Penodi Athro Economeg Iechyd Gwledig yn adeiladu ar ddarpariaeth gofal iechyd y Brifysgol

Yr Athro mewn Economeg Iechyd Gwledig Murray Smith, Prifysgol Aberystwyth

Yr Athro mewn Economeg Iechyd Gwledig Murray Smith, Prifysgol Aberystwyth

02 Rhagfyr 2022

Mae ysgolhaig fu’n chwarae rhan allweddol yn y broses o benderfynu ar ba feddyginiaethau ddylai GIG Cymru a GIG Lloegr eu mabwysiadu, wedi’i benodi yn Athro mewn Economeg Iechyd Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae’r Athro Murray Smith, sy’n arbenigo ar ddefnyddio economeg ac ystadegau i ragfynegi canlyniadau mewn ymddygiadau iechyd ac ymddygiadau sy’n gysylltiedig ag iechyd, yn ymuno ag Ysgol Fusnes Aberystwyth.

Mae ei ymchwil diweddar wedi canolbwyntio ar ansawdd y defnydd o feddyginiaeth fferyllol, gydag un prosiect yn archwilio’r defnydd o boenladdwr sy’n cael eu hanadlu ar gyfer trin poen trawma acíwt cyn bod claf yn mynd i’r ysbyty, a phrosiectau eraill yn ymdrin â’r defnydd o feddyginiaeth ar draws nifer o feysydd clefyd cronig.

Wedi iddo ddechrau ar ei yrfa yn Awstralia, symudodd yr Athro Smith i’r Deyrnas Gyfunol yn 2007 a bu’n gweithio ym mhrifysgolion Aberdeen, Nottingham a Lincoln.

Dywedodd yr Athro Smith: “Rwyf wrth fy modd yn ymuno ag Ysgol Fusnes Aberystwyth. Mae economeg iechyd yn bwnc hynod bwysig am ei fod yn darparu dulliau ac offer i helpu'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn y dewisiadau y maent yn eu hwynebu wrth geisio darparu gofal iechyd o ansawdd uchel mewn economi fodern sy'n brin o adnoddau.

“I mi mae hwn yn gyfle cyffrous i ychwanegu at bortffolio arbenigedd Ysgol Fusnes Aberystwyth o ran ymchwil cyfredol ac at gael y cyfle i barhau i ddefnyddio fy sgiliau i helpu’r GIG i nodi a darparu gofal iechyd a gwasanaethau cost-effeithiol i bobl canolbarth Cymru.”

Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Mae’n hanfodol ein bod fel cymdeithas yn parhau i arloesi yn ein hagweddau at ofal iechyd ac mae Prifysgol Aberystwyth wedi ymateb i’r her drwy lansio’n graddau nyrsio cyntaf erioed ym mis Medi 2022 a thrwy ymchwil ryngddisgyblaethol i frwydro yn erbyn clefydau, defnyddio deallusrwydd artiffisial i wella iechyd cleifion, ac archwilio technegau newydd i wella iechyd pobl drwy ddiet.

“Mae penodiad yr Athro Smith yn dangos ein hymrwymiad parhaus i ddatblygu a darparu addysg ac ymchwil gofal iechyd o ansawdd uchel yn Aberystwyth. Bydd ei arbenigedd yn canolbwyntio ar agweddau economaidd gofal iechyd, a bydd ei addysgu a’i ymchwil o fudd i’n myfyrwyr a thu hwnt.”

Mae penodiad yr Athro Smith yn cyd-daro â dyfarnu Cadair er Anrhydedd i dri aelod o fwrdd gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, gan gryfhau ymhellach arbenigedd Prifysgol Aberystwyth mewn gofal iechyd yn ogystal ag adeiladu ar y bartneriaeth â’r bwrdd iechyd lleol.

Mae gan Dr Helen Munro, Ymgynghorydd Gofal Iechyd Rhywiol ac Atgenhedlol Cymunedol y Bwrdd Iechyd; Dr Leighton Phillips, Cyfarwyddwr Ymchwil, Arloesi a Phartneriaethau Prifysgol y Bwrdd, a Huw Thomas, Cyfarwyddwr Cyllid Hywel Dda at ei gilydd â degawdau o arbenigedd yn y sector iechyd yn y Deyrnas Unedig.

Ychwanegodd Steve Moore, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Ar ran y Bwrdd hoffwn i longyfarch Helen, Leighton a Huw ar eu penodiad yn Athrawon Er Anrhydedd ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae ein partneriaeth gyda Phrifysgol Aberystwyth yn parhau i fynd o nerth i nerth ac edrychwn ni ymlaen at barhau â’n gwaith hanfodol gyda’n gilydd yn y dyfodol.”

Ychwanegodd yr Athro Elizabeth Treasure: “Mae’n bleser mawr gennyf groesawu ein Hathrawon er Anrhydedd newydd, a fydd gyda’i gilydd yn dod â degawdau o brofiad i’n hymchwil a’n haddysgu. Bydd eu harbenigedd yn cyfrannu ymhellach at y rôl sydd gennym fel Prifysgol i helpu i wella darpariaeth gofal iechyd i bawb.”