Grant ymchwil i helpu i gynhyrchu bwydydd cynaliadwy newydd

Dr Ruth Wonfor

Dr Ruth Wonfor

15 Mai 2023

Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cyfrannu at brosiect ymchwil gwerth miliynau o bunnoedd i gynhyrchu protein amgen cynaliadwy i helpu i fwydo poblogaeth gynyddol y byd.

Mae Dr Ruth Wonfor yn edrych ar y dulliau mwyaf effeithiol o ddefnyddio celloedd da byw i dyfu cig wedi’i feithrin yn gynaliadwy, yn effeithlon ac yn foesegol.

Bydd ei gwaith yn canolbwyntio ar y celloedd gorau i'w defnyddio a'r fformwleiddiadau maetholion gorau ar gyfer tyfu celloedd o dan amodau labordy.

Mae ymchwil Dr Wonfor yn rhan o brosiect gwerth £12m i sefydlu Canolfan Cynhyrchu Amaeth Cellog, a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC) a’i arwain gan Brifysgol Caerfaddon.

Dywedodd Dr Wonfor o Adran Gwyddorau Bywyd Prifysgol Aberystwyth: “Mae cynaliadwyedd cynhyrchu bwyd a chadwyni cyflenwi yn her enfawr yn y DU ac yn fyd-eang. Er mwyn cynhyrchu cig wedi’i feithrin ar raddfa fasnachol, mae angen inni ddeall a datrys cyfres o heriau cymhleth.

“Mae ein gwaith yn Aberystwyth yn canolbwyntio ar nodi’r ffynhonnell orau o gelloedd cyhyrau a maetholion ar gyfer bio-adweithyddion sy’n cynhyrchu cig wedi’i feithrin yn gynaliadwy, yn effeithlon ac yn foesegol fel bod gennym y gallu i gynhyrchu ffynonellau ychwanegol o brotein ochr yn ochr â dulliau ffermio traddodiadol, heb gynyddu niferoedd anifeiliaid. Edrychaf ymlaen at weithio gyda chydweithwyr yng Nghaerfaddon a sefydliadau eraill wrth i ni fynd i’r afael â’r broblem ddybryd o fwydo’n gynaliadwy boblogaeth fyd-eang gynyddol sy’n tyfu.”

Dywedodd yr Athro Marianne Ellis o Adran Peirianneg Gemegol Prifysgol Caerfaddon: “Rwy’n hynod gyffrous ac yn ddiolchgar bod yr EPSRC wedi cydnabod y cyfleoedd sy’n cael eu cynnig yn egin faes amaethu cellog i gyrraedd sero net a mynd i’r afael â diogelwch bwyd.

“Byddwn yn gweithredu’n drawsddisgyblaethol trwy ymgysylltu â defnyddwyr a rhanddeiliaid eraill o’r cychwyn cyntaf i sicrhau ein bod yn ategu ac yn hybu diwydiant bwyd a ffermio ein gwlad er budd cynaliadwyedd, cymdeithasol ac economaidd.”

Dywedodd Gweinidog Gwladol y DU dros Wyddoniaeth, Ymchwil ac Arloesi George Freeman: “Gyda 9 biliwn o bobl i’w bwydo erbyn 2050 mae angen i ni ddyblu cynhyrchiant bwyd y byd ar yr un arwynebedd tir, gan ddefnyddio hanner cymaint o ynni a dŵr. Ni allwn gyflawni hynny drwy amaethyddiaeth draddodiadol. Bydd y Ganolfan Cynhyrchu Amaeth Cellog yn arwain y gwaith o ddatblygu prosesau newydd i gynhyrchu grwpiau bwyd allweddol fel proteinau mewn modd cynaliadwy a chost effeithiol er mwyn bwydo poblogaeth fyd-eang sy’n tyfu.”

Mae’r prosiect saith mlynedd, amlddisgyblaethol hefyd yn cynnwys gwyddonwyr o Brifysgol Birmingham, Coleg Prifysgol Llundain, a’r Brifysgol Amaethyddol Frenhinol, gydag amrywiaeth o arbenigedd ar draws y gwyddorau sylfaenol, peirianneg, a’r gwyddorau cymdeithasol yn ogystal ag ystod o bartneriaid diwydiannol.