Partneriaeth newydd gyda Siapan yn rhoi hwb i ymchwil newid hinsawdd ym Mhrifysgol Aberystwyth

Academyddion o Brifysgol Ritsumeikan yn Siapan yn llofnodi'r memorandwm o ddealltwriaeth gydag Is-Ganghellor ac academyddion Prifysgol Aberystwyth

Academyddion o Brifysgol Ritsumeikan yn Siapan yn llofnodi'r memorandwm o ddealltwriaeth gydag Is-Ganghellor ac academyddion Prifysgol Aberystwyth

08 Tachwedd 2022

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi llofnodi partneriaeth newydd gyda phrifysgol o Siapan gan roi hwb i’w hymchwil newid hinsawdd.

Mae’r memorandwm o ddealltwriaeth newydd gyda Phrifysgol Ritsumeikan yn cynnwys cyfnewid ymchwilwyr a buddsoddi ar y cyd mewn offer.

Fel rhan o’r bartneriaeth, mae’r ddwy brifysgol yn cydweithio ar brosiectau mawr ar newid hinsawdd ym Mecsico a Siapan.

Yn ne Mecsico, bydd tîm o’r ddau sefydliad yn ymchwilio i gofnodion o newid hinsawdd hanesyddol yn y rhanbarth a’i rôl yng nghwymp gwareiddiad Mayaidd Clasurol. 

Dywedodd yr Athro Sarah Davies, Pennaeth Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear ym Mhrifysgol Aberystwyth:

“Mae’n bleser cadarnhau ein hymrwymiadau gyda’r memorandwm newydd hwn sy’n adeiladu ar y berthynas ymchwil hir sefydlog rhwng ein dau sefydliad. Bydd y prosiectau hyn yn gwneud cyfraniad pwysig at ein dealltwriaeth o newid hinsawdd, a'i rôl yn natblygiad gwareiddiad dynol.

“Ynghyd â’n partneriaid yn Siapan a chefnogaeth Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, rydym wedi gwneud buddsoddiad sylweddol yn ein sganiwr craidd Fflwroleuedd Peldr-X. Mae hwn yn adnodd pwysig ar lefel y Deyrnas Gyfunol, ac yn rhyngwladol. Mae’r buddsoddiadau hyn ar y cyd mewn offer yn hwb pwysig i’n gwaith ymchwil yn y dyfodol.”

Dywedodd yr Athro Takeshi Nakagawa o Brifysgol Ritsumeikan:

“Rydym ni’n falch iawn o feithrin cysylltiadau agosach fyth gyda’n partneriaid ym Mhrifysgol Aberystwyth wrth i ni gynnal ymchwil arloesol gyda’n gilydd. Mae gweithio'n rhyngwladol yn golygu y gallwn ni gyflawni mwy yn wyddonol. Mae’r ymchwil ar y cyd ar newid hinsawdd yn gyfle cyffrous iawn i ddarganfod rhai o gyfrinachau dynolryw a deall ein byd yn well.”

Fel rhan o’r bartneriaeth newydd, mae’r Athro Takeshi Nakagawa a Dr Ikuko Kitaba o Brifysgol Ritsumeikan yn ymweld ag Aberystwyth tan 14 Tachwedd.