Staff a myfyrwyr y Brifysgol i godi arian i uned ddydd cemotherapi Aberystwyth

Staff yn Uned Ddydd Cemotherapi Bronglais

Staff yn Uned Ddydd Cemotherapi Bronglais

06 Hydref 2022

Pleidleisiodd myfyrwyr a staff i gefnogi’r uned ddydd cemotherapi yn Ysbyty Bronglais trwy ei gwneud yn Elusen y Flwyddyn Prifysgol Aberystwyth am 2022-23. 

Cyhoeddodd Elusennau Iechyd Hywel Dda yn ddiweddar bod Apêl Cemotherapi Bronglais wedi llwyddo i godi’r gweddill o’r £500,000 oedd ei angen i symud ymlaen â’r cynlluniau i adeiladu uned ddydd cemotherapi fodern a phwrpasol yn Ysbyty Gyffredinol Bronglais, am £2.2m.

Dros y flwyddyn i ddod, bydd arian sy’n cael ei godi gan staff a myfyrwyr y Brifysgol yn mynd tuag at wella’r uned newydd a darparu gwasanaethau a gweithgareddau yn yr uned sydd y tu hwnt i’r hyn y mae’r GIG yn gallu eu darparu’n arferol.

Meddai’r Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Rydyn ni’n falch iawn o allu cyfrannu tuag at weledigaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda am uned gemotherapi gwbl newydd ym Mronglais. Bydd hyn o fudd anferth i bobl yng Ngheredigion, Gwynedd a Phowys sy’n cael triniaeth yn erbyn canser. Mae cefnogi’r adnodd lleol hwn yn fater sy’n agos at galon nifer o’n staff a’n myfyrwyr, ac edrychwn ymlaen i ddangos ein cefnogaeth trwy godi arian ar y campws dros y flwyddyn i ddod.”

Meddai Bettina Vance, Nyrs Glinigol Arbenigol Cemotherapi: “Rydym wrth ein bodd bod myfyrwyr a staff yn Aberystwyth wedi dewis yr uned ddydd cemotherapi yn Ysbyty Bronglais yn Elusen y Flwyddyn. Mae’r uned hon yn rhoi triniaethau canser i gleifion ledled canolbarth Cymru. Bydd y cyfraniadau’n cynorthwyo’r adran i ddarparu gwasanaethau a gweithgareddau sydd y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG eu cynnal, ac fe gaiff effaith mawr ar brofiad cleifion, teuluoedd a staff. Ar ran yr uned, hoffwn ddiolch o waelod calon am eich cefnogaeth.”

Bellach ar ei degfed flwyddyn, nod Elusen y Flwyddyn y Brifysgol yw codi cymaint o arian â phosibl i achos teilwng, a rhoi canolbwynt i ymdrechion codi arian staff, myfyrwyr a’r gymuned.