Penodi Cyn-Brif Swyddog Milfeddygol yn Athro er Anrhydedd yn Aberystwyth

Yr Athro Christianne Glossop

Yr Athro Christianne Glossop

24 Hydref 2022

Mae Cyn-Brif Swyddog Milfeddygol Cymru, Christianne Glossop, wedi’i phenodi yn Athro er Anrhydedd yn Ysgol Filfeddygol Prifysgol Aberystwyth.

Eisoes yn Gymrawd yn y Brifysgol, bu’r Athro Glossop yn Brif Swyddog Milfeddygol cyntaf Cymru pan benodwyd yn 2005 gan roi gorau i’r swydd ym mis Hydref eleni. Fel y Prif Filfeddyg hi oedd yn gyfrifol am ddiogelu a hyrwyddo lles ac iechyd anifeiliaid yng Nghymru.

Cafodd y gefnogaeth a roddodd i’r sector da byw gydnabyddiaeth arbennig.  Ei gweledigaeth yw “gweld gwaredu'r Diciâu o Gymru unwaith ac am byth” ac mae wedi bod yn gadarn wrth yrru’r strategaeth i waredu’r haint mewn gwartheg yn ei blaen. Am hyn dyfarnwyd iddi Wobr y Dywysoges Frenhinol gan Gymdeithas Frenhinol Ffermwyr Llaeth Prydain yn 2009, ac yn yr un flwyddyn roedd yn gyd-enillwyr gwobr Farming Champion y Farmers Weekly gydag Elin Jones, y cyn Weinidog Materion Gwledig.  

Wrth ymateb i’w phenodiad fel Athro er Anrhydedd ym Mhrifysgol Aberystwyth, dywedodd yr Athro Glossop:

“Rwy wrth fy modd gyda’r penodiad anrhydeddus hwn. Mae ein Hysgol Gwyddor Filfeddygol wedi bod yn hir ddisgwyliedig ac yn hollbwysig i amaethyddiaeth Cymru. Mae’n gosod y Brifysgol wrth galon rhagoriaeth filfeddygol ac addysg yng Nghymru, gan gefnogi ein huchelgais o gymuned wledig ffyniannus, anifeiliaid iach a phobl iach. Mae’n mynd law yn llaw â’n graddau biowyddoniaeth filfeddygol, rhaglen TB Sêr Cymru a VetHub1, gan osod Cymru ar y map ar gyfer iechyd a lles anifeiliaid. Bydda i’n achub ar bob cyfle i gefnogi a hyrwyddo’r gwaith cyffrous a blaengar hwn ac rwy’n falch o allu gwneud hynny”.

Sefydlwyd Ysgol Gwyddor Filfeddygol Prifysgol Aberystwyth, yr unig un yng Nghymru, y llynedd. Mae’r myfyrwyr yn treulio eu dwy flynedd gyntaf yn nhref y Canolbarth a thair blynedd yn y Coleg Milfeddygol Brenhinol.

Ychwanegodd Yr Athro Darrell Abernethy, Pennaeth yr Ysgol Gwyddor Filfeddygol ym Mhrifysgol Aberystwyth:

“Mae’n gyffrous bod yr Athro Glossop yn ymuno â’r tîm yma yn yr unig Ysgol Filfeddygol yng Nghymru. Bydd ei sgiliau yn werthfawr iawn wrth addysgu’r genhedlaeth nesaf. Wedi’r cwbl, mae amaeth a’i diwydiannau perthynol yn chwarae rhan bwysig yn economi Cymru ac mae cyfrifoldeb arnom ni fel prifysgolion i ddarparu’r bobl a’r sgiliau a fydd yn cyfrannu at sicrhau eu bod yn llwyddo am flynyddoedd i ddod.

“Mae ein myfyrwyr yn mwynhau’r gorau o ddau fyd mewn prifysgolion sydd yn cynnig rhagoriaeth academaidd ac enw da am brofiad myfyrwyr. Mae’r Ysgol yma ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi ychwanegu darn hollbwysig i’r jig-so, un a fydd yn adeiladu gwytnwch yn yr economi wledig drwy addysg ac ymchwil mewn cyfnod o newid a heriau mawr posibl.”