datblygu arbenigedd ymchwil academaidd yng Nghymru.

Meddai’r Athro Glyn Hewinson o Brifysgol Aberystwyth:

“Roedd y cyfle i drafod y sefyllfa ddiweddaraf gyda’r Prif Weinidog a’i gydweithwyr Gweinidogol yn help mawr, ac mae’n anrhydedd i mi gael fy mhenodi yn Gadeirydd y Grŵp Cynghori Technegol.

“Wrth reoli clefydau,mae angen defnyddio'r offer cywir yn y lle iawn ar yr amser iawn, ac mae deall epidemioleg leol yn allweddol. Yn ogystal mae angen i’r holl randdeiliaid gydweithio mewn partneriaeth effeithiol er mwyn dileu TB mewn gwartheg yn llwyddiannus, a dyna un o’r rolau allweddol y gallwn ei chwarae fel Canolfan Ragoriaeth.

“Bydd y Ganolfan hon ym Mhrifysgol Aberystwyth yn parhau i ddarparu sylfaen wyddonol gref i Gymru ac yn ymgysylltu â'r holl randdeiliaid wrth i bob un ohonynt ymdrechu i ddod o hyd i ffyrdd newydd a gwell o fynd i'r afael â'r clefyd dinistriol hwn.” 

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths: “Rwy’n diolch i Brifysgol Aberystwyth am gynnal y sesiwn briffio hon yn y Sioe Fawr.

“Mae TB mewn gwartheg yn her enfawr, ac yn drallodus iawn i ffermwyr sy’n gorfod delio ag ef yn eu buchesi.

“Ers i ni sefydlu ein rhaglen ddileu TB rydym wedi gweld gostyngiadau hirdymor yn nifer yr achosion a pha mor gyffredin ydynt.

“Rydym wedi bod yn gwbl glir na allwn fynd i’r afael â’r afiechyd hwn ar ein pen ein hunain ac mae gennym ni i gyd ran bwysig i’w chwarae.”

Yn ddiweddarach yn ystod wythnos y Sioe, fe ddaw ffermwyr, milfeddygon ac ymchwilwyr gwyddonol o’r Brifysgol ynghyd i drafod sefydlu Grŵp Cynghori Technegol dan gadeiryddiaeth yr Athro Hewinson.

Yn ogystal, cynhelir digwyddiad gan Brifysgol Aberystwyth i drafod rôl milfeddygon yn yr ymdrechion i fynd i afael â TB, yn dilyn argymhellion Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Llywodraeth.

Ychwanegodd yr Athro Darrell Abernethy, Pennaeth Ysgol Gwyddor Filfeddygol Aberystwyth:

“Nod yr Ysgol Gwyddor Filfeddygol newydd yn Aberystwyth yw gwasanaethu ac ymateb i anghenion Cymru. Mae hyn wrth wraidd popeth rydyn ni’n ei wneud. Fel rhan o’r genhadaeth sifig honno, mae cyfrifoldeb arnom ni fel Ysgol i ddarparu’r bobl a’r sgiliau a fydd yn cyfrannu at yr ymdrechion i fynd i’r afael â heriau sylweddol mae TB mewn gwartheg yn peri i ni fel cenedl. Rydyn ni’n falch bod y Brifysgol yn arwain yn y maes hwn er lles y sector amaethyddol ac iechyd anifeiliaid.”

Aberystwyth yw'r gyntaf a'r unig brifysgol yng Nghymru i agor Ysgol Gwyddor Filfeddygol a fe’i sefydlwyd ym mis Medi 2021.

Mae Canolfan Ragoriaeth TB Gwartheg Sêr Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cael ei chefnogi gan Sêr Cymru II, sy’n cael ei gyllido’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.