Cyfle i ffermwyr ddefnyddio planhigyn cynhenid i droi gwastraff yn borthiant

Mae gwyddonwyr yn Adran y Gwyddorau Bywyd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn edrych ar sut gellid defnyddio gwastraff fferm i dyfu lliniad y dŵr fel ffynhonnell protein ar gyfer bwydo da byw.

Mae gwyddonwyr yn Adran y Gwyddorau Bywyd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn edrych ar sut gellid defnyddio gwastraff fferm i dyfu lliniad y dŵr fel ffynhonnell protein ar gyfer bwydo da byw.

30 Rhagfyr 2022

Gallai ffermwyr ddefnyddio planhigyn cynhenid i Gymru i droi gwastraff amaeth yn borthiant ar gyfer da byw fel rhan o brosiect ymchwil Prifysgol Aberystwyth.

Mae’r astudiaeth yn ymchwilio sut y gellir defnyddio slyri a’r dŵr gwastraff a ddaw o'r diwydiannau llaeth a chig eidion i dyfu lliniad y dŵr.

Caiff lliniad y dŵr ddisgrifio fel ‘planhigyn gwyrthiol’ gan ei fod yn tyfu'n gyflym ac yn glanhau gwastraff dŵr. Gall hefyd fod yn  ffynhonnell protein gwerthfawr ar gyfer bwydo da byw.

Gall y diwydiant cig eidion a llaeth elwa o’r gwaith gan wyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth a Choleg Prifysgol Cork yn Iwerddon drwy leihau dibyniaeth ffermwyr ar fewnforio porthiant sy’n uchel mewn protein fel soia.

Gydag un fuwch yn cynhyrchu hyd at 60kg o wastraff y dydd, mae storio biswail yn gost sylweddol i ffermwyr. Gallai nodweddion glanhau dŵr y planhigyn arwain at welliant yn ansawdd y dŵr mewn afonydd ac ardaloedd arfordirol yn ogystal.

Dywedodd Dr Dylan Gwynn-Jones, sy'n arwain y prosiect yn Adran y Gwyddorau Bywyd ym Mhrifysgol Aberystwyth:

"Rydyn ni’n awyddus iawn i ffermwyr a’r sector amaethyddol yn ehangach ymwneud â’r prosiect yma. Gyda chynnydd disgwyliedig mewn cynhyrchiant bwyd byd-eang, mae gwir angen i amaethyddiaeth fod yn garbon-gyfeillgar, tra’n gwarchod ansawdd dŵr a bioamrywiaeth. 

“Drwy helpu’r diwydiant amaeth i ddatblygu technoleg i gynhyrchu bwyd anifeiliaid o wastraff, i bob pwrpas, mae’r ymchwil yn galluogi ffermwyr i 'hel arian o faw'.

"Gall lliniad y dŵr cynhenid wneud slyri yn adnodd gwerthfawr. Mae’n un o’r planhigion sy'n tyfu gyflymaf, mae’n gallu goddef amoniwm, sydd i'w gael mewn slyri, ac mae’n cynhyrchu asidau amino gwerthfawr hanfodol sy'n ei wneud yn borthiant addawol i anifeiliaid."

Mae’r prosiect yn defnyddio gwybodaeth y timau am hydroponeg a rheoli gwastraff i ddatblygu systemau tyfu planhigion yn defnyddio maetholion a ddaw o wastraff anifeiliaid.

Mae’r prosiect ymchwil gwerth €1.46 miliwn, yn dwyn y teitl 'Brainwaves' (Cytgord Rhanbarthol Dwyochrog rhwng Iwerddon a Chymru), ac mae’n cael ei ariannu’n rhannol gyda €1.16 miliwn o’r Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Raglen Cydweithio Cymru Iwerddon. Mae'n adeiladu ar gydweithio llwyddiannus blaenorol rhwng prifysgolion Aberystwyth a Cork.

Caiff ffermwyr a’r diwydiant amaethyddol yn ehangach ddod o hyd i ragor o wybodaeth a gwneud cais i fod yn rhan o’r prosiect drwy fynd i www.ucc.ie/cy/brainwaves.