Cynhadledd i ddathlu canmlwyddiant deiseb heddwch hanesyddol

Arweinydd y ddirprwyaeth aeth â’r ddeiseb heddwch hanesyddol i’r Unol Daleithiau yn 1924 oedd Annie Hughes-Griffiths a welir yma yn dal yr apêl y tu allan i’r Tŷ Gwyn yn Washington DC gyda Gladys Thomas, Mary Ellis ac Elined Prys. Llun: Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru.

Arweinydd y ddirprwyaeth aeth â’r ddeiseb heddwch hanesyddol i’r Unol Daleithiau yn 1924 oedd Annie Hughes-Griffiths a welir yma yn dal yr apêl y tu allan i’r Tŷ Gwyn yn Washington DC gyda Gladys Thomas, Mary Ellis ac Elined Prys. Llun: Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru.

12 Mai 2023

Caiff cynhadledd undydd arbennig ei chynnal ym Mhrifysgol Aberystwyth ym mis Mai 2023 i nodi canmlwyddiant deiseb heddwch hanesyddol a lofnodwyd gan bron i 400,000 o fenywod Cymru.

Lansiwyd y ddeiseb mewn cyfarfod yn y Brifysgol ar 23 Mai 1923 ac roedd yn apelio ar i fenywod Unol Daleithiau America annog eu llywodraeth i ymuno â Chynghrair y Cenhedloedd (rhagflaenydd y Cenhedloedd Unedig) yn y gobaith o ddod â heddwch parhaol wedi erchyllterau’r Rhyfel Byd Cyntaf.

Dros y pum mis nesaf, casglwyd llofnodion 390,296 o fenywod drwy fynd o ddrws i ddrws, gan gyrraedd pob rhan o Gymru a phob haen o gymdeithas.

Gosodwyd y tudalennau lu o lofnodion mewn cist dderw gerfiedig a’u cyflwyno i fenywod yr Unol Daleithiau gan ddirprwyaeth o dair cenhades heddwch, dan arweiniad Annie Hughes-Griffiths, cyn fyfyrwraig y Brifysgol a Chadeirydd Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Cymru ar y pryd. Yn hwyrach, fe’u cyflwynwyd i’r Arlywydd yn y Tŷ Gwyn.

Ers hynny, bu’r ddeiseb a’r gist yn cael eu cadw yng nghasgliadau Sefydliad y Smithsonian yn Washington DC ond cawsant eu dychwelyd yn rhodd i Gymru ym mis Ebrill 2023 ac maen nhw bellach yng ngofal y Llyfrgell Genedlaethol yng Nghymru.

Caiff stori ryfeddol yr apêl unigryw hon am heddwch rhyngwladol ei thrin a’i thrafod yn y gynhadledd undydd a gynhelir yn adeilad Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol y Brifysgol ar gampws Penglais ar ddydd Mawrth 23 Mai 2023.

Siaradwyr y digwyddiad fydd cyfranwyr at gyfrol am apêl menywod Cymru (i’w chyhoeddi’n hwyrach eleni gan Y Lolfa) sydd wedi gwneud ymchwil archifol eang er mwyn datguddio’r stori ryfeddol hon. Maen nhw’n cynnwys Eirlys Barker; Meg Elis, llenor a chyfieithydd; y cyn Aelod Seneddol Ewropeaidd Jill Evans, Heddwch Nain Mamgu; Mererid Hopwood a Jenny Mathers o Brifysgol Aberystwyth; Craig Owen, Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru; Annie Williams, awdur ac ymchwilydd; a Catrin Stevens a Sian Rhiannon Williams, Archif Menywod Cymru.

Dywedodd cyd-drefnydd y gynhadledd Mererid Hopwood, Athro’r Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth ac Ysgrifennydd Academi Heddwch Cymru: “Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at ddod â hanes yr ymgyrch ryfeddol hon i olau dydd, yma yng Nghymru ac yn yr Unol Daleithiau. Ganrif wedi’r ddeiseb wreiddiol, mae’r angen am heddwch byd yr un mor daer, a da o beth yw cael stori fel hon i’n hysbrydoli.”

Dywedodd y cyd-drefnydd Dr Jenny Mathers o Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol y Brifysgol: “Ein gobaith yw y bydd y gynhadledd hon – ynghyd â’r gyfrol sydd i’w chyhoeddi ym mis Tachwedd 2023 – yn codi ymwybyddiaeth am apêl y menywod a sut mae’n gweddu â hanes ymdrechion ehangach Cymru i sicrhau heddwch.”

Mae mynediad i gynhadledd ‘Hawlio Heddwch’ yn rhad ac am ddim ond mae nifer y llefydd yn gyfyngedig ac mae gofyn i gynadleddwyr gofrestru ymlaen llaw ar wefan Eventbrite.