Gwobr fawreddog y DG i brosiect iechyd anifeiliaid academydd

(chwith i’r dde) Diane Ashiru-Oredope (Arweinydd AG, Cadeirydd ESPAUR, Fferyllydd Arweiniol, UKHSA), Dr Gwen Rees BVSc (Hons) PhD MRCVS Darlithydd mewn Darlithydd Gwyddor Milfeddygaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth, Rheolwr Rhaglen Arwain DGC Dewi Hughes, a Prif Swyddog Milfeddygol Cymru Dr Richard Irvine.

(chwith i’r dde) Diane Ashiru-Oredope (Arweinydd AG, Cadeirydd ESPAUR, Fferyllydd Arweiniol, UKHSA), Dr Gwen Rees BVSc (Hons) PhD MRCVS Darlithydd mewn Darlithydd Gwyddor Milfeddygaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth, Rheolwr Rhaglen Arwain DGC Dewi Hughes, a Prif Swyddog Milfeddygol Cymru Dr Richard Irvine.

16 Mai 2023

Mae gwaith arloesol academydd o Brifysgol Aberystwyth i helpu i frwydro yn erbyn ymwrthedd gwrthfiotig wedi ennill y prif wobr mewn seremoni yn Llundain.

Mae Rhwydwaith Pencampwyr Rhagnodi Milfeddygol, sydd wedi’i arwain gan Dr Gwen Rees o Brifysgol Aberystwyth fel rhan o Arwain DGC, yn gweithio i helpu milfeddygon rhagnodi gwrthfiotigau’n gyfrifol. Mae’r prosiect Arwain DGC ehangach, a arweinir gan Menter a Busnes gyda phartneriaid prosiect WLBP, Iechyd Da a Phrifysgol Bryste sy’n helpu ffermwyr a pherchnogion ceffylau i fynd i’r afael â lledaeniad ymwrthedd gwrthficrobaidd mewn anifeiliaid a’r amgylchedd yng Nghymru drwy leihau’r angen i ddefnyddio gwrthfiotigau.

Mae’r rhaglen yn gweithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid amaethyddol allweddol o Gymru, partneriaid cyflenwi milfeddygol, a sefydliadau academaidd i amlygu’r broblem. Drwy hyfforddiant, rhoi technoleg newydd ar waith, casglu data, a gwella dealltwriaeth, mae’r rhaglen yn annog a dangos ffyrdd o leihau’r angen i ddefnyddio gwrthfiotigau a’r risg o ddatblygu ymwrthedd gwrthficrobaidd.

Mae Gwobrau Gwarcheidwaid Gwrthfiotig 2022 yn hyrwyddo sefydliadau ac unigolion sydd ‘wedi dangos llwyddiannau wrth fynd i’r afael ag ymwrthedd gwrthficrobaidd ar lefel leol, ranbarthol, neu genedlaethol.’

Dosbarthir ymwrthedd gwrthficrobaidd yn her “Un Iechyd” fyd-eang ac mae galwadau am weithredu ar fyrder. 

Wedi’i lansio yn 2014, dechreuodd Ymgyrch Un Iechyd Gwarcheidwaid Gwrthfiotig fel system addewidion ar-lein yn seiliedig ar weithredu i gynyddu ymgysylltiad wrth fynd i’r afael â’r broblem drwy wella gwybodaeth a newid ymddygiad ar draws iechyd dynol ac anifeiliaid.

Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo yn Llundain gyda chynulleidfa ryngwladol yn dod o bob rhan o fyd iechyd ac academia.

Enwyd gwaith prosiect Arwain DGC Dr Rees ym Mhrifysgol Aberystwyth yn enillydd cyffredinol y categori ‘Presgripsiynu a Stiwardiaeth’ a chafodd y gwaith Arwain DGC ehangach ganmoliaeth uchel yn y categori ‘Cyfathrebu Cymunedol’. 

Dywedodd Dr Gwen Rees o Ysgol Gwyddor Filfeddygol Prifysgol Aberystwyth:

“Mae’n newyddion bendigedig i bawb sy’n rhan o’r prosiect. Mae’n teimlo fel llwyddiant hyd yn oed yn fwy o ystyried safon y gystadleuaeth rhwng ycydweithrediadau ymchwil rhyngwladol ym maes iechyd dynol ac anifeiliaid. Rwy’ mor falch o fod wedi cael y cyfle i weithio gyda thîm gwych o gydweithwyr. Yn bennaf oll, rwy’n ddiolchgar am waith caled ac ymroddiad ein rhwydwaith o Bencampwyr Rhagnodi Milfeddygol am wneud y prosiect y fath lwyddiant.”

Dywedodd Dewi Hughes, Rheolwr Gwasanaethau Iechyd Anifeiliaid Menter a Busnes ac rheolwr rhaglen Arwain DGC, “Rydym wrth ein bodd ac yn hynod falch bod gwaith Arwain DGC wedi’i gydnabod ymhlith ceisiadau mor gryf o’r sectorau anifeiliaid a dynol - sy’n dangos pa mor bwysig yw lleihau AMR i Un Iechyd.

“Mae’r gwobrau hyn yn brawf o ymrwymiad a medrusrwydd partneriaid rhaglen Arwain DGC yn y diwydiant amaethyddol a’r byd academaidd ac yn arddangos y gwaith maen nhw wedi’i wneud i herio AMR mewn da byw a’r amgylchedd yng Nghymru.

“Mae nifer o ffrydiau gwaith y rhaglen eisoes wedi rhoi gwybodaeth newydd bwysig am ddatblygiad a lledaeniad AMR ac wedi amlygu arferion – sy’n aml yn syml – i atal afiechyd a’r angen i ddefnyddio gwrthfiotigau.”

Mae Arwain DGC yn cyd-fynd yn agos â Chynllun Gweithredu pum mlynedd Llywodraeth Cymru Ymwrthedd Gwrthficrobaidd mewn Anifeiliaid a’r Amgylchedd (2019 – 2024). Mae rhaglen Arwain DGC wedi derbyn cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.