Arbenigwyr yn trafod Iechyd Cyfunol ym Mhrifysgol Aberystwyth

Yr Athro Nigel Holt, Pennaeth Adran Seicoleg Prifysgol Aberystwyth (chwith) a’r Aelod Seneddol dros Geredigion, Ben Lake AS, yn ystod y gynhadledd undydd ar Iechyd Cyfunol a gynhaliwyd ddydd Gwener 17 Chwefror 2023. Llun gan Matt Wilby.

Yr Athro Nigel Holt, Pennaeth Adran Seicoleg Prifysgol Aberystwyth (chwith) a’r Aelod Seneddol dros Geredigion, Ben Lake AS, yn ystod y gynhadledd undydd ar Iechyd Cyfunol a gynhaliwyd ddydd Gwener 17 Chwefror 2023. Llun gan Matt Wilby.

20 Chwefror 2023

Wrth i’r byd fynd i’r afael â chanlyniadau pandemig Covid-19 a phryderon ynghylch yr achosion presennol o Ffliw Adar a’r modd y mae wedi heintio mamaliaid, bu academyddion ac arbenigwyr blaenllaw o bob rhan o Gymru ym Mhrifysgol Aberystwyth ddydd Gwener 17 Chwefror 2023 i drafod eu syniadau ar Iechyd Cyfunol yng Nghymru.

Mae Iechyd Cyfunol yn ddull cydweithredol, amlddisgyblaethol o weithio, sy’n dwyn ynghyd bartneriaid o feysydd iechyd pobl, anifeiliaid a’r amgylchedd i weithio ar heriau cyffredin.

Mae iechyd pobl yn perthyn yn agos i'r amgylchedd ac anifeiliaid a gall effaith firws fel Covid-19, neu Ffliw Adar fod yn enfawr, gan effeithio ar lawer o bethau, yn cynnwys yr hyn y mae pobl yn ei fwyta a sut maent yn teithio.

Daeth y digwyddiad, a drefnwyd gan yr Athro Nigel Holt, yr Athro Charles Musselwhite a Dr Simon Payne o Adran Seicoleg Prifysgol Aberystwyth, ag arweinwyr ac ymarferwyr dylanwadol ynghyd i rannu gwybodaeth a dysgu oddi wrth ei gilydd.

Dywedodd yr Athro Nigel Holt, Pennaeth yr Adran Seicoleg: “Mae Iechyd Cyfun yn syniad gafodd ei gyflwyno rai blynyddoedd yn ôl ac sy’n parhau i ddatblygu a chyflym. Dyma’r cyntaf o ddau gyfarfod lle rydym yn gobeithio deall yn well sut yr ydym ni gyd yn gweithio o fewn y fframwaith.”

Ychwanegodd yr Athro Charles Musselwhite o'r Adran Seicoleg: “Mae’n ymwneud â chymuned, a sut rydym ni fel cymdeithas yn gwerthfawrogi agweddau’n gilydd at iechyd ac at ein gilydd. Yn y sesiwn ddydd Gwener fe ddysgom fod hyn yn cynnwys nid yn unig pethau fel teithio llesol a gwerthfawrogi ein cymuned hŷn, ond hefyd pwysigrwydd yr amgylchedd yr ydym yn ei rhannu, a sut rydyn ni’n rhannu hynny ag anifeiliaid – o ran hamdden ond hefyd o ran iechyd bwyd a’r amgylchedd.”

Bu’r sgyrsiau’n trafod safbwyntiau ar y sefyllfa bresennol o ran iechyd yng Nghymru a sut y gall ymchwilwyr, ymarferwyr a defnyddwyr gydweithio i ddatblygu hyn yn well ar gyfer y dyfodol.

Ymhlith y cynadleddwyr roedd cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac ymchwilwyr ac eraill y mae eu gwaith yn ymwneud ag iechyd anifeiliaid, lles ac amrywiol agweddau ar iechyd pobl a’r amgylchedd. Roedd hefyd yn cynnwys unigolion sy’n gweithio ym maes datblygu a newid polisi.

Dywedodd Aelod Seneddol Ceredigion, Ben Lake AS, a fynychodd y sesiwn: “Mae mor amlwg bod cyd-gysylltu syniadau yn hanfodol, yn enwedig ar hyn o bryd. Mae gennym ni i gyd rôl i’w chwarae, ac mae hynny’n cynnwys gwleidyddion fel fi.”

Bu’r diwrnod yn sail ar gyfer ail ddigwyddiad i’w gynnal yng Nghaerdydd ym mis Mawrth.

“Rydym wedi gwrando’n ofalus ac wedi recordio llawer iawn o wybodaeth yn ystod hon, y gyntaf o ddwy sesiwn” meddai Dr Simon Payne, arbenigwr ar Newid Ymddygiad a chynullydd y radd Meistr mewn Newid Ymddygiad ym Mhrifysgol Aberystwyth. “Nawr byddwn yn treulio amser yn chwilio am themâu a nodweddion cyffredin, ac yn datblygu syniadau ar sut y gallem edrych i’r dyfodol i ysgogi a sicrhau newid yng Nghymru yn y maes hynod bwysig hwn o’n bywydau.”