Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn penodi Cyfarwyddwr newydd

David Wilson

David Wilson

20 Chwefror 2023

Mae David Wilson, gweithiwr proffesiynol blaenllaw ym maes y celfyddydau, wedi’i benodi’n Gyfarwyddwr newydd Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Ar hyn o bryd mae David yn Gyfarwyddwr Theatr Brycheiniog yn Aberhonddu, swydd y mae wedi’i bod ynddi ers 2019.

Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth:

“Mae David Wilson yn weithiwr proffesiynol profiadol yn y celfyddydau, gyda gyrfa gyfoethog ac amrywiol, ac rwy’n falch iawn y bydd yn dod â’r holl arbenigedd hwnnw i rôl Cyfarwyddwr Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth.

“Mae Canolfan y Celfyddydau yn ganolbwynt i’r gymuned leol yma yn Aberystwyth, a hefyd yn ganolog i fywyd artistig canolbarth a gorllewin Cymru. Bydd dealltwriaeth sylweddol David o sector y celfyddydau a’i ymrwymiad i gefnogi artistiaid ac archwilio artistig yn fuddiol iawn wrth i’r Ganolfan ehangu ymhellach ei henw rhagorol am ddiddanu cynulleidfaoedd a rhoi llwyfan i lawer o berfformwyr ac artistiaid amrywiol o Gymru a thu hwnt.”

Dywedodd David Wilson, cyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth:

“Rwyf wrth fy modd fy mod yn dychwelyd i Aberystwyth yn Gyfarwyddwr Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth. Fe wnes i fwynhau fy nghyfnod fel myfyriwr yn y dref yn fawr, ac roeddwn yn ymhyfrydu yn y bywyd a'r profiad o fyw mewn rhan mor anhygoel o Gymru sydd â chymaint i'w gynnig. Mae’n hyfryd cael dod yn ôl. 

“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ymuno â'r tîm a chyfrannu at lwyddiant parhaus y Brifysgol a Chanolfan y Celfyddydau. Rwyf wedi edmygu rhaglen ac effaith y Ganolfan ers tro, gyda'r fath ehangder o ffurfiau celf ac amrywiaeth o raddfeydd a gofodau, rwy'n edrych ymlaen at gyfarfod cynulleidfaoedd a chyflwyno mwy i fyfyrwyr, staff a Cheredigion.”

Bydd David, sy’n ddysgwr Cymraeg brwd, yn dechrau yn ei swydd fel Cyfarwyddwr Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth ar 30 Mehefin 2023.

David Wilson – hanes gyrfa
Yn actor proffesiynol yn wreiddiol, graddiodd David gyda gradd mewn Drama o Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth, cyn cwblhau diploma ôl-raddedig mewn Rheolaeth Celfyddydau o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Yn 2000, cyd-sefydlodd Actors Workshop, sy'n parhau i ddarparu hyfforddiant drama ac actio dros 20 mlynedd yn ddiweddarach.

O 2002-07, bu’n gweithio’n agos gyda Chynhyrchydd y West End, Joanne Benjamin, yn ei rôl fel Prif Weithredwr Gŵyl Ryngwladol Theatr Gerdd Caerdydd.

Yn 2008 daeth yn Ddirprwy Gyfarwyddwr yn Diversions, lle bu’n gyfrifol am yr adrannau cyllid a gweinyddu, marchnata, cyfranogiad a phrosiectau. Ef fu’n cydlynu’r gwaith o ailenwi ac ailfrandio i Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru a'r cais cynllun busnes llwyddiannus ar gyfer yr Adolygiad Buddsoddi.

Yn 2012, ynghyd â’r actor Dan Porter, cyd-sefydlodd Porter’s yng Nghaerdydd, gofod cymdeithasol â ffocws artistig sydd erbyn heddiw yn far arddull theatr sydd wedi ennill sawl gwobr. Yn 2015 ychwanegwyd at arlwy adloniant unigryw Porter’s drwy sefydlu Theatr Dafarn barhaol cyntaf Cymru, ‘The Other Room’, a bu David yn Gynhyrchydd Gweithredol ohoni tan 2018.

Ers Ionawr 2019 mae wedi bod wrth y llyw yn Theatr Brycheiniog.

Mae David yn Gymrawd Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau, yn Gymrawd Arweinyddiaeth Clore, ac yn Ymddiriedolwr ar gyfer Creu Cymru, asiantaeth celfyddydau perfformio Cymru.

Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth
Gyda phum degawd o ragoriaeth mewn arddangos yr holl brif ffurfiau celf ac wedi’i chydnabod fel cartref ar gyfer datblygu, mae Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth wedi cadarnhau ei safle fel 'canolfan flaenllaw' ledled y DU ac yn rhyngwladol.

Fel rhan annatod o Brifysgol Aberystwyth, mae Canolfan y Celfyddydau wedi meithrin enw da am ragoriaeth greadigol, gan ddarparu cyfleoedd unigryw a gwerth chweil i bobl Aberystwyth, Canolbarth Cymru a thu hwnt.  Mae'r Ganolfan yn arweinydd hanfodol ac egnïol wrth hyrwyddo bywyd artistig a hunaniaeth ddiwylliannol Gymreig yn y Gymraeg a'r Saesneg, gyda lefel uchel unigryw o ymgysylltiad a chyfranogiad cymunedol.

Wedi'i lleoli yng nghanol campws Penglais y Brifysgol, gyda golygfeydd godidog ar draws Bae Ceredigion, mae Canolfan y Celfyddydau yn chwarae rhan allweddol o ran cydweithredu trawsadrannol ac mae'n cysylltu'r nifer fawr o gymunedau y mae'n eu gwasanaethu o fyfyrwyr, academyddion, cynulleidfaoedd, cyfranogwyr ac ymarferwyr creadigol i ddod ynghyd, i ymgysylltu ac i fwynhau profiadau celf eclectig o safon uchel.