Disgyblion yn disgleirio mewn cynllun peilot ysgol haf

Disgyblion yn cymryd rhan mewn sesiwn gwneud ffilmiau

Disgyblion yn cymryd rhan mewn sesiwn gwneud ffilmiau

23 Gorffennaf 2022

Mae disgyblion Blwyddyn 11 o bob rhan o Gymru wedi bod yn cymryd rhan mewn ysgol haf breswyl ym Mhrifysgol Aberystwyth, fel rhan o raglen Sylfaen Seren.

Mae'r ysgol haf, sydd wedi ei chyllido gan Llywodraeth Cymru, yn rhan o raglen beilot sy'n gweithio gyda phrifysgolion yng Nghymru dros y tair blynedd nesaf.

Mae'n rhan o Gytundeb Cydweithio Llywodraeth Cymru gyda Phlaid Cymru i ehangu'r partneriaethau ysgolion haf presennol a sefydlu cynlluniau peilot newydd mewn sefydliadau yng Nghymru.

Thema'r gweithdy 3 diwrnod yn Aberystwyth yw Llythrennedd Hinsawdd, a sut y gall y celfyddydau a'r dyniaethau gyfrannu at yr agenda hinsawdd. Yn ogystal â chael darlithoedd ar hinsawdd gan ddarlithwyr arbenigol, mae myfyrwyr yn cymryd rhan mewn sesiynau dysgu creadigol ar thema agenda'r hinsawdd, megis gweithdai celf, ioga a sesiynau gwneud ffilmiau.

Mae rhaglen Seren ar gael i ddysgwyr mewn ysgolion gwladol ym mlynyddoedd 8 i 13 ledled Cymru. Mae'r dysgwyr yn cael eu nodi gan eu hysgolion a'u colegau fel y rhai mwyaf disglair, waeth beth fo'u cefndir, ac mae'r rhai sydd wedi'u cofrestru ar gyfer y rhaglen yn cael arweiniad, cymorth a chyfleoedd i feithrin eu hyder a datblygu’r sgiliau sydd eu hangen i wneud cais am y prifysgolion gorau.

Mae Seren mewn dau gam; Sylfaen Seren sydd ar gyfer y rhai ym Mlynyddoedd 8 i 11, ac Academi Seren i'r rhai ym Mlynyddoedd 12 a 13. Gyda'i gilydd, mae rhaglen Seren yn ymroddedig i gefnogi'r dysgwyr mwyaf disglair i ystyried a gwneud cais  i’r prifysgolion gorau a llwyddo yno. 

Dywedodd Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Anwen Jones: “Mae Prifysgol Aberystwyth yn falch iawn o gynnig y gyntaf yn y gyfres arloesol hon o ysgolion haf yng Nghymru a fydd yn sefydlu llwybr ysbrydoledig tuag at y dyfodol i holl ddysgwyr Seren.

“Eleni byddwn yn mynd i'r afael ag un o'r heriau byd-eang mwyaf cythryblus, sef newid hinsawdd. Byddwn yn gwneud hyn mewn ffordd unigryw sy'n ymdrin â’r celfyddydau a'r dyniaethau, y gwyddorau cymdeithasol, a'r gwyddorau, gan roi cyfle i ddysgwyr Seren fynegi eu barn yn y ddadl hon.”

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles: “Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn cefnogi ein holl ddysgwyr, waeth beth fo'u cefndir, ac mae Seren yn rhaglen mor wych sy'n cynnig y profiadau mwyaf disglair i'n myfyrwyr gan gyfoethogi ac yn ysgogi eu dysgu.

"Mae cyfleoedd fel yr ysgol haf hon yn helpu i ehangu gorwelion ein dysgwyr ac yn rhoi profiadau diddorol a heriol iddynt  i'w paratoi ar gyfer dysgu pellach.  Rwy'n awyddus i weld sut y gallwn adeiladu ar y cynllun peilot hwn ac ehangu'r cynnig mewn partneriaeth â mwy o brifysgolion yng Nghymru, a thu hwnt, i gynyddu'r cyfleoedd i'n dysgwyr Seren."

Dywedodd yr Aelod Dynodedig, Sian Gwenllian: “Rydym am sicrhau bod yr hyn a gynigir drwy raglen Seren yn cefnogi dysgwyr o'r cefndiroedd mwyaf difreintiedig i gael cyfleoedd cadarnhaol sy'n eu helpu i symud ymlaen a ffynnu yn y brifysgol. Bydd yr ysgolion haf hyn, fel rhan o'r Cytundeb Cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru, yn cynnig cyfleoedd i brofi ein prifysgolion a pharatoi dysgwyr ar gyfer addysg uwch. Mae'n hollbwysig ein bod yn dysgu o'r cynlluniau peilot hyn ac yn parhau i ehangu cyfleoedd i fwy o ddysgwyr yn y dyfodol, ac hynny ledled Cymru.”