Adnoddau newydd i ddysgu am ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru

31 Mawrth 2023

Diolch i waith gan Brifysgol Aberystwyth, mae gan athrawon Cymru gyfres o adnoddau dwyieithog newydd i’w defnyddio wrth ddysgu am ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

Datblygwyd y gyfres gan academyddion o'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol gydag arian gan Lywodraeth Cymru, ac mae’r adnoddau addysgol newydd 'Deall noddfa, ffoaduriaid, gwrthdaro, a rhyfel Rwsia yn Wcráin' yn addas i ddisgyblion ysgolion cynradd ac uwchradd a staff addysgu. 

Canolbwyntia’r adnoddau ar faterion allweddol megis noddfa yng Nghymru, rhyfel a gwrthdaro, a ffoaduriaid a cheiswyr lloches, a’r nod yw rhoi'r deunydd i addysgwyr er mwyn gallu trafod materion sensitif a chyfoes ag amrywiaeth o grwpiau oedran.

Am eu bod yn cyfateb i feysydd dysgu a phrofiad yng nghwricwlwm Cymru, gellir defnyddio'r gweithgareddau dysgu sy'n cyd-fynd â nodiadau'r athrawon i ysgogi trafodaeth a chodi ymwybyddiaeth am faterion megis gwrthdaro, heddwch, ymfudo, a ffiniau ymhlith disgyblion i'w cynorthwyo i ddod yn ddinasyddion moesegol, gwybodus yng Nghymru a'r byd.

Dywedodd Dr Catrin Wyn Edwards, darlithydd Gwleidyddiaeth Rhyngwladol ac arbenigwr ar fewnfudo ac aml-ddiwylliannaeth, sydd wedi arwain datblygiad yr adnoddau newydd:

"Mae'r gyfres o adnoddau yn ymateb i anghenion a fynegwyd gan addysgwyr a llunwyr polisi am fwy o adnoddau addysgol dwyieithog ar ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru, er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r heriau sy’n wynebu mudwyr, herio mythau am ffoaduriaid a cheiswyr lloches, ac annog trafodaeth ar ddinasyddiaeth fyd-eang."

"Bydd yr adnoddau, sydd ar gael am ddim ar Hwb, yn cynorthwyo athrawon i esbonio digwyddiadau'r byd i ddisgyblion mewn dull sy'n addas i'w hoedran.  Trwy dargedu newyddion ffug a chamwybodaeth, ac egluro pwysigrwydd defnyddio'r derminoleg gywir, bydd yr adnoddau yn y pen draw yn cynorthwyo cymunedau ysgol i feithrin croeso cynnes i ffoaduriaid rhyngwladol nawr ac yn y dyfodol." 

Academyddion eraill o'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol a gyfrannodd at yr adnoddau oedd Dr Jenny Mathers, Dr Gillian McFadyen a Dr Christopher Phillips.

Gweithiodd y tîm ochr yn ochr ag athrawon, a fu’n eu cynghori wrth i’r adnoddau gael eu datblygu. 

Yn ôl un o'r athrawon, Mr Ceri John o Ysgol Penweddig yn Aberystwyth: “Mae wedi bod yn fraint i fedru cyfrannu at brosiect mor amserol a phwysig, sydd yn codi ymwybyddiaeth pobl ifanc o Gymru fel gwlad sy’n cynnig noddfa i bobl sy’n ffoi o wrthdaro. Rwy’n gobeithio bydd yr adnoddau yma yn cynorthwyo ysgolion i ddatblygu dinasyddion byd-eang sydd yn empathetig ac egwyddorol.”

Dywedodd Mr Gareth James, Dirprwy Bennaeth Ysgol Gymraeg Aberystwyth, a oedd hefyd yn rhan o'r prosiect: “Teimlaf fod yr adnodd yn tynnu popeth at ei gilydd yn drefnus, gyda’r adnoddau a deunyddiau dysgu ychwanegol wedi eu hymchwilio’n fanwl er mwyn rhoi’r profiadau gorau posib i’r dysgwyr wrth ddysgu am destun sydd efallai’n ddieithr iddyn nhw, ac i’r athrawon. Mae’r galw am y math hwn o ddeunyddiau yn yr ysgolion yn fawr, a braf oedd gweithio gydag academyddion er mwyn creu adnoddau o’r ansawdd gorau i gefnogi’r athrawon wrth eu gwaith.”

Mae'r gyfres adnoddau, sydd ar gael trwy Hwb wedi'u rhannu’n bedair uned wahanol:

  • Mae Uned 1 yn cyflwyno dysgwyr i'r cysyniad o noddfa yng Nghymru. Mae’r gweithgareddau a gaiff eu cynnwys yn yr uned hon yn canolbwyntio ar esbonio’r gwahaniaethau rhwng termau megis ‘ffoaduriaid’ a ‘cheiswyr lloches’, gan annog dysgwyr i ddathlu cyfraniad ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru a’u cymell i feithrin parch at amrywiaeth.
  • Mae Uned 2 yn cynorthwyo dysgwyr i ddeall rhagor am draddodiadau a diwylliant cenedlaethol Wcráin yn ogystal â sawl agwedd ar ryfel Rwsia yn Wcráin, megis ystyr ac effaith y sancsiynau economaidd yn erbyn Rwsia, y ffyrdd y mae llywodraeth Wcráin yn cyfleu ei negeseuon am y rhyfel, a’r profiad o fod yn ffoadur rhyfel.
  • Nod Uned 3 yw archwilio syniadau ynghylch rhyfel a gwrthdaro gyda dysgwyr. Mae’n darparu offer i addysgwyr allu trafod gwahanol fathau o wrthdaro, ystyried o ble y daw ein syniadau am ryfel a gwrthdaro, a myfyrio sut mae rhyfel yn effeithio ar y byd o’n cwmpas.
  • Mae Uned 4 yn canolbwyntio ar ffoaduriaid a cheiswyr lloches ar lefel fyd-eang. Trwy ddefnyddio astudiaethau achos gwahanol, mae’r uned hon yn cyflwyno dysgwyr i themâu megis ffiniau, ofn, erledigaeth, a’r cysyniad o ffoaduriaid hinsawdd.