Academydd o Aberystwyth yn bwrw goleuni ar ofnau’r nos yn ei chyfrol gyntaf "ryfeddol"

Dr Alice Vernon

Dr Alice Vernon

06 Hydref 2022

Mae llyfr newydd rhyfeddol gan academydd o Aberystwyth yn edrych ar ein credoau difyr, rhyfedd weithiau, am anhwylderau cysgu.

Mae ‘Night Terrors: Troubled Sleep and the Stories We Tell About It’ yn waith gan Dr Alice Vernon, Darlithydd Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Er mai heddiw y cyhoeddir y llyfr, mae eisoes wedi cael adolygiadau canmoliaethus. Yn ôl ySunday Times mae’n gyfrol "hynod, fywiog, ddiymhongar, cwbl ddiffuant" ac yn "gyfrol gyntaf ryfeddol".

Mae’r naratif ffeithiol hwn yn deillio o brofiadau nosol hynod, ac weithiau brawychus, Dr Vernon ei hun, hanesion personol gan eraill, a’r modd y portreadir anhwylderau cysgu mewn llenyddiaeth a diwylliant.

Mae ei hymchwil yn cwmpasu anhwylderau cysgu megis ofnau’r nos, cerdded yn eich cwsg, parlys cwsg, breuddwydion eglur a rhithweledigaethau sy'n gysylltiedig â chwsg – y cwbl yn enghreifftiau o ffenomena a elwir yn barasomnïau. 

Mae parasomnïau yn syndod o gyffredin ac mae cymaint â 70% o bobl yn eu profi ar ryw adeg yn eu bywydau.

Dywedodd Dr Vernon:  "Dros y canrifoedd, mae parasomnïau wedi cael effaith ddwys ar y dychymyg dynol, gan lunio celf a llenyddiaeth fel ei gilydd. Mae nofelau enwog megis 'Dracula', 'Jane Eyre' a nofelau dirgelwch y Brawd Cadfael i gyd yn cyfeirio at barasomnïau, ac felly hefyd ‘Macbeth' gan Shakespeare.

"Aeth fy ymchwil â mi i fyd dehongliadau goruwchnaturiol a pharanormal, ofergoeledd a swyngyfaredd, hanesion am bobl yn cael eu cipio gan greaduriaid o’r gofod ac anhwylder sioc ôl-drawmatig ac, yn fwyaf dychrynllyd efallai, hyd yn oed llofruddiaethau a gyflawnwyd gan bobl yn eu cwsg."

Mae parasomnïau hefyd wedi bod yn destun ymchwiliadau gwyddonol helaeth ac mae llu o ddamcaniaethau a thriniaethau meddygol wedi cael eu hargymell dros y canrifoedd.

Ychwanegodd Dr Vernon: "Un o'r damcaniaethau mwyaf syfrdanol i mi ei darganfod yn ystod fy ymchwil oedd honiad rhyfedd un meddyg fod ofnau’r nos yn cael eu hachosi gan berson yn meddwl am rifyddeg wrth gwympo i gysgu. Mae hanesion hanesyddol hefyd yn datgelu ambell ffordd arbennig o ryfedd o wella’r anhwylderau hyn, megis 'mare-stanes' hudol – sef cerrig crwn erydog, weithiau â dannedd dynol wedi’u mewnblannu ynddynt, y credwyd eu bod yn atal parlys cwsg."

Mae'r llyfr yn annog pob un ohonom i newid y ffordd yr ydym yn siarad am gwsg, gan ddadlau bod cyfnewid straeon ynglŷn â chwsg yn cynnig llu o fanteision - yn gymdeithasol, yn ddiwylliannol ac o ran ein lles. 

Dywedodd Dr Vernon: "Trwy ddod o hyd i enghreifftiau ac astudiaethau achos hanesyddol, yn ogystal â bod yn hollol onest ynglŷn â fy anawsterau cysgu fy hun, rwy'n gobeithio annog sgyrsiau am barasomnïau —ac i ni gyd sylweddoli nad yw ein profiadau rhyfedd yn ymwneud â chwsg mor rhyfedd wedi'r cyfan."

Mae Dr Alice Vernon yn gweithio yn yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth, lle mae'n dysgu hanfodion llunio straeon ac yn ymchwilio i’r modd y portreadir cwsg ym meysydd gwyddoniaeth a diwylliant.

Cyhoeddir ‘Night Terrors: Troubled Sleep and the Stories We Tell About It' ar 6 Hydref 2022 gan Icon Books.

Dr Alice Vernon

Cwblhaodd Dr Alice Vernon ei Doethuriaeth yn ymchwilio i’r modd y portreadir insomnia mewn ffuglen, yn yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth dan oruchwyliaeth Dr Jacqueline Yallop.  Erbyn hyn mae hi'n Ddarlithydd Llenyddiaeth y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg, ac Ysgrifennu Creadigol yn yr adran, yn dysgu myfyrwyr ynglŷn â hanfodion llunio straeon. Mae ei hymchwil yn ymdrin yn bennaf â hanes meddygaeth, gan ganolbwyntio’n benodol ar anatomeg yng nghyfnod y Dadeni a pharaseicoleg yn Oes Fictoria. Mae ganddi ddiddordeb arbennig yn y modd y portreadir anhwylderau cysgu megis parlys cwsg, breuddwydion eglur, a rhithweledigaethau hypnopompig mewn diwylliant a gwyddoniaeth.